Gruffudd ab yr Ynad Coch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd llys yng [[Teyrnas Gwynedd|Ngwynedd]] yn ail hanner y [[13eg ganrif]] oedd '''Gruffudd ab yr Ynad Coch''' (fl. [[1277]] - [[1283]]), un o'r olaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]]. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur un o'r [[marwnad]]au enwocaf yn yr iaith [[Gymraeg]], a ganodd i alaru a choffáu [[Llywelyn ap Gruffudd]] (Llywelyn Ein Llyw Olaf), [[Tywysog Cymru]].<ref>''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Caerdydd, 1996).</ref>
Bardd llys yng [[Teyrnas Gwynedd|Ngwynedd]] yn ail hanner y [[13eg ganrif]] oedd '''Gruffudd ab yr Ynad Coch''' (fl. [[1277]] - [[1283]]), un o'r olaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]]. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur un o'r [[marwnad]]au enwocaf yn yr iaith [[Gymraeg]], a ganodd i alaru a choffáu [[Llywelyn ap Gruffudd]] (Llywelyn Ein Llyw Olaf), [[Tywysog Cymru]].<ref name="Caerdydd 1996">''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Caerdydd, 1996).</ref>


==Cefndir==
==Cefndir==
Ychydig a wyddys am fywyd personol y bardd. Hanai o deulu o [[Cyfraith Hywel Dda|gyfreithwyr Cymreig]] a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu', a oedd yn gysylltiedig â [[Llanddyfnan]] ym [[Môn]] ond yn wreiddiol o ardal [[cwmwd]] [[Uwch Gwyrfai]] yn [[Arfon]]. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd [[Einion ap Madog ap Rhahawd]] (fl. [[1237]]), a ganodd i [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr]], tad Llywelyn Ein Llyw Olaf. Mae'n bosibl mai Madog Goch Ynad oedd tad Gruffudd ab yr Ynad Coch; mae'n bosibl ei fod yn dal tir ym Môn yn ddiolch am ei wasanaeth fel [[ynad]] yn llywodraeth Gwynedd.<ref>''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Caerdydd, 1996).</ref>
Ychydig a wyddys am fywyd personol y bardd. Hanai o deulu o [[Cyfraith Hywel Dda|gyfreithwyr Cymreig]] a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu', a oedd yn gysylltiedig â [[Llanddyfnan]] ym [[Môn]] ond yn wreiddiol o ardal [[cwmwd]] [[Uwch Gwyrfai]] yn [[Arfon]]. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd [[Einion ap Madog ap Rhahawd]] (fl. [[1237]]), a ganodd i [[Gruffudd ap Llywelyn Fawr]], tad Llywelyn Ein Llyw Olaf. Mae'n bosibl mai Madog Goch Ynad oedd tad Gruffudd ab yr Ynad Coch; mae'n bosibl ei fod yn dal tir ym Môn yn ddiolch am ei wasanaeth fel [[ynad]] yn llywodraeth Gwynedd.<ref name="Caerdydd 1996"/>


==Cerddi==
==Cerddi==
Erys ar glawr saith [[awdl]] ac un [[englyn]] proest o waith Gruffudd ab yr Ynad Coch. Mae'r mwyafrif o'i waith ar gael yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], tra bo peth o'i waith ar glawr yn [[Llyfr Coch Hergest]]; colofnau 1417-1418. Canu crefyddol yn null arferol y [[Gogynfeirdd]] yw chwech o'r awdlau.<ref>''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Caerdydd, 1996).</ref>
Erys ar glawr saith [[awdl]] ac un [[englyn]] proest o waith Gruffudd ab yr Ynad Coch. Mae'r mwyafrif o'i waith ar gael yn [[Llawysgrif Hendregadredd]], tra bo peth o'i waith ar glawr yn [[Llyfr Coch Hergest]]; colofnau 1417-1418. Canu crefyddol yn null arferol y [[Gogynfeirdd]] yw chwech o'r awdlau.<ref name="Caerdydd 1996"/>


Mae'r seithfed awdl yn [[marwnad|farwnad]] i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn Rhagfyr 1282 neu'n gynnar yn Ionawr 1283 (lladdwyd Llywelyn uwchlaw [[Afon Irfon]] ar [[11 Rhagfyr]], [[1282]]). Ar sail cyfeiriad at ddau le sydd fel arall yn ddi-nod yn llinell 48, mae lle i gredu mai yng [[Castell y Bere|Nghastell y Bere]], [[Meirionnydd]], y canwyd yr awdl farwnad hon yn gyntaf. Syrthiodd y Bere i'r Saeson ar 25 Ebrill 1283, felly rhaid fod Gruffudd wedi canu'r awdl cyn hynny.<ref>''Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg'' (Caerdydd, 1996).</ref>
Mae'r seithfed awdl yn [[marwnad|farwnad]] i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn Rhagfyr 1282 neu'n gynnar yn Ionawr 1283 (lladdwyd Llywelyn uwchlaw [[Afon Irfon]] ar [[11 Rhagfyr]], [[1282]]). Ar sail cyfeiriad at ddau le sydd fel arall yn ddi-nod yn llinell 48, mae lle i gredu mai yng [[Castell y Bere|Nghastell y Bere]], [[Meirionnydd]], y canwyd yr awdl farwnad hon yn gyntaf. Syrthiodd y Bere i'r Saeson ar 25 Ebrill 1283, felly rhaid fod Gruffudd wedi canu'r awdl cyn hynny.<ref name="Caerdydd 1996"/>


