Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Mh96 (sgwrs | cyfraniadau)
barn
nodau arbennig a'r rhyngwyneb Saesneg
Llinell 531: Llinell 531:
# golygwch nhw (bron) i gyd
# golygwch nhw (bron) i gyd
# yfwch eich te sy wedi dod yn oer
# yfwch eich te sy wedi dod yn oer


== Ychwanegu nodau arbennig at y bocs golygu ==
Rwyf wedi ychwanegu'r bocs nodau arbennig sydd eisoes yn ymddangos wrth olygu trwy'r rhyngwyneb Cymraeg at y rhyngwyneb Saesneg hefyd. Mae'n bosib y bydd y bocs yn diflannu pan ddaw diweddariad i'r negeseuon o Mediwiki. Os bydd y bocs yn diflannu a rhywrai'n gweld colled ar ei ôl yna gadewch neges ar y Caffi ac fe'i ail-osodwn. Gobeithio y bydd y bocs o ddefnydd i'r rhai sy'n defnyddio'r rhyngwyneb Saesneg ar Wicipedia. Pob hwyl ar y golygu. [[Defnyddiwr:Lloffiwr|Lloffiwr]] 18:46, 24 Mehefin 2007 (UTC)

Fersiwn yn ôl 18:46, 24 Mehefin 2007

Coffi
Coffi

Croeso i Gaffi y Wicipedia Cymraeg. Dyma dudalen i chi ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia, yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd rhywun yn trio rhoi ateb i chi. Os yw'r cwestiwn yn un ieithyddol, ewch â hi draw i Wicipedia:Cymorth iaith os gwelwch yn dda.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a teipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair tilde (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.

Welcome to Welsh Wikipedia's Cafe. This is a page for you to ask questions about Wikipedia, in Welsh or English, and someone will try to answer you. If you need help on Welsh language usage, please ask in Wicipedia:Cymorth iaith.

To pose a question, click here to start a new section, and type your message. Remember to sign your message with four tildes (~~~~) at the end, please.

Archifau'r Caffi

Tanlinelli linciau

Dwi wedi sylweddoli fod linciau mewnwici wedi eu tanlinelli heb symud y llygoden dros y linc. Ar ôl edrych trwy rhai or wicipedias eraill, mae'n ymddangos taw'r wici Cymraeg yw'r unig un gyda'r broblem yma. Ai rhywbeth i wneud gyda'r meddalwedd yw'r broblem yma? Dwi ddim ond dweud hwn oherwydd byddai'r tudalennau'n edrych yn daclusach heb danlinelli pob geirenw perthnasol (byddai'n enwedig yn helpu golwg yr erthyglau sydd â llawer o jargon, ac felly llawer o linciau). --Tomos ANTIGUA Tomos 16:31, 21 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n gwybod dim am y meddalwedd yn anffodus, ond 'da chi'n iawn, buasai'r erthyglau'n edrych yn well o lawer heb y tanlinellu. Anodd deall pam fod y wikipedia Cymraeg yn eithriad i'r drefn. Roeddwn i'n meddwl ein bod ni i gyd yn defnyddio'r un system. Anatiomaros 19:33, 21 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]
Dwi wedi darganfod y broblem bobol! Nai gyd sydd rhaid gwneud yw mynd i "fy newisiadau" -> "Gosodiadau Amrywiol" -> Newid "Tanlinellu Cysylltiadau" i "Byth". Nawr bydd cysylltiadau ddim ond yn tanlinellu wrth symud pwyntydd y llygoden dros y cysylltiad. Ar y foment mae "rhagosodyn y porwr" yn tanlinellu popeth, felly os oes modd i unrhywun sydd â'r pŵer admin newid default settings y wici, bydd y wicipedia cymraeg yn edrych yn well i bawb. Ac odw, dwi'n sylweddoli pa mor annoying yw'r print trwm, ond y cyflyma mae rhywun yn medru altro'r gosodiadau cyffredinol, y cyflyma y bydd y wici'n edrych yn fwy proffesiynol. Tomos ANTIGUA Tomos 18:35, 6 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

OK, I've asked on the technical mailing list and it appears that we'll have to make an edit to MediaWici:Monobook.css. Since the effects of mucking this file up could be dramatic, I'll take this easy, and compare it against en Wikipedia's equivalent file before trying any experiments! I've never noticed this problem myself because I use a personal monobook.css file on each of the language versions I use. -- Arwel 00:55, 24 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

The file's been brought into line with that on en.wikipedia. Has this had the desired effect? We can always go back if not... -- Arwel 01:10, 24 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Perffaith. -- Tomos ANTIGUA Tomos 11:15, 26 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Tudalen spoof am 'Cynan'

Newydd sylwi ar y dudalen yma Cynan. Ddim yn siwr beth yw'r canllawiau cywir am ddileu tudalen (h.y. pwy sydd â hawl gwneud) --Ben Bore 16:29, 12 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Doniol braidd! Mae erthygl am Gynan yn bodoli eisioes: Albert Evans-Jones. Wedi ailgyfeirio'r uchod ato. --Llygad Ebrill 16:58, 12 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Dyddiadau canrifoedd

Wedi sylwi bod gwahaniaeth yn sut cyflwynir dyddiadau canrifoedd, "16fed canrif" a "16fed ganrif". Credaf mai'r canlynol y dylent fod:

11eg Ganrif

12eg Ganrif

13eg Ganrif

14eg Ganrif

15fed Ganrif

16eg Ganrif

17eg Ganrif

18fed Ganrif

19eg Ganrif

20fed Ganrif

ac yn y blaen. Be 'di'r farn?

Sion Gwilym 09:41, 8 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Siôn - Mae'r safon yma (safonau arddull) - fel rwyt ti'n awgrymu, ond gyda 'g' fach. Ond fel ti'n sylwi, mae llawer o dudalennau sy ddim yn dilyn y safon! Croeso i ti eu cywiro nhw! Daffy 12:03, 8 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Egin

Awgrymaf fod angen ail-ystyried sut yr ydym yn defnyddio'r categori/nodyn "eginyn" ("stwbyn" gynt). Mae yna dros filoedd o erthyglau yn y categori - gormod? Mae rhai ohonynt yn bitw bach ac yn debyg o gael eu hehangu, ond mae eraill yn cynnwys digon o wybodaeth perthnasol i fod yn ddigonol fel y maent, neu'n anhebyg iawn o gael eu hehangu. Fe fyddai'r categori'n fwy defnyddiol i ni petawn ni'n ei gyfyngu i'r erthyglau llai. Oes gan rhywun awydd ysgrifennu cyfarwyddiadau ynglŷn a'i ddefnydd? --Llygad Ebrill 13:51, 14 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

