Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cadafael ap Cynfeddw"

Jump to navigation Jump to search
Lleihawyd o 133 beit ,  6 blynedd yn ôl
Awdurdod
(tacluso, categoriau)
(Awdurdod)
 
==Bywgraffiad==
Pan laddwyd [[Cadwallon ap Cadfan]]. brenin Gwynedd, yn 634, cipiwyd y deyrnas gan Cadafael ap Cynfeddw. Yr oedd gan Gadwallon fab, [[Cadwaladr ap Cadwallon]], ond yr oedd yn dal yn blentyn. Mae'n ymddangos nad oedd Cadafael yn aelod o'r teulu brenhinol, a gellir casglu iddo gipio'r orsedd trwy rym.<ref name="John Edward Lloyd 1911">John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
Gwnaeth gynghrair gyda [[Mercia]] ac ymladdodd ochr yn ochr a [[Penda]] brenin Mercia yn erbyn [[Northumbria]]. Pan ymosododd Penda ar Northumbria yn [[655]], yr oedd Cadafael a'i fyddin gydag ef. Gorchfygwyd byddin Penda gan Oswy ym [[Brwydr Winwaed|Mrwydr Winwaed]]. Yr oedd Cadafael a'i fyddin wedi troi am adref y noson cynt, ac ni chymerasant ran yn yr ymladd. Mae'n ansicr a oedd Cadafael yn fwriadol yn dymuno osgoi ymladd ynteu nad oedd yn gwybod fod byddin Oswy yn y cyffiniau. Beth bynnag yr eglurhad, enillodd yr enw sarhaus "Cadomedd", hynny yw "gwrthodwr brwydr".<ref> name="John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).<"/ref>
 
Mae'n debyg na fu Cadafael yn frenin Gwynedd yn hir ar ôl y digwyddiad yma, ond nid oes gwybodaeth beth ddigwyddodd iddo. Rywbryd yn y blynyddoedd nesaf daeth Cadwaladr ap Cadwallon yn frenin.<ref> name="John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Marwolaethau'r 650au]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
 
{{Authority control}}
450,625

golygiad

Llywio