Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Dio Cassius"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 19 beit ,  7 o flynyddoedd yn ôl
Awdurdod
B (Bot: Migrating 41 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q185223 (translate me))
(Awdurdod)
Roedd '''Dio Cassius''', neu '''Cassius Dio''' (ganed rhwng [[155]] a [[164]] - ar ôl [[229]]) yn hanesydd Groegaidd o'r cyfnod Rhufeinig. Cyhoeddodd hanes [[Rhufain]] dros gyfnod o 983 mlynedd, o ddyfodiad [[Aeneas]] i'r [[Eidal]] hyd y flwyddyn [[229]].
 
Ganed Dio Cassius Dio yn ninas [[Nicaea]] yn [[Bithynia]]. Roedd yn fab i Cassius Apronianus, aelod o [[Senedd Rhufain]]. Yn ôl traddodiad roedd ei fam yn ferch i'r hanesydd ac athronydd Groegaidd [[Dio Chrysostom]],ond nid oes prawf o hyn. Ysgrifennai mewn Groeg, ond gellir ei ystyried fel Rhufeiniwr hefyd o ystyried cefndir ei dad.
 
Daeth ef ei hun yn Seneddwr dan [[Commodus]] ac yn rhaglaw [[İzmir|Smyrna]] ac wedyn yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl suffect]] tua 205, ac yn broconswl [[Affrica (talaith Rufeinig)|Affrica]] a [[Pannonia]]. Roedd yn ffefryn mawr gan yr ymerawdwr [[Alexander Severus]], a'i gwnaeth yn gonswl am yr eildro.
 
Roedd ei ''Hanes Rhufain'' yn cynnwys 80 llyfr. Dim ond rhannau o'r 36 llyfr cyntaf sydd ar gael, ond mae'r llyfrau dilynol hyd llyfr 54 bron yn gyflawn; mae'r rhain yn trafod y cyfnod o [[65 CC]] hyd [[12 CC]]. Mae llyfrau 56-60, yn trin y cyfnod o [[9]] OC. hyd [[54]], yn gyflawn, tra mai dim ond rhannau o'r ugain llyfr diwethaf sydd wedi goroesi.
 
Ystyrir Dio Cassius yn hanesydd dibynadwy ac yn ffynhonnell werthfawr ar nifer o bynciau, er enghraifft ar hanes [[y Celtiaid]].
[[Categori:Hanesyddion Groegaidd]]
[[Categori:Llenyddiaeth Roeg glasurol]]
 
{{Authority control}}
450,625

golygiad

Llywio