It might be worth starting to break the category into subcategories e.g. history stubs, geography stubs, language stubs like the English Wikipedia (en:Wikipedia:WikiProject Stub sorting/Stub types). Tigershrike 11:48, 18 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
Cytunaf yn llwyr ag awgrym Tigershrike. Mae 'na gymaint o erthyglau yn y categori 'egin' erbyn hyn fel ei fod yn wastraff amser braidd. Dydwi erioed wedi cael digon o amynedd i ddechrau chwilio trwy bob tudalen! Credaf byddai eginau Hanes, Daearyddiaeth a Llenyddiaeth yn gam i'r cyfeiriad iawn. Y dewis amlwg arall yw eginau sy'n ymwneud â Chymru (ar yr un llinellau neu fel categori cynhwysfawr am rwan?). Anatiomaros 22:25, 5 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Dwi'n cytuno ei fod yn digaloni dyn bod rhan helaeth o'r 7000 erthygl ar Wicipedia yn egin. Mynd ati i ehangu'r egin sydd eisiau, yn amlwg. Ond dwi ddim wedi fy argyhoeddi y byddai trefnu'r egin yn ddosbarthiadau yn fwy o ysgogiad i fwrw ati gyda'r gwaith ehangu, h.y. o'm rhan i. Dwi ddim yn gweld bod ail-ddosbarthu yn werth yr ymdrech sylweddol y byddai ei hangen i'w gyflawni, a'n bod ni'n griw mor fach.
Un ffordd o leihau nifer yr egin rhywfaint byddai i gyfuno rhai erthyglau sy'n trin materion cysylltiedig. E.e. gallai'r erthygl fer (ar hyn o bryd) ar 'Un Nos Ola Leuad' fod yn adran yn yr erthygl ar 'Caradog Pritchard'. Nid dweud yr ydwyf nad yw 'Un Nos Ola Leuad' a Charadog Pritchard yn haeddu bobi erthygl. On ni fyddai erthygl cyfun gyda'r cynnwys presennol yn rhy faith. Petai'r adran ar Un Nos Ola Leuad yn tyfu'n ddigon hir i fod yn erthygl unwaith eto gellid ei symud yn ôl i'w thudalen ei hun.
Mae trefn cyfuno erthyglau yn bodoli eisoes ar en: Wikipedia:Merging and moving pages. Yn fras mae yno dudalen gymorth yn cynghori ar sut i gyfuno erthyglau trwy symud cynnwys un erthygl a newid y dudalen wag i fod yn dudalen ail-gyfeirio at yr erthygl gyfun. Mae ganddynt hefyd dudalen weinyddol ar gyfer cynnig cyfuno erthyglau pan fod cynnig dadleuol i'w drafod. Mae system ganddynt o farcio'r tudalennau a gynigir â nodyn, tebyg i'r system trin tudalennau amheus. Os nad oes gwrthwynebiadau af ati i lunio rhywbeth yn debyg ar gyfer Wicipedia – os nad oes neb arall am achub y blaen arnaf! (yn ogystal â rhywbeth ar yr egin hefyd, yn dibynnu a gaf i gyfle i wneud) Lloffiwr 20:44, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Ban times

Sorry I am writing in English. I realised thad there is a problem on MediaWici:Ipboptions. Probally sysops couldnt use the ban time drop down list because there is a technical error. If you look other languages examples, like de:MediaWiki:Ipboptions or fr:MediaWiki:Ipboptions you will see that messages are not translated fully. Because software uses english times intervals as option, first message should be translated but then it should be followed by its english. And so on. ie: "TranslatedTime1:EnglsihTime1, TrasnlatedTime2:EnglishTime2,...." --Dbl2010 23:06, 21 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Thank you for the advice. Message now edited along the lines of the other examples - hope it works. Lloffiwr 19:58, 31 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

"Userbox" ar y wici

Dwi'n ddefnyddiwr o en.wiki a cy.wiki... sylweddolais i heddiw bod y techneg ar gyfer defnyddio eitemau Userbox ddim yn gweithio ar cy.wiki. Er hyn, mae'r bocsys Babel yn gweithio'n berrffaith. Dyma'r cod ddefnyddiais ar en.wiki:

{{Boxboxtop|Personal userboxes}} {{User male}} {{User Cardiff}} {{User Wales}} {{User Welsh}} {{User beer}} {{User Cycling}} {{User guitar}} {{Boxboxbottom}}

{{Boxboxtop|IT-related userboxes}} {{User css}} {{User php}} {{User java}} {{User:The Raven's Apprentice/Userboxes/User Firefox}} {{Boxboxbottom}}

Unrhyw gynnigion? Emyr42 14:19, 22 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Mae'r system Babel yr un fath ar gyfer pob wikipedia, ond mae angen creu nodyn unigol ar gyfer pob userbox arall. Tomos ANTIGUA Tomos 21:15, 19 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Pigion

Dwi wedi cael llond bol ar alotrop erbyn hyn. Gawn ni ei newid? Beth am rhywbeth o un o'r canlynol:

--Llygad Ebrill 21:40, 28 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno gant y cant! Roeddwn i wedi meddwl am ddweud rhywbeth amdano fy hun. Mae wedi bod yno ers misoedd lawer ac mae'n DDIFLAS! Dwi'n awgrymu bod ni'n rhoi rhywbeth newydd yno bob wythnos neu bythefnos. Mae gynnom ni ddigon o ddewis erbyn hyn. Anatiomaros 21:50, 28 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
dyma gopi o'r drafodaeth flaenorol ar bwnc pigion - mae'n dda gweld bod rhagor o gyfranwyr yn dangos diddordeb gan fod y drafodaeth wedi bod yn disgwyl rhagor o gyfrannwyr i gynnig mynd ati i wneud y gwaith 'peer review'. Dyma fe (Lloffiwr 13:42, 31 Ionawr 2007 (UTC)):[ateb]

Syniad da byddai cael system adolygu - ond namyn hynny, oni fyddai'n well cael chydig fwy o amrywiaeth? Am wn i, doedd neb wedi adolygu Alotrop, ac dwi wedi gweld llawer o erthyglau gwell efo mwy o ddolenni "byw". Dwi'n meddwl fod safon Cymraeg yr erthyglau newydd yn well nag oedd pan wnaeth Marnanel neud ei sylwadau isod hefyd--Llygad Ebrill 01:26, 3 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Mae Lloffiwr wedi nodi ar dudalen sgwrs Marnanel bod y rhan fwyaf o'r Pigion wedi'u hysgrifennu mewn iaith sydd o safon isel. Maen nhw hefyd yn byr iawn. Dwi'n awgrymu cael cydweithrediad (pob pythefnos, efallai) i ddatblygu erthygl i statws erthygl dewis. Gallen ni rhoi nodyn ar yr Hafan yn argymell newydd-ddyfodiaid i gymryd rhan. --Adam 16:52, 27 Mehefin 2006 (UTC)[ateb]

Rwy'n cytuno a'r syniad hyn. Mae angen gwelliant ar nifer o'r pigion. Efallai byddai lle i awgrymu rhai pigion i wella yn syniad er mwyn gwella'r rhai sydd eu hangen.---Myrddin1977 20:44, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)[ateb]
Dwi'n credu bydd hi'n addas iawn os Cymraeg bu'r featured article cyntaf. Da iawn Lloffiwr ar ysgrifennu'r erthygl wych 'ma, a'r is-erthyglau. Cwpl o bethau arall i benderfynu: yr enw "pigion" – beth yw un ohonynt, a beth byddem yn gwneud pryd ehangir Wicipedia i gynnwys featured pictures ac ati? Beth am "erthyglau dewis", "erthyglau arbennig", neu oes gan unrhywun awgrymiadau eraill? A ba arwydd i ddefnyddio am ein erthyglau gorau: y seren // ynteu'r "Wikimedal" ? Pryd cytunwn ar hyn i gyd, byddai'n mynd ati i greu'r tudalennau perthnasol ar gyfer enwebu erthyglau, ayyb. --Adam 15:26, 28 Gorffennaf 2006 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn siwr a oes ffurf unigol i ‘pigion’. Oes modd geirio fel nad oes rhaid defnyddio’r ffurf unigol? (un ohonynt, yr un ohonynt, etc?)
Rwyn gweld bod cynnig i ddechrau tudalen waith ar gyfer enwebu pigion arfaethedig. Unwaith y caiff erthygl ei henwebu oes modd i ni aros tan bod o leiaf dyweder 4 yn nodi eu bod yn barod i weithio ar yr erthygl cyn mynd ati o ddifri? A fyddai hynny’n help i sicrhau nad oes gormod o faich ar rhyw un neu ddau?
Os ydw i wedi deall yn iawn y ffordd y gwneir y gwaith o adolygu featured articles ar Wikipedia yna mae angen gwneud gwaith golygu'r testun (i sicrhau cywirdeb ac eglurder y Gymraeg) a golygu'r cynnwys (gan gynnwys gwirio'r ffynonellau). Os yw erthygl Cymraeg yn gyfieithiad o erthygl mewn iaith arall sydd eisoes yn featured article yn yr iaith honno, yna dylai gwaith golygu'r testun yn unig fod yn ddigon i sicrhau safon yr erthygl. Os mai cyfieithiad o erthygl na sy'n featured article sydd dan sylw, neu erthygl wreiddiol, yna bydd llawer yn rhagor o waith i'w wneud arno'n gwirio'r ffeithiau. Nid oes llawer o erthyglau Cymraeg â chyfeirnodion at ffynonellau arnynt chwaith. Rwyf hefyd yn meddwl y byddwn weithiau'n gweithio ar erthygl a ysgrifennwyd gan ddefnyddiwr na sy'n dal i gyfrannu i Wicipedia ac felly y bydd y golygyddion yn gwneud llawer o'r gwaith ehangu ac ail-ysgrifennu yn hytrach nag awdur gwreiddiol yr erthygl. Maddeuwch imi os yw llawer o hyn eisoes yn amlwg – mae'n debyg y ffeindiwn ni sut mae orau mynd ati i wella'r pigion wrth fwrw ati.
Diolch am y ganmoliaeth ar yr erthygl ar y Gymraeg. Byddwn yn dra diolchgar bod rhywrai yn golygu'r Gymraeg ynddi ac yn bwrw golwg manwl drosti. Rwyn teimlo ei bod yn erthygl dra phwysig ar gyfer Wicipedia. Lloffiwr 22:55, 13 Awst 2006 (UTC)[ateb]
Dwi wir yn meddwl dylen ni defnyddio term arall i "pigion" – rhywbeth megis "erthyglau arbennig" – er mwyn cael term unigol, ac hefyd i ddilyn patrwm pryd down i gael "featured pictures", "featured lists", "good articles" ac ati (e.e. "delweddau arbennig", "rhestri arbennig", "erthyglau da").
Cytuno bod 4 yn nifer digon da i benderfynu i weithio ar erthygl. --Adam 12:39, 14 Awst 2006 (UTC)[ateb]
Beth am 'erthygl ddethol/erthyglau dethol' yn lle 'pigion'? Neu 'erthygl deilwng/erthyglau teilwng'? Neu 'erthygl gymeradwy/erthyglau cymeradwy'? Lloffiwr 15:48, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]
Dwi'n hoff o "erthygl deilwng/erthyglau teilwng". --Adam (Sgwrs) 19:53, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Hoffwn holi:

  1. Y mae 3 ohonom, sef Adam, Myrddin1977 a minnau, wedi mynegi parodrwydd i helpu wrth adolygu erthyglau er mwyn creu erthyglau y gallem eu hargymell fel erthyglau teilwng. Oes rhagor o gyfrannwyr yn barod i ymgymryd â'r gwaith hwn?
  2. Os nad oes digon o bobl i greu criw adolygu yna oes angen rhoi gwadiad cryf ar yr hafan ynglŷn â safon cynnwys y pigion?
  3. Heb drefn adolygu pwy sydd i ddewis y pigion?
  4. Oes gwell dileu adran y pigion yn gyfangwbl am nawr?

Lloffiwr 22:48, 3 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Byddwn i'n barod i helpu. Dwi o blaid cadw adran y pigion ond mae'n rhaid creu rhyw fath o drefn adolygu. Daffy 23:21, 3 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]
Minnau hefyd. Mae'n bwysig ein bod yn gwneud ein "stepan drws" mor ddeniadol â phosibl i denu pobl i mewn. Anatiomaros 23:38, 3 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]
Beth am gael tudalen rywbeth fel yr un ar y Wici Saesneg, lle mae modd i ddefnyddwyr awgrymu erthyglau y credant eu bod yn deilwng i fod yn erthyglau dethol. Yma gallai defnyddwyr eraill roi eu sylwadau, o blaid neu yn erbyn, neu gallent wella'r erthygl eu hunain neu awgrymu gwelliannau. Os yw'n glir fod cytundeb fod yr erthygl yn ddigon da i fod yn erthygl ddethol, gellid ei rhoi mewn categori Erthyglau Dethol. Yna gellid dewis erthyglau o'r categori yma i fod ar y dudalen flaen. Mae'n debyg y dylid ysgrifennu rhyw fath o ganllawiau i egluro'r gofynion ar gyfer erthygl ddethol gyntaf e.e. dim rhy fyr (efallai lleiafswm o bedwar paragraff?), iaith yn gywir, dim bylchau amlwg yn yr ymdriniaeth â'r testun, dim cymeryd ochr ar bynciau dadleuol a bod o leiaf un ffynhonnell yn cael ei nodi. Mae nifer llawer mwy o erthyglau newydd wedi cael eu creu ar y Wici yn ddiweddar, felly mae digon o ddeunydd ar gael. Rhion 13:15, 4 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]
Byswn i'n fodlon helpu efo'r broses adolygu hefyd. Cytuno fod newid yr enw i "erthygl(au) dethol" yn syniad da. Byswn i'n ychwannegu at y gofynion fod eisiau i fwyafrif y dolenni yn yr erthygl fod yn rhai fyw - h.y. fod erthyglau ar bynicau tebyg yn bodoli. Un o'r pethau mwya hwylus am wicipedia yw fod rhywun yn gallu neidio o un erthygl i un arall, ac mae'r dolenni coch a geir fel arall yn anneniadol. Beth am ddefnyddio Sgwrs_Nodyn:Pigion fel tudalen ar gyfer enwebu erthyglau a thrafod y broses golygu? --Llygad Ebrill 14:02, 5 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]
Rwyf wedi drafftio tudalen waith ar gyfer trin a thrafod darpar erthyglau dethol. Rwyf wedi ceisio cynnwys y pwyntiau sydd wedi eu trafod ar y caffi. Rwyf hefyd wedi drafftio tudalen gymorth ar erthyglau dethol. Os caiff y rhain eu cymeradwyo bydd dolenni atynt yn cael eu cynnwys ar y brif dudalen gymorth a phorth y gymuned (gwaith i'w wneud). Rwyf hefyd wedi creu categori ar gyfer erthyglau dethol. Mae'n debyg y byddwn yn dileu'r hen gategori ar gyfer pigion unwaith bod y system newydd yn barod.
Rwyn cynnig hefyd ein bod yn holi i Marnanel i ail-gydio yn y gwaith o ddewis o blith yr erthyglau dethol a'u harddangos ar yr hafan, unwaith y bydd rhywbeth iddo ddewis ar gael! Lloffiwr 22:12, 5 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Ie, dyma'r math o beth sydd angen. Rwy'n meddwl y dylid cael un person sydd yn penderfynu pa bryd mae cytundeb bod yr erthygl yn addas/anaddas ac yn gweithredu ar hyn, rhag bod pethau'n llusgo ymlaen. Rhion 22:24, 5 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Cytuno. Does dim angen sefydlu pwyllgor. Penodi un person a dewis 'rheolau' clir a di-drafferth di'r peth gorau. Pa mor aml ydym ni am roi erthygl newydd yno, er enghraifft: bob wythnos? Anatiomaros 22:34, 5 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Byddai unwaith bob pythefnos yn syniad da dwi'n credu. Ond byddai angen i nifer o ddefnyddwyr gyd-weithio yn rheolaidd i greu erthyglau o safon uchel. Byddai'n syniad da i ddechrau drwy wella'r erthyglau craidd sydd ar flaen yr hafan. Tomos ANTIGUA Tomos 12:23, 6 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Fe fuaswn i'n awgrymu rhywbeth fel hyn:
  • Erthyglau i gael ei henwebu os ydynt ym marn y defnyddiwr sy'n enwebu yn cyrraedd y safon ar gyfer Ethygl Ddethol. Safon yr erthygl sy'n bwysig yn hytrach na phwysigrwydd y pwnc. Os nad yw safon yr erthyl yn ddigon da, dylid ei gwella gyntaf, yna ei henwebu.
  • Gallai defnyddwyr eraill wedyn roi eu barn, e.e.
    • Cefnogi - cytuno bod yr erthygl yn cyrraedd y safon. Nid yw hyn yn golygu na ellid cynnig mân welliannau hefyd.
    • Sylwadau - mae angen gwaith ar yr erthygl, ond gall ddod yn Erthygl Ddethol heb ormodedd o waith. Sylwadau manwl i'w cynnig ar dudalen sgwrs yr erthygl ei hun.
    • Gwrthwynebu - mae'r erthygl ymhell o'r safon angenrheidiol; dylid tynnu'r enwebiad yn ôl ac ail-enwebu'r erthygl pan mae wedi gwella.
  • Gallai'r person sydd yn gyfrifol am y dudalen benderfynu pan mae cytundeb, un ai bod yr erthygl yn dderbyniol (ei marcio fel Erthygl Ddethol a'i rhoi yn y categori hwnnw) neu ei bod yn annerbyniol (ei thynnu o'r dudalen; efallai cael tudalen arbennig i restru enwebiadau sydd wedi methu). Er enghraifft, os yw'r dudalen wedi bod ar y rhestr am bythefnos ac o leiaf dair pleidlais o blaid neu yn erbyn a neb yn dweud yn wahanol.

Os oes Sylwadau a gwaith yn mynd ymlaen ar yr erthygl, ei gadael am gyfnod hirach. Bydd angen gadael tipyn o hyn i synnwyr cyffredin y person sy'n gyfrifol am y dudalen. Rhion 11:06, 11 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

  • Pwy yw 'y person sy'n gyfrifol am y dudalen'?
  • Dwi ddim yn gweld y gall neb gefnogi'r erthygl tan bod pob ffaith ynddo wedi ei wirio i ffynhonell dibynadwy (byddai ffynonellau yn well fyth) gan rywun (nid y person ysgrifennodd yr erthygl).

Lloffiwr 13:41, 11 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Rwyf wedi ceisio addasu'r drafftiau darpar erthyglau dethol a erthyglau dethol i gynnwys y cynigion a wnaed uchod wedi'r drafft cyntaf. Rwyn credu y gallwn addasu rhagor ar y system unwaith y cawn profi sut mae'n gweithio. Mae'n siwr y daw hi'n amlwg yn ddigon cloi a ydym yn tynnu gyda'n gilydd ynteu'n croes-dynnu! Oes rhywrai'n barod i gytuno i fentro arni? Lloffiwr 18:44, 17 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Diolch am y gwaith ar hyn. Dwi'n barod i gymryd rhan, wrth gwrs, ond yr unig beth sy'n fy mhoeni braidd yw'r ffaith fod gennym cyn lleied o gyfrannwyr cyson a dwi ddim eisiau gweld ni'n colli gormod o amser yn pwyllgora ac ati. 'Dan ni angen erthyglau o safon, mae'n sicr, ond 'dan ni angen llwyth o eginau da hefyd. Ond dwi ddim eisiau swnio'n rhy negyddol; mae'n syniad da a dwi'n barod i wneud yr hyn a fedraf. Anatiomaros 19:34, 17 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Efallai mai'r peth gorau i'w wneud fyddai rhoi erthygl neu ddwy ymlaen i weld sut mae pethau'n mynd, yna newid y system os yw'n ymddangos bod angen. Rwy'n dal i feddwl bod angen un person i fod yn gyfrifol am y dudalen, fel yn y wici Saesneg, neu fe fyddwn yn troi mewn cylchoedd - efallai y byddai Eleri yn barod i wneud? Rhion 19:57, 18 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Cytunaf â sylwadau Rhion. Os byddai Eleri'n barod i ymgymryd â'r gwaith dwi'n fwy na bodlon eilio'r cynnig. Fôn. Anatiomaros 20:16, 18 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Nodyn ac ailgyfeirio

Dwi'n cael trefferth yn creu nodau (templates yn y wikipedia saesneg). Yn syml, dydy fy ngheisiadau cyntaf i ddim yn gweithio'n iawn (gwelech Cynghrair Celtaidd am enghraifft), a dwi ddim yn siwr beth sy'n bod arnynt. Oes unrhywun yn fodlon edrych i weld beth sy'n bod fel bod moddd i fi wneud mwy o nodau ar gyfer gwahanol erthyglau?

Problem arall sydd gen i yw ailgyfeirio. Dwi wedi trio defnyddio tags "REDIRECT" on dyw e ddim yn gweithio. Ynrhyw syniadau sut i wneud hyn?

    • Sori. Newydd sylweddoli nes i newid "Ffurfio" i "Sefydlu" hanner ffordd try greu y nodyn a heb newid y tags i gyd. 'Sdim problem gyda'r ailgyfeirio 'chwaith.