Yn y gerdd enwog hon mae'r galar am golli Llywelyn a'r pryder am ddyfodol Gwynedd a Chymru yn cael ei fynegi mewn termau dwys a phersonol ar y naill law a chosmig a chynhwysfawr ar y llaw arall. Mae natur ei hun wedi'i hysgwyd i'w seiliau:
Yn y gerdd enwog hon mae'r galar am golli Llywelyn a'r pryder am ddyfodol Gwynedd a Chymru yn cael ei fynegi mewn termau dwys a phersonol ar y naill law a chosmig a chynhwysfawr ar y llaw arall. Mae natur ei hun wedi'i hysgwyd i'w seiliau:
Llinell 28: Llinell 28:


*Ceir testun hwylus o destun 'Marwnad Llywelyn ap Gruffudd' mewn orgraff ddiweddar yn y gyfrol ''[[Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg]]''.
*Ceir testun hwylus o destun 'Marwnad Llywelyn ap Gruffudd' mewn orgraff ddiweddar yn y gyfrol ''[[Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg]]''.

*[http://cy.wikisource.org/wiki/Ar_Farwolaeth_Llywelyn_yr_Ail ''Ar Farwolaeth Llywelyn yr Ail'']: darn o fersiwn Cymraeg Diweddar o'r gerdd ar Wicisource.
*[http://cy.wikisource.org/wiki/Ar_Farwolaeth_Llywelyn_yr_Ail ''Ar Farwolaeth Llywelyn yr Ail'']: darn o fersiwn Cymraeg Diweddar o'r gerdd ar Wicisource.


Llinell 44: Llinell 43:
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 22:33, 7 Tachwedd 2014

Bardd llys yng Ngwynedd yn ail hanner y 13eg ganrif oedd Gruffudd ab yr Ynad Coch (fl. 1277 - 1283), un o'r olaf o Feirdd y Tywysogion. Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur un o'r marwnadau enwocaf yn yr iaith Gymraeg, a ganodd i alaru a choffáu Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn Ein Llyw Olaf), Tywysog Cymru.[1]

Cefndir

Ychydig a wyddys am fywyd personol y bardd. Hanai o deulu o gyfreithwyr Cymreig a adnabyddir fel 'Llwyth Cilmin Droetu', a oedd yn gysylltiedig â Llanddyfnan ym Môn ond yn wreiddiol o ardal cwmwd Uwch Gwyrfai yn Arfon. Roedd yn geifn (perthynas nesaf ar ôl cyfyrder) i'r bardd Einion ap Madog ap Rhahawd (fl. 1237), a ganodd i Gruffudd ap Llywelyn Fawr, tad Llywelyn Ein Llyw Olaf. Mae'n bosibl mai Madog Goch Ynad oedd tad Gruffudd ab yr Ynad Coch; mae'n bosibl ei fod yn dal tir ym Môn yn ddiolch am ei wasanaeth fel ynad yn llywodraeth Gwynedd.[1]

Cerddi

Erys ar glawr saith awdl ac un englyn proest o waith Gruffudd ab yr Ynad Coch. Mae'r mwyafrif o'i waith ar gael yn Llawysgrif Hendregadredd, tra bo peth o'i waith ar glawr yn Llyfr Coch Hergest; colofnau 1417-1418. Canu crefyddol yn null arferol y Gogynfeirdd yw chwech o'r awdlau.[1]

Mae'r seithfed awdl yn farwnad i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd a gyfansoddwyd yn fuan ar ôl ei farwolaeth, yn Rhagfyr 1282 neu'n gynnar yn Ionawr 1283 (lladdwyd Llywelyn uwchlaw Afon Irfon ar 11 Rhagfyr, 1282). Ar sail cyfeiriad at ddau le sydd fel arall yn ddi-nod yn llinell 48, mae lle i gredu mai yng Nghastell y Bere, Meirionnydd, y canwyd yr awdl farwnad hon yn gyntaf. Syrthiodd y Bere i'r Saeson ar 25 Ebrill 1283, felly rhaid fod Gruffudd wedi canu'r awdl cyn hynny.[1]

Yn y gerdd enwog hon mae'r galar am golli Llywelyn a'r pryder am ddyfodol Gwynedd a Chymru yn cael ei fynegi mewn termau dwys a phersonol ar y naill law a chosmig a chynhwysfawr ar y llaw arall. Mae natur ei hun wedi'i hysgwyd i'w seiliau:

Oerfelawg calon dan fron o fraw,
Rhewydd fal crinwydd ysy'n crinaw:
Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chwi'r deri yn ymdaraw?
Poni welwch chwi'r môr yn merwinaw—'r tir?
Poni welwch chwi'r Gwir yn ymgyweiraw?
Poni welwch chwi'r haul yn hwylaw—'r awyr?
Poni welwch chwi'r sŷr wedi r'syrthiaw?
Pani chredwch chwi i Dduw, ddyniaddon ynfyd?
Pani welwch chwi'r byd wedi r'bydiaw?[2]

Yn ddieithriad, mae beirniaid llenyddol yn cydnabod y gerdd hon fel un o orchestweithiau pennaf y beirdd Cymraeg ac un o gerddi mawr y byd. Er bod strwythur a mydr y gerdd yn gymhleth, mae'r iaith yn syml a'r mynegiant yn blaen ac mae'n un o'r cerddi hawsaf i'w deall o blith holl gerddi'r Gogynfeirdd gan y darllenydd cyffredin heddiw.

Llyfryddiaeth

  • Rhian M. Andrews a Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Bleddyn Fard' yn, Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1996). 'Cyfres Beirdd y Tywysogion'.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Caerdydd, 1996).
  2. Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Caerdydd, 1996). Tud. 424, llau 61-70.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch