Colum Cille: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎ffynonellau am ei fywyd: Cywiro Ffynonellau, replaced: ffynhonnellau → ffynonellau using AWB
Llinell 20: Llinell 20:
* M.Herbert, ''Iona, Kells and Derry'' (Rhydychen, 1988)
* M.Herbert, ''Iona, Kells and Derry'' (Rhydychen, 1988)


{{DEFAULTSORT:Colum Cille}}
[[Categori:Beirdd Gwyddelig]]
[[Categori:Beirdd Lladin]]
[[Categori:Genedigaethau 521]]
[[Categori:Genedigaethau 521]]
[[Categori:Llenorion Gwyddelig]]
[[Categori:Llenorion Lladin yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Llenorion y 6ed ganrif]]
[[Categori:Marwolaethau 597]]
[[Categori:Marwolaethau 597]]
[[Categori:Seintiau Iwerddon]]
[[Categori:Seintiau Iwerddon]]
[[Categori:Llên Iwerddon]]
[[Categori:Llên Ladin yr Oesoedd Canol]]
[[Categori:Beirdd Lladin]]

Fersiwn yn ôl 02:45, 17 Hydref 2014

Roedd Colum Cille, neu Sant Columba (7 Rhagfyr 521 - 9 Mehefin, 597), yn gennad Cristnogol, yn awdur yn yr iaith Ladin, yn sefydlydd mynachlogydd ac un o'r seintiau pwysicaf yr Eglwys yn Iwerddon, a aned yn Gartan, Donegal.

Ei fywyd cynnar

Llythyren Q agoriadol o'r Cathach Columba

Ystyr ei enw yw "Colomen yr Eglwys", Columba yn Lladin. Ganed Colum Cille tua 520, yn aelod o deulu uchelwrol yr Uí Néill yng ngogledd Iwerddon. Roedd ei dad Fedlimid yn un o orwyr Niall Noigiallach, sefydlydd y llinach. Cafodd Colum Cille ei fedyddio yn Criamthann ond pan aeth yn fynach rhoddwyd iddo'r enw Columba ("Colomen yr Eglwys") yn Lladin.

Ei waith cenhadol

Yn 546 sefydlodd fynachlog Derry. Yn ddiweddarach sefydlodd fynachlogydd Durrow a Kells yn ogystal. Tua'r flwyddyn 565 aeth gyda mintai fach o ddisgyblion i ogledd yr Alban ar genadwriaeth i droi'r Pictiaid i'r ffydd newydd. Tra yno sefydlodd fynachlog Iona ar ynys fechan yn yr Hebrides (Ynysoedd Heledd). Cafodd ei gladdu yn Iona yn 597 a'i addoli wedyn fel nawddsant yr Alban.

ffynonellau am ei fywyd

Cofnodir ei waith a'i fywyd yn y fuchedd Ladin y Vita Columbae gan Adamnán, yng ngwaith y mynach Beda ac yn yr Amra Choluim Chille, mawl mydryddol a ysgrifenwyd yn fuan wedi ei farwolaeth. Mae buchedd Ladin ddiweddarach, o Iwerddon, ar glawr hefyd.

Ei waith llenyddol

Yn ôl hen draddodiad, dilys efallai, Colum Cille yw awdur y gyfres o gerddi Lladin Altus Prosator. Dywedir iddo gymryd saith mlynedd i'w chyfansoddi, mewn cell dywell heb oleuni, fel penyd am ei falchder. Mae traddodiad arall yn honni ei fod wedi'i ysgrifennu yn Iona, yn sydyn iawn, wrth falu ŷd yn felin y fynachlog.

Yn ôl traddodiad Colum Cille oedd y copïydd a ysgrifennodd y llawysgrif bwysig Cathach Sant Columba (tua dechrau'r 7fed ganrif).

Llyfryddiaeth

  • M.O. Anderson (gol.), Adamnán's Life of Columba (Rhydychen, 1991)
  • M.Herbert, Iona, Kells and Derry (Rhydychen, 1988)