Delweddau

Sut ydw i'n llwytho delweddau? Nid yw'r dudalen "Cymorth: sut ydw i'n etc" yn esbonio dim byd Sanddef 21:34, 4 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]

Clicia ar Uwchlwytho ffeil a wedyn chwilia am y ffeil sydd angen llwytho drwy glicio ar "browse" Tomos ANTIGUA Tomos 14:31, 8 Chwefror 2007

Bathu termau

Mae sawl sgwrs wedi cymryd lle ar dudalennau sgwrs ynglyn a thermau sydd wedi cael eu bathu wrth i rhywun ysgrifennu erthyglau. Weithiau, mae yna derm safonol yn bodoli eisioes, ond mae'n bosib nad oes yna derm Cymraeg sy'n cyfleu'r ystyr cywir yn y cud-destun. Beth yw "balloon fetish" yn Gymraeg, beth yw "noncommutative ring over a finite field", beth yw "Chaos Magic"? Os ydan ni'n cyfieithu pethau sydd heb cael eu trafod yn Gymraeg o'r blaen, mae bathu termau'n angenrheidiol ac yn beth dda; ond os mae termau safonol arbenigol yn bodoli'n barod, efallai nad yw awdur yn ymwybodol ohonynt, ac fe fyddai'n beth da eu defnyddio yn lle rhai sydd wedi cael eu bathu'n byrfyfyr wrth gyfieithu. Am hynny, dwi wedi creu Nodyn:Bathu termau, ac am gychwyn ei osod ar rhai erthyglau perthnasol. --Llygad Ebrill 12:27, 6 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Yn cytuno bod hwn yn syniad da. Dwi'n cymryd mai ar dudalen sgwrs yr erthygl perthnasol y bydd y trafod yn digwydd - dyna yw'r syniad? Ydy hi'n werth cael adran ar y caffi iaith, neu dudalen newydd sbon, fydd yn cofnodi bod trafodaeth ar eirfa rhyw erthygl wedi dechrau? Byddai'r adran neu'r erthygl yn gweithio'n debyg i'r dudalen tudalennau amheus. Byddai'n cofnodi bod trafod wedi dechrau, yn rhoi cyswllt i'r dudalen sgwrs, ac yn cofnodi diwedd trafodaeth. Neu os yw hyn yn rhy gymhleth, beth am roi brawddeg ar adran gyflwyno'r caffi iaith yn cyfeirio at y categori Categori:Erthyglau sy'n cynnwys termau wedi eu bathu er mwyn hyrwyddo trafod ar fathu termau? Lloffiwr 21:49, 18 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]
Dwi wedi rhoi'r nodyn ar ffurf y negeseuon "NPOV", "cleanup" ayyb a geir ar y Wikipedia Saesneg. --Adam (Sgwrs) 15:36, 3 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Diolch Lloffiwr am dy sylwadau. Dwi'n meddwl mai tudalen sgwrs yr erthygl ei hun yw'r lle gorau am drafodaeth fel arfer, ond bosib fod angen rhywbeth mwy canolog am achosion ble mae na anghytuno (e.e. enwau gwledydd). Diolch am Adam am roi fformat mwy pendant i'r nodyn, mae'n edrych yn well mewn bocs. Fodd bynnag, tydi hwn ddim fel NPOV a cleanup, tydi'r cynnwys ddim yn amheus fel y cyfryw. Fe all yna fod achosion lle mai wicipedia yw'r lle cyntaf i drafod rhyw bwnc yn Gymraeg, ac felly fe fydd y nodyn ar y tudalen am byth. Dwi'n awgrymu felly, fod y nodyn yn mynd ar waelod tudalen, nid ar y ben, ac nad oes angen y logo "?" mawr. Cofion, --Llygad Ebrill 19:44, 3 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Digon teg, dyw'r nodyn dim wir yn golygu bod "problem" â'r dudalen. Byddai'n tynnu'r gofynnod oddi arno. --Adam (Sgwrs) 20:26, 3 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Beth am gael tudalen gymorth ar Fathu Termau yn hytrach na'r dudalen drafod a awgrymais uchod? Byddai'r tudalen gymorth yn cyfeirio at Categori:Erthyglau sy'n cynnwys termau wedi eu bathu ac yn egluro sut mae defnyddio'r nodyn. Petai rhywun yn awyddus i hybu trafod ar rhyw derm yn arbennig (ar y dudalen sgwrs perthnasol) yna gallai roi cyswllt ar y caffi iaith i dynnu sylw at y drafodaeth arbennig honno. Lloffiwr 18:04, 18 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Mae'r nodyn ar hyn o bryd yn dweud:

'Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau a ellir bod wedi eu cyfieithu at ddiben Wicipedia yn unig:...'

Oes rhaid cael yr 'at ddiben Wicipedia yn unig'?. Beth am arall-eirio ychydig i ddweud:

'Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon:...'

Lloffiwr 13:39, 25 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Mae 'na fwy o dinc i hynny - syniad da. --Llygad Ebrill 19:09, 25 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Spoken articles

Can we maybe have spoken articles on cy:, like on [1] and so on? It would be pretty useful. Marnanel 18:30, 22 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Ambitious for such a small wiki. Tomos ANTIGUA Tomos 17:01, 23 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Mae'r dydd bron yma. Rwy'n meddwl y basai'n dda i rywun ysgrifennu erthygl fwy na'r un sydd rwan ar gyfer yr adeg. 'Swn i'n ceisio, ond dydy fy Nghymraeg mor dda... Edricson 22:47, 23 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Rwyf wedi ehangu'r erthygl dipyn. Rhion 22:02, 24 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Wicillyfr Cymraeg

Hello! Dysgwr dw'i, ond dw i'n ceisio sgwennu un Wicillyfr i addysg yr iaith Gymraeg. Dw i'n hoffi dechrau un llyfr gramadeg a un llyfr a la "Teach Yourself". Dw i wedi sgwennu tipyn o project, ond mae rhaid i mi helpu.... Ok, I'm struggling... A call to arms....anyone wish to contribute to a Welsh Wikibook [[2]]? Diolch! Kijog 16:13, 25 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Etholaethau

I was wondering what fellow Wikipedians thought about whether the names of UK Parliamentary Constituencies outside of Wales should be translated in Welsh. Nearly all are in English (except en:Na h-Eileanan an Iar (UK Parliament constituency) and single names that can't be translated e.g. en:Solihull (UK Parliament constituency)). This would apply to translating City/Town names (Liverpool -> Lerpwl) compass directions (North -> Gogledd) & and -> a/ac.

  • 'Gogledd Ddwyrain Bolton' or 'Bolton North East'.
  • 'Heywood a Middleton' or 'Heywood and Middleton'.
  • 'Dinas Caer' or 'City of Chester'.

Paul-L 16:37, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n meddwl dylem ni ddefnyddio'r enwau Cymraeg. I think we should use the Welsh forms. In case of confusion 'Bolton North East' could be redirected to 'Gogledd-ddwyrain Bolton', for example. Anatiomaros 16:42, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Enwau priodol Groeg

Hoffwn awgrymu polisi am ffurf a sillafiad enwau Groeg, er mwyn sicrhau cysondeb ac yn y blaen (ac fel nad oes angen trafod gormod o achosion unigol). Dwi'n meddwl ar Roeg hynafol yn bennaf, ond efallai fod modd gwneud rhywbeth tebyg gyda rhai enwau Groeg gyfoes hefyd. Mae hyn yn seiliedig ar atodiod sy'n ymddangos yng nghyfieithiad J. Gwyn Griffiths o Farddoneg Aristoteles (Gwasg Prifysgol Cymru 1978/2001).

  1. Defnyddio ffurfiau sydd wedi hir gartrefu yn y Gymraeg, lle bo cyfle, e.e. Athen, Aristotlys, Caerdroea, Ercwlff, Homer, Priaf, Pawl
  2. Mewn enwau eraill, rhoi'r seiniau Cymraeg sy'n cyfateb agosaf i'r seiniau Groeg. E.e. Agathon, Antigone, Charon, Critias, Gorgias, Megara, Phiadron, Platon, Socrates, Thiaitetos, Thebai, Scamandros. (ac mewn rhai achosion rhoi blaenoriaeth i hyn dros hen ffurf Cumraeg, e.e. Heracles ac Aristoteles yn lle Erclwff ac Aristotlys)
  3. Pwyntiau Arbennig:
  • Cadw'r terfyniad -os
  • Groeg υ (upsilon) = Cymraeg u (Osgoi "y", am fod dwy sain iddi yn y Gymraeg), ag eithrio y deuseiniaid αυ = aw, ευ = ew, ου = w.
E.e. Aischulos, Olumpos, Pulos; Glawcon, Epidawros, Ewpolis, Ewripides, Epicwros, Oidipws, Suracwsai, Thwcudides.
  • ζ = z
E.e. Zenon, Zews.
  • κ = c
E.e. Cadmos.
  • ξ = x
E.e. Xenophon, Xerxes, Anaxagoras.
  • φ = ph
  • Dyblu cytsieniaid fel yn y Groeg, ag eithrio λλ = l.
E.e. Erinna, Purrha, Simmias, Hippias, Odussews; Apolon.

--Llygad Ebrill 13:49, 18 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Nid wy'n gwybod unrhywbeth am Roeg ond mae'r hyn wyt ti'n awgrymu i'w glywed yn synhwyrol. Felly dwi'n cefnogi'r awgrym. Lloffiwr 17:46, 18 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Na fyddai'n syniad troi 'ζ' yn 's', gan fod 'z' ddim yn swyddogol yn yr wyddor Cymraeg, a nid yw'n cael ei ddefnyddio'n gyffredinol chwaith. Tomos ANTIGUA Tomos 21:21, 19 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Mae z yn llythyren "swyddogol" Cymraeg mewn ambell i gyd-destyn e.e. yr elfen Zinc (nid sinc!). Dwi'n meddwl fod Zews yn eitha cyffredin fel enw ar y Dur groegaidd, ond gwelais i "Sews" erioed. Mae gan y system uchod y mantais ei fod yn cyfleu'r sillafiad Groeg gwreiddiol yn union mwy neu lai - e.e. mae'n gwahaniaethu rhwng sigma (s) a zeta (z). --Llygad Ebrill 12:01, 21 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Er nad oes z yn yr wyddor Gymraeg yr amcan fan hyn yw trawslythrenni'r wyddor Groeg mewn ffordd sy'n cyfleu ynganiad y Groeg cystal ag y gellir gwneud. Rwyn cymryd bod zeta yn cael ei ynganu'n debycach i z yn yr wyddor Saesneg nag i'r s yn yr wyddor Gymraeg. A bwrw bod hynny'n wir yna z sydd yn mynd i ateb y pwrpas yn well. Er nad yw z yn yr wyddor Gymraeg mae'n cael ei ddefnyddio mewn ambell i air benthyg - y gair olaf yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yw Zwingliaidd os gofiai'n iawn. Lloffiwr 13:16, 21 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Un o'r anawsterau dwi'n gweld yma yw bod y ffurfiau a ddefnyddir gan awduron Cymraeg yn amrywio cymaint. Ni fyddai pawb yn cytuno ag awgrymiadau J. Gwyn Griffiths. Yn anffodus does gennym ni ddim ffynhonnell "anffaeledig" - dim Canllaw swyddogol fel petai - ac mae 'na berygl i ni greu ffurfiau diarth a fydd i'w gweld ar y wicipedia Cymraeg yn unig. Serch hynny dwi'n cytuno â J.G.W. ynglŷn â chadw'r terfyniad -os, ζ = z, κ = c, ξ = x (ar y cyfan), φ = ph (eto, ar y cyfan) a dyblu cytseiniaid. Fodd bynnag fedra'i ddim cytuno â'r rheol am yr upsilon yn cael ei chynrychioli gan 'u' etc yn ddiethriaid, yn bennaf am resymai esthetaidd (dwi ddim yn hoff o 'Suracwsai' am y 'Syracuse' gyfarwydd o gwbl, er enghraifft).

Hefyd mae'n ymddangos nad yw canllawiau J.G.G. yn gyson:

"Defnyddio ffurfiau sydd wedi hir gartrefu yn y Gymraeg, lle bo cyfle, e.e. Athen, Aristotlys, Caerdroea, Ercwlff, Homer, Priaf, Pawl. Mewn enwau eraill, rhoi'r seiniau Cymraeg sy'n cyfateb agosaf i'r seiniau Groeg. E.e. Agathon, Antigone, Charon, Critias, Gorgias, Megara, Phiadron, Platon, Socrates, Thiaitetos, Thebai, Scamandros. (ac mewn rhai achosion rhoi blaenoriaeth i hyn dros hen ffurf Cumraeg, e.e. Heracles ac Aristoteles yn lle Erclwff ac Aristotlys)".

Dyna'r geiriau "lle bo cyfle" ac yna yr amod ychwanegol "mewn rhai achosion rhoi blaenoriaeth i hyn [ffurfiau ffonetig] dros hen ffurf Cymraeg". Ond pwy sy'n mynd i benderfynu os yw'r cyfle'n bod a phryd yn union ydi hi'n briodol neu beidio i ddefnyddio ffurf ffonetig yn lle hen ffurf Gymraeg cyfarwydd? Mae'n ymddangos yn broses fympwyol braidd.

Dau beth arall sy'n fy mhoeni braidd. Yn gyntaf mae'n well gennyf rai ffurfiau Groeg mewn gwisg Ladinaidd na rhai o'r ffurfiau trwsgl 'Cymreigaidd' a welir weithiau. Yn ail rhaid i ni ystyried mai pobl gyffredin yn hytrach nag arbenigwyr sy'n defnyddio'r wicipedia. Dwi'n meddwl ei bod yn well cyfyngu'r defnydd o ffurfiau Cymraeg sydd ddim yn bod eisoes. Dwi'n hoff o lenyddiaeth a hanes yr Henfyd ac yn gyfarwydd â nifer o enwau personol a lleoedd ond mae rhai ffurfiau Cymraeg - e.e. gan Euros Bowen yn ei gyfieithiadau (gwych gyda llaw) o waith Ewripides - yn fy nrysu'n lân.

Gellid ystyried hyn yn rhan o'r ddadl ehangach am Gymreigio enwau lleoedd. Nid dyma'r lle i fanylu ond rhai imi ofyn hyn: os yw'n iawn i ddefnyddio 'Lisboa' am 'Lisbon' (sy'n ffurf Cymraeg yn fy marn i ac eraill) er mwyn parchu enwau brodorol, pam bod hi'n iawn ar y llaw arall i geisio troi Groeg yn Gymru? Yn ysbryd y wici... Anatiomaros 21:51, 21 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Mae'n amlwg eich bod yn gwybod mwy am lenyddiaeth yr henfyd - ac yn gyfarwydd a mwy o gyfieithiadu i'r Gymraeg - na mi, ac mae'n ddrwg gen i am fod ychydig bach yn rhy frwdfrydig wrth symyd erthyglau. Ond, ar y cyfan, yr amcan sydd gen i yw defnyddio enwau sy'n agosach i'r gwreiddiol yn hytrach na 'throi Groeg yn Gymru'. Mae rhai o ffurfiau'r enwau hyn wedi eu or-ladineiddio, er enghraift fod yr n yn diflannu o "Platon" (a "Plato" oedd yr erthygl yma tan ychydig fisoedd yn ol gyda llaw), a terfyniadau megis -us ac -er yn lle -os. Cyd-ddigwyddiad hapus yw bod rhai o'r enwau Groeg yn swnio'n Gymreicach (dwi'n hoff o ewnau gydag "andros" ynddynt!) na'r fersiynau sy'n cael eu defnyddio yn y Saesneg. Bysech chi'n cytuno ei bod yn syniad addasu'r enwau ar Rhestr awduron Groeg clasurol i gadw'r terfyniad -os ac yn y blaen (ond gan osgoi ffurfiau trwsgwl)? Gyda llaw dwi'n meddwl ei fod yn fuddiol ein bod yn trafod yr enwau fel hyn - mae'n dangos mai nid cyfieithiadau llythrennol o'r wici Saesneg sydd yma, ac yn y blaen. Hmm. Dwi wedi ail-feddwl am Lisbon.--Llygad Ebrill 12:03, 22 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n gwerthfawrogi ac yn cydymdeimlo â'r hyn rwyt ti'n ceisio wneud. Gellid trafod y pwyntiau unigol am byth ac mae'n debyg ei bod yn well i ni dreulio'n hamser yn cyfrannu erthyglau na gwneud hynny! Croeso iti newid terfyniadau i -os yn y rhestr awduron; doeddwn i ddim yn bwriadu iddi fod yn rhestr 'awdurdodol' neu 'derfynol', dim ond man cychwyn. Does dim ateb syml i'r cwestiwn o Gymreigio enwau. Yn achos enwau Groeg rhan o'r broblem yw bod ni wedi colli cymaint o'r traddodiad Clasurol ym myd addysg; gresyn nad oes gennym ni gyfeirlyfrau safonol yn y Gymraeg fel y 'Classical Dictionaries' niferus sydd ar gael yn Saesneg ac ieithoedd eraill. Un canlyniad o hynny yw bod unrhyw un sy'n ymddiddori ym mhethau'r Henfyd yn tueddu i ddod yn gyfarwydd ag enwau Lladin/Lladinaidd a fersiynau orgraff Saesneg neu Ffrangeg o enwau clasurol (ac mae 'na filoedd o nhw!). Efallai'r unig ateb, yn ddelfrydol, fyddai rhoi'r enwau yn yr orgraff Roeg gyda fersiwn/fersiynau ffonetig Cymraeg a'r ffurfiau Lladin hefyd - ond breuddwyd gwrach di hynny! Anatiomaros 16:43, 22 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Publicity

I've received an email from Sandra Ordonez (sordonez@wikimedia.org) at the Wikimedia Foundation which may be of interest. As I'm hardly ever around here, would someone like to take over the response?

"A Welsh-American newspaper would like offer you guys free advertisement space. Would you guys be interested, and could you forward me a logo with some text maybe explaining what the Welsh Wikipedia is all about. I think its a great opportunity.....particularly since there are many Americans of Welsh descent or Welsh people who live in the States, that may not be aware of the site.

Please let me know if I can help in an any way gathering these materials. Or if I should contact someone else from the Welsh Wikipedia to get their opinion.

Sandy"

-- Arwel 23:14, 21 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n meddwl fod hyn yn gyfle gwych. Ydy pawb yn cytuno? Pwy sydd am anfon e-bost? Anatiomaros 16:46, 22 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Cytuno. Lloffiwr 12:57, 25 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Ydy rhywun wedi ymateb i hyn? Mae David Gerard yn sôn amdani ar restr wikimediauk-l. Telsa 20:10, 3 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Oes rhywun yn teimlo fel ymateb i hyn? Buasai'n well i rywun sy'n fwy cyfarwydd na fi â hanes ac ystadegau'r wikipedia Cymraeg i'w wneud, ond dwi'n fodlon anfon gair os rhaid. Mae'n gyfle da ac does dim ymateb yma ers pythefnos bron! Anatiomaros 20:34, 7 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Byddwn yn falch petaech chi Anatiomaros yn cymryd at y gwaith o gyfansoddi hysbyseb. Rhowch drafft fan hyn os ydych am ymgynghori cyn anfon (dim bod rhaid gwneud hynny chwaith). Lloffiwr 17:12, 8 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Patrymluniau (Templates)

Oes tudalen o batrymluniau ar Wicipedia (fel sydd ar Wikipedia)? Os oes, ble mae nhw, ac os ddim, sut mae mynd o gwmpas eu creu? Mae defnyddiwr wedi bod yn brysur yn creu erthyglau am glybiau pêl-droed Cymreig, a meddwl oeddwn i byddai'n neis cael patrymlun ar eu cyfer (fel hwn). Os nad ydi'n rhy anodd i greu un, dwi'n fodlon gwneud y gwaith cyfieithu/gosod dolenni, cyn belled a bod rhywun yn fy rhoi ar ben ffordd. --Ben Bore 15:31, 13 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Does dim rhestr o nodiadau gennym ni, ond mae'r mwyafrif yn y categori Categori:Nodiadau. Mae'r gwybodlenni (infoboxes) yn y categori Categori:Gwybodlenni. Os ydych chi'n teimlon'n barod i greu'r nodyn (byddai'n awgrymu o dan yr enw Nodyn:Gwybodlen Clwb pêl-droed) ewch ati i'w wneud, ond cymerwch gofal gyda'r cystrawen wici – weithiau gall un gamgymeriad bach gwneud llanast o'r holl beth! Ond os ydych chi'n cyfieithu o'r côd Saesneg dylech chi fod yn iawn. --Adam (Sgwrs) 17:46, 13 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]
Infoboxes (Gwybodlenni) are generally created when there is enough demand for them on the wicipedia. One day an Album Infobox (Gwybodlen Albwm) will be created, but I think that we only have two album articles on the whole wicipedia, Mwng being one of them. Paul-L 13:24, 24 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Delweddau Wiki

A oes modd defnyddio delweddau o'r Wiki Saesneg ar dudalanneu Wici Cymraeg, heb orfod eu hail fynnu-lwytho eto?

Diolch

Garynysmon 10:43, 17 Ebrill 2007 (UTC))[ateb]

Mae'n debyg nad yw'n bosib copio delweddau o wiciau eraill heblaw am Gomin Wicifryngau - gweler gwaelod y dudalen hon. Ydych chi wedi edrych ar Gomin Wicifryngau am y ddelwedd? Lloffiwr 12:39, 17 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, os nad yw'r llun ar Gomin Wicifryngau yna gall fod y cafodd ei lwytho cyn bod Comin Wicifryngau yn bod neu mae problemau hawlfraint yn ei hadel (atal) rhag cael ei roi ar Gomin Wicifryngau. Lloffiwr 12:53, 17 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Cwestiwn bach

Dydy cwestiwn hwn ddim yn perthyn i Wicipedia, dweud y gwir, ond fe ddes i yma er mwyn ffeindio siaradwyr Cymraeg.

P'un yw'r sillafiad cywir -- "sgwd" neu "sgŵd"? Mae geiriadur Mark Nodine yn dangos nad oes het ar yr "w", ac mae'r map OS Explorer yn anghyson ("Sgwd yr Eira" ond "Sgŵd y Pannwr").

Diolch.

