Ammianus Marcellinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 47 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q172198 (translate me)
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
delwedd
Llinell 2: Llinell 2:

Roedd Ammianus o dras [[Groeg yr Henfyd|Roeg uchelwrol]]. Ar ôl gorffen ei addysg dechreuodd ar yrfa filwrol ac ymladdodd dan yr ymerodr [[Julian]] yn erbyn yr [[Alemanniaid]] a'r [[Persia]]id.
Roedd Ammianus o dras [[Groeg yr Henfyd|Roeg uchelwrol]]. Ar ôl gorffen ei addysg dechreuodd ar yrfa filwrol ac ymladdodd dan yr ymerodr [[Julian]] yn erbyn yr [[Alemanniaid]] a'r [[Persia]]id.
[[File:IVLIANVS.gif|thumb|200 px|Portead o'r Ymerawdwr [[Julian]] ar ddarn o arian efydd [[Antioch]]]]

Yn ei henaint ymddeolodd i [[Rhufain|Rufain]] ac yno, tua'r flwyddyn [[390]], cychwynodd ei lyfr ar hanes [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerodron Rhufain]], yr ''Rerum Gestarum Libri'', sy'n olrhain hanes yr ymerodron o [[Nerva]] ([[96]] O.C.) hyd farwolaeth [[Valens]], mewn 31 llyfr. Dim ond y llyfrau xiv-xxxi sydd wedi goroesi, am y cyfnod [[353]] hyd [[378]]. Maent yn arbennig o bwysig fel ffynhonnell hanes am fod Ammianus ei hun yn llygad-dyst i nifer o'r digwyddiadau a ddisgrifir ynddynt.

Fersiwn yn ôl 21:06, 4 Hydref 2014

Roedd Ammianus Marcellinus (fl.330-380) yn hanesydd iaith Ladin, a anwyd yn Antioch, yng ngogledd-orllewin Syria.

Roedd Ammianus o dras Roeg uchelwrol. Ar ôl gorffen ei addysg dechreuodd ar yrfa filwrol ac ymladdodd dan yr ymerodr Julian yn erbyn yr Alemanniaid a'r Persiaid.

Portead o'r Ymerawdwr Julian ar ddarn o arian efydd Antioch

Yn ei henaint ymddeolodd i Rufain ac yno, tua'r flwyddyn 390, cychwynodd ei lyfr ar hanes ymerodron Rhufain, yr Rerum Gestarum Libri, sy'n olrhain hanes yr ymerodron o Nerva (96 O.C.) hyd farwolaeth Valens, mewn 31 llyfr. Dim ond y llyfrau xiv-xxxi sydd wedi goroesi, am y cyfnod 353 hyd 378. Maent yn arbennig o bwysig fel ffynhonnell hanes am fod Ammianus ei hun yn llygad-dyst i nifer o'r digwyddiadau a ddisgrifir ynddynt.

Gellid ystyried ei waith fel parhad o hanes Tacitus, ac fe ymddengys fod Ammianus yn seilio ei arddull ar waith mawr yr hanesydd hwnnw. Fel Tacitus mae Ammianus yn dangos barn eglur ac annibynol ac yn ceisio darganfod y gwirionedd. Er ei fod yn bagan mae'n deg i'r Cristnogion, er enghraifft. Serch hynny nid yw hanner mor diwylliedig â Tacitus. Roedd y Lladin yn ail iaith iddo ac mae ei waith yn dioddef o ramadeg ansicr, bombastiaeth a throeon ymadrodd trwsgl neu or-flodeuog.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol