Jalal al-Din Muhammad Rumi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 68 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q43347 (translate me) |
Awdurdod |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Mae ei goleg (medresa) a'i feddrod i'w gweld yn ninas Konya ac yn ganolfan [[Pererindota|pererindod]] hyd heddiw. |
Mae ei goleg (medresa) a'i feddrod i'w gweld yn ninas Konya ac yn ganolfan [[Pererindota|pererindod]] hyd heddiw. |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
{{Cyswllt erthygl ddethol|mk}} |
{{Cyswllt erthygl ddethol|mk}} |
||
Llinell 20: | Llinell 18: | ||
[[Categori:Genedigaethau 1207]] |
[[Categori:Genedigaethau 1207]] |
||
[[Categori:Marwolaethau 1273]] |
[[Categori:Marwolaethau 1273]] |
||
⚫ | |||
⚫ | |||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 22:46, 7 Tachwedd 2014
Bardd telynegol a chyfrinydd oedd Jalal al-Din Muhammad Rumi neu Jalaluddin Rumi (Perseg: مولانا جلال الدین محمد رومی , Twrceg: Mevlânâ Celâleddin Mehmed Rumi) ) (Rumi: Mohammed Ibn Mohammed, 1207 - 1273), a aned yn Balkh ym Mhersia Fawr (rhan o Affganistan heddiw). Cafodd y llysenw 'Rumi' ("Rhufeinig") am ei fod yn byw am y rhan fwyaf o'i oes mewn rhan o Asia Leiaf a oedd yn dal i fod dan reolaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd ar y pryd. Ei enw poblogaidd yn Nhwrci yw Mevlana.
Ymsefydlodd Rumi yn ninas Iconium (Konya heddiw) yn Twrci yn 1226 a sefydlu enwad newydd a adnabyddir heddiw fel y "Derfishiaid Chwyrlïol".
Fel llenor yn yr iaith Berseg cyfansoddai nifer o gerddi telynegol, cyfriniol eu naws, a geir yn y casgliad Divani Shamsi Tabriz. Mae'r rhan fwyaf ar ffurf ghazalau (math o ganeuon serch) i'w feistr cyfriniol Shamsi Tabriz ("Haul Tabriz"); telynegau am gariad wedi'i drawsnewid yn gariad dwyfol ydynt. Ysgrifennodd yn ogystal arwrgerdd ar ddysgeidiaeth y Swffiaid, Masnavi y ma' navi.
Mae ei goleg (medresa) a'i feddrod i'w gweld yn ninas Konya ac yn ganolfan pererindod hyd heddiw.