Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Pádraig Pearse"

Jump to navigation Jump to search
Ychwanegwyd 20 beit ,  8 o flynyddoedd yn ôl
Awdurdod
B (Bot: Migrating 29 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q274143 (translate me))
(Awdurdod)
Roedd '''Pádraig Pearse''' neu '''Patrick Henry Pearse''', [[Gwyddeleg]]: Pádraig Anraí Mac Piarais, [[10 Tachwedd]], [[1879]] - [[3 Mai]], [[1916]]) yn athro ysgol, bardd a chenedlaetholwr Gwyddelig, sy'n fwyaf adnabyddus am ei ran yng [[Gwrthryfel y Pasg|Ngwrthryfel y Pasg]] yn 1916.
 
Roedd Pearse yn rhoi pwyslais mawr ar yr iaith Wyddeleg, ac ymunodd a ''[[Conradh na Gaeilge]]'' ("Cynghrair yr Wyddeleg") yn 16 oed. Daeth yn olygydd papur newydd cyntaf y Cynghrair, ''An Claidheamh Soluis'' ("Cleddyf y Goleuni") ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. Teimlai mai'r ffordd i achub yr iaith oedd trwy addysg. Dechreuodd ei ysgol ddwyieithog ei hun, [[Ysgol Sant Enda]] (''Scoil Éanna'') yn [[Ranelagh]], [[Swydd Dulyn]], yn 1908, gyda chymorth [[Thomas MacDonagh]] a'i frawd [[Willie Pearse]].
 
Yn 1913 gwahoddwyd ef i gyfarfod cyntaf y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (''Irish Volunteers''), ac yn
:''our Fenian dead, and while Ireland holds these graves, Ireland unfree shall never be at peace.''
 
Dechreuodd Gwrthryfel y Pasg ar [[24 Ebrill]], [[1916]], gyda Pearse yn un o'r prif arweinyddion. Ef a ddarllenodd y ddogfen oedd yn cyhoeddi ffurfio gweriniaeth Iwerddon Rydd ar risiau Swyddfa'r Post yn Nulyn. Wedi i'r gwrthryfelwyr gael ei gorfodi i ildio ar ôl dyddiau o frwydro, rhoddwyd ef ar ei brawf gan y fyddin Brydeinig a saethwyd ef yng Ngharchar Kilmainham ar 3 Mai gyda [[Thomas Clarke]] a [[Thomas MacDonagh]], y cyntaf o'r gwrthryfelwyr i'w dienyddio. Saethwyd ei frawd Willie ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.
 
Mae ei hen ysgol, Ysgol Sant Enda yn Rathfarnham, yn awr yn amgueddfa. Mae Pearse yn un o arwyr [[Taoiseach]] presennol Iwerddon, [[Bertie Ahern]], ac mae ganddo ddarlun o Pearse uwchben y ddesg yn ei swyddfa.
 
Roedd Pádraig Pearse yn [[bardd|fardd]] dawnus yn yr iaith Wyddeleg. Mae ei gerdd 'Y Dynged' (neu 'Y Delfryd') yn un o'r enwocaf yn llenyddiaeth ddiweddar yr iaith honno. Yn y gerdd mae'r bardd yn disgrifio ei weledigaeth o Iwerddon yn ei holl ogoniant, fel morwyn ifanc anhraethol hardd, ond mae'n rhaid iddo droi ei gefn arni, er ei mwyn hi, a wynebu'r dynged anorfod a ddaw. Dyma gyfieithiad [[T. Gwynn Jones]] o'r bennill gyntaf a'r ddwy olaf:
[[Categori:Cenedlaetholdeb Gwyddelig|Pearse, Pádraig]]
[[Categori:Beirdd Gwyddeleg|Pearse, Pádraig]]
 
{{Authority control}}
760,443

golygiad

Llywio