Aneirin Karadog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 25: Llinell 25:
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 21ain ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 21ain ganrif]]
[[Categori:Pobl o Bontypridd]]
[[Categori:Pobl o Bontypridd]]

{{Authority control}}

Fersiwn yn ôl 22:01, 7 Tachwedd 2014

Bardd, darlledwr, perfformiwr a ieithydd o Gymro yw Aneirin Karadog (ganed 11 Mai 1982)

Gyrfa

Bellach yn byw ym Mhontyberem, Sir Gâr, ganwyd Aneirin Karadog yn ybsyty H.M.Stanley Llanelwy ac fe'i magwyd am ddwy flynedd yn Llanrwst, cyn symud lawr i fyw i Bontardawe. Yno y bu tan 1990 pan symudodd ef a'i deulu i Bontypridd. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pont-Siôn-Norton ac yna Ysgol Gyfun Rhydfelen rhwng 1993-2000. Graddiodd wedyn o'r Coleg Newydd, Prifysgol Rhydychen, gyda gradd mewn Ffrangeg a Sbaeneg. Bu'n gweithio am gyfnod gyda Menter Iaith Rhondda Cynon Taf cyn cael swydd yn llanelli fel ymchwilydd gyda chwmni teledu Tinopolis yn 2005. Mae wedi cyflwyno Wedi 7 a bellach yn rhannu'i amser rhwng y rhaglen Heno a Sam Ar y Sgrin, ar S4C.

Enillodd Wobr Emyr Feddyg yn Eisteddfod Casnewydd 2004 a Chadair yr Urdd yn 2005. Cyhoeddodd gerddio ar y cyd yn y gyfrol Crap Ar Farddoni ac ym Mawrth 2012 cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi yn unigol: O Annwn i Geltia (Cyhoeddiadau Barddas).

Bu'n aelod o Genod Droog a'r Diwygiad[1] ac mae wedi cyfrannu i amryw o albymau cerddorol, gyda Llwybr Llaethog, Cofi Bach a Tew Shady.

Yn 2007 cyflwynodd Aneirin Karadog gyfres Byd y Beirdd i Radio Cymru.

Llyfryddiaeth

  • Gydag eraill: Crap ar Farddoni (Gwasg Carreg Gwalch, 2006).

Cyfeiriadau

  1.  Karadog, Aneirin. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2012.