Bulkeley (teulu): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Ffynonellau: Cywiro Ffynonellau, replaced: ==ffynhonnellau== → ==Ffynonellau== using AWB
Llinell 13: Llinell 13:
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Teuluoedd Cymreig]]
[[Categori:Teuluoedd Cymreig]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 01:39, 8 Tachwedd 2014

Teulu a fu'n ddylanwadol ar Ynys Môn ac ardaloedd cyfagos am rai canrifoedd oedd teulu Bulkeley. Eu prif drigfan oedd Baron Hill gerllaw Biwmares, ond roedd nifer o ganghennau o'r teulu.

O ddwyrain Swydd Gaer yn Lloegr y daeth y teulu yn wreiddiol, ond ymddengys eu bod ym Môn cyn 1450. Heblaw y prif gangen, roedd cangen y Gronant a'r Dronwy; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw Syr John Bulkeley o Bresaddfed. Roedd hefyd gangen Porthamel, a ddaeth i ben pan saethodd Francis Bulkeley ei hun yn 1714. Yr aelod mwyaf adnabyddus o gangen y Brynddu oedd William Bulkeley, y dyddiadurwr.

Bu aelod o brif gangen y teulu, Arthur Bulkeley, yn Esgob Bangor rhwng 1541 a 1552. Adeiladwyd plasdy Baron Hill gyntaf yn 1618 gan Syr Richard Bulkeley (bu farw 1621). Gwnaed ei fab, Thomas (1585-1659), yn Is-iarll Bulkeley.

Cynrychiolwyd Sir Fôn a'i bwrdeisdrefi yn San Steffan gan aelodau o deulu Bulkeley neu eu cefnogwyr bron yn ddi-fwlch o ganol y 16eg ganrif hyd ganol y 19eg ganrif. Torïaid uchel oeddynt o ran gwleidyddiaeth, ac yn y 18fed ganrif amheuid hwy o gydymdeimlad a Jacobitiaeth. Daeth y brif linach i ben pan fu farw'r seithfed Is-iarll Thomas Bulkeley heb blant yn 1822. Ei etifedd oedd Syr Richard Williams, mab ei hanner brawd, ac yn 1827 newidiodd ef ei enw i Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley. Mae'r teulu Williams Bulkeley yn parhau i fyw yn yr ardal, er bod Baron Hill yn adfail.

Ffynonellau