Yn ôl Geiriadur y Brifysgol, mae dau "sgwd"

  • 1. Sgwd yn golygu rhaeadr neu bistyll, dim tô bach (felly efallai mai "Sgwd y Pannwr" ddylai fod)
  • 2. Sgwd, neu amrywiad "sgŵd". yn golygu gwthio, "rhoi sgwd i rywun" - felly gallai'r ddau fod yn gywir yma. Rhion 12:48, 18 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr am dy gymorth. Ro'n i'n gofyn am yr ystyr gyntaf, mewn ffaith.

'Rhestr Gwylio' wedi newid i 'My Watchlist'

Oes rheswm am hwn? Tomos ANTIGUA Tomos 23:28, 19 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Baneri Bychain

A oes modd cael baneri bychain wrth ymyl enw i ddangos eu cenedligrwydd (fel y tudalen hon [[3]], er enghraifft), oc os felly, sut?

Diolch

Garynysmon

Yn debyg i erthygl y Scarlets? Bydd angen creu Nodyn arbennig ar gyfer rhai pel-droed. - Tomos ANTIGUA Tomos 17:16, 6 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Wiki Meetup yn ystod Eisteddfod Sir y Fflint 2007?

Yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni bydd blogwyr yn cwrdd am flog-gwrdd (fel llynedd), unai ym Mhabell y Cymdeithasau ar y prynhawn Dydd Mawrth yn dilyn cyflwyniad ar wefannau a meddalwedd Cymraeg, neu at ddiwedd yr wythnos mewn lleoliad llai ffurfiol. A fydd aelodau Wicipedia'n mynychau'r Eisteddfod, ac a hoffech chi gwrdd?--Ben Bore 15:26, 16 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Dwi'n debyg o fod yno. Cyfle i gyfarfod ac i ddenu mwy o gyfranwyr o bosib? --Llygad Ebrill 21:46, 16 Mai 2007 (UTC)[ateb]
Mae'n debyg y byddaf yn mynd i'r Eisteddfod ar un diwrnod - ond ni fydd clem gennyf pa ddiwrnod am hydoedd! Os digwyddaf fod yno ar y diwrnod cywir byddaf yn falch cael cwrdd â'm cyd-Wicipedwyr. Lloffiwr 18:48, 17 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]
Dwi yn yr un sefyllfa. Dwi'n gobeithio cael lifft yno gan ffrind am y diwrnod ond mae'n debyg y bydd hi'r funud olaf cyn imi gael gwybod. Buasai'n braf cael cwrdd â'n gilydd, yn sicr. Pwy a ŵyr, efallai bydd yn gyfle i denu cyfranwyr newydd i'r wicipedia hefyd. Anatiomaros 19:25, 17 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Tudalen gwahaniaethu

Wedi i mi greu erthygl am borwr gwe Firefox, dyma fi hefyd yn creu tudalen gwahaniaethu gan bod nofel o'r un enw. Am ryw reswm pam dwi'n teipio 'Firefox' i'r blwch chwilio, mae'n mynd a fi'n syth at dudalen y nofel o'r un enw. All rhywun ddweud wrthai beth dwi'n wneud o'i le? Roeddwn yn meddwl efallai bod rhaid i'r 'bots' wneud eu gwaith gyntaf, ond mae'r dudalen gwahaniaethu wedi ei greu ar y 13eg o Ebrill.--Ben Bore 11:32, 18 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Rwyf wedi newid enw'r dudalen gwahaniaethu o "Firefox (gwahaniaethu)" i Firefox. Gan nad oedd yna erthygl arall gyda'r teitl "Firefox" ar ei ben ei hun, does dim angen y "(gwahaniaethu)". Rhion 16:38, 18 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Petasai'r dau ystyr o bwys cyfartal, faswn i'n cytuno. Ond dylid bod erthygl gyda'r teitl "Firefox" ar ei ben ei hun (neu dudalen "redirect", o leiaf), achos mai'r borwr gwe ydy ystyr llawer mwy enwog na'r arall (dwi'n meddwl). Fasai'r dudalen gwahaniaethu yn well gyda "(gwahaniaethu)", felly. Edrychwch i'r fersiwn saesneg.

Nid oes ffordd 'cywir' i fynd ati gyda'r tudalennau gwahaniaethu. Gweler Wicipedia:Arddull#Tudalennau_gwahaniaethu am ragor o wybodaeth. Petai dim ond dau ystyr posib i Firefox byddwn i'n hepgor y dudalen gwahaniaethu yn gyfangwbl, yn cysylltu Firefox gyda'r dudalen ar y porwr gwe (y defnydd amlaf) ac yn croesgyfeirio rhwng y ddwy erthygl gyda brawddeg ar ben y dudalen. Ond gan ei bod yn bosib y bydd rhywun am greu erthygl am Firefox y ffilm a.y.b. yna mae angen tudalen gwahaniaethu. Nid oes dim yn digwydd yn awtomatig ynglŷn â'r tudalennau gwahaniaethu. Fel y dywed MH96 at y porwr gwe y bydd y rhan fwyaf am fynd ac felly galler fod wedi cadw'r dudalen gwahaniaethu o dan y teitl Firefox (gwahaniaethu), anfon rhywun sy'n chwilio am Firefox yn syth at Firefox (porwr gwe) a chynnwys brawddeg ar ben yr erthygl i gyfeirio at y dudalen gwahaniaethu. Dylai fod brawddeg gyswllt â'r dudalen gwahaniaethu ar ben pob erthygl sy'n cael ei restru ar dudalen gwahaniaethu. Lloffiwr 09:40, 20 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth

Wnaiff rhywun sydd a'r hawl i wneud roi bloc (hir) ar IP 88.111.126.205 os gwelwch yn dda (y fandaliaeth gwrth-Gymreig arferol).Rhion 19:34, 10 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Wikimedia Election Notice

If you are able, please translate this notice to as many possible languages and post it anywhere applicable.

The Wikimedia Election Committee is accepting candidates for the 2007 Wikimedia Foundation Board of Trustees election. Please see [4] for more information.

There is still time for a new candidate to be considered for election, and you may now endorse the candidate of your choice (up to 3 candidates) on the endorsements page, [5]. Please read the instructions carefully prior to endorsing. If you can translate the instructions, please do.

If you have any questions, please contact any member of the election committee, who are listed here [6].

Posted on behalf of the Election Committee,
Philippe

barn

Dyma dasg ddiddorol iawn.

  1. eisteddwch gyda'ch paned o de
  2. chwiliwch am dudalennau sy'n cynnwys "yn ffodus" neu "yn anffodus"
  3. mae'n debyg bod y rhan fwyaf ohonynt yn mynegi barn
  4. golygwch nhw (bron) i gyd
  5. yfwch eich te sy wedi dod yn oer


Ychwanegu nodau arbennig at y bocs golygu

Rwyf wedi ychwanegu'r bocs nodau arbennig sydd eisoes yn ymddangos wrth olygu trwy'r rhyngwyneb Cymraeg at y rhyngwyneb Saesneg hefyd. Mae'n bosib y bydd y bocs yn diflannu pan ddaw diweddariad i'r negeseuon o Mediwiki. Os bydd y bocs yn diflannu a rhywrai'n gweld colled ar ei ôl yna gadewch neges ar y Caffi ac fe'i ail-osodwn. Gobeithio y bydd y bocs o ddefnydd i'r rhai sy'n defnyddio'r rhyngwyneb Saesneg ar Wicipedia. Pob hwyl ar y golygu. Lloffiwr 18:46, 24 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]