Irac: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
arweinwyr, poblogaeth
Llinell 13: Llinell 13:
|dinas_fwyaf = [[Baghdad]]
|dinas_fwyaf = [[Baghdad]]
|math_o_lywodraeth = [[Gweriniaeth]]
|math_o_lywodraeth = [[Gweriniaeth]]
|teitlau_arweinwyr = - [[Arlywydd Irac|Arlywydd]]
- [[Prif Weinidog Irac|Prif Weinidog]]
|teitlau_arweinwyr1 = - [[Arlywydd Irac|Arlywydd]]
|enwau_arweinwyr1 = [[Fuad Masum]]
|enwau_arweinwyr = [[Jalal Talabani]]
[[Nouri al-Maliki]]
|teitlau_arweinwyr2 = - [[Prif Weinidog Irac|Prif Weinidog]]
|enwau_arweinwyr2 = [[Haider al-Abadi]]
|safle_arwynebedd = 58fed
|safle_arwynebedd = 58fed
|maint_arwynebedd = 1 E11
|maint_arwynebedd = 1 E11
|arwynebedd = 437,072
|arwynebedd = 437,072
|canran_dŵr = 1.1%
|canran_dŵr = 1.1%
|amcangyfrif_poblogaeth = 28,807,000
|safle_amcangyfrif_poblogaeth = 40fed
|safle_amcangyfrif_poblogaeth = 40fed
|blwyddyn_amcangyfrif_poblogaeth = 2005
|blwyddyn_amcangyfrif_poblogaeth = 2014
|dwysedd_poblogaeth = 59
|dwysedd_poblogaeth = 75
|safle_dwysedd_poblogaeth = 112fed
|safle_dwysedd_poblogaeth = 112fed
|CMC_PGP = $89,800,000,000
|CMC_PGP = $242,500,000,000
|safle_CMC_PGP = 58fed
|safle_CMC_PGP = 51ain
|blwyddyn_CMC_PGP = 2005
|blwyddyn_CMC_PGP = 2012
|CMC_PGP_y_pen = $3,500
|CMC_PGP_y_pen = $7,100
|safle_CMC_PGP_y_pen = 122fed
|safle_CMC_PGP_y_pen = 114ydd
|digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth= [[Annibyniaeth]]
|digwyddiad_sefydlu'r_wladwriaeth= [[Annibyniaeth]]
|digwyddiadau_gwladwriaethol = - O'r [[Ymerodraeth Ottoman]]
- O'r [[Deyrnas Unedig]]
|digwyddiadau_gwladwriaethol = - O'r [[Ymerodraeth Ottoman]]
- O'r [[Deyrnas Unedig]]
|dyddiad_y_digwyddiad =
[[1 Hydref]], [[1919]]
[[3 Hydref]], [[1932]]
|dyddiad_y_digwyddiad =
[[1 Hydref]], [[1919]]
[[3 Hydref]], [[1932]]
|IDD =
|IDD = 0.642
|safle_IDD = n/a
|safle_IDD = 120fed
|blwyddyn_IDD= 2003
|blwyddyn_IDD= 2013
|categori_IDD = {{IDD dim}}
|categori_IDD = {{IDD canolig}}
|arian = [[Dinar Iracaidd]]
|arian = [[Dinar Iracaidd]]
|côd_arian_cyfred = IQD
|côd_arian_cyfred = IQD
|cylchfa_amser =
|cylchfa_amser = [[Amser Safonol Arabia]]
|atred_utc = +3
|atred_utc = +3
|cylchfa_amser_haf =
|cylchfa_amser_haf =
|atred_utc_haf = +4
|atred_utc_haf = +3
|côd_ISO = [[.iq]]
|côd_ISO = [[.iq]]
|côd_ffôn = 964
|côd_ffôn = 964
Fersiwn yn ôl 20:13, 2 Hydref 2014
الجمهورية العراقية
Aj-Jumhuriyah Al-'Iraqiyah
كۆماری عێراق
Komara Iraqê
Gweriniaeth Irac
Baner Irac Arfbais Irac
Baner Arfbais
Arwyddair: Arabeg: الله أكبر
Anthem: Mawtini
Lleoliad Irac
Lleoliad Irac
Prifddinas Baghdad
Dinas fwyaf Baghdad
Iaith / Ieithoedd swyddogol Arabeg, Cyrdeg
Llywodraeth Gweriniaeth
- Arlywydd Fuad Masum
- Prif Weinidog Haider al-Abadi
Annibyniaeth
- O'r Ymerodraeth Ottoman
- O'r Deyrnas Unedig
1 Hydref, 1919
3 Hydref, 1932
Arwynebedd
- Cyfanswm
- Dŵr (%)
437,072 km² (58fed)
1.1%
Poblogaeth
- Amcangyfrif 2014
- Dwysedd
32,585,692 (40fed)
75/km² (112fed)
CMC (PGP)
- Cyfanswm
- Y pen
Amcangyfrif 2012
$242,500,000,000 (51ain)
$7,100 (114ydd)
Indecs Datblygiad Dynol (2013) 0.642 (120fed) – canolig
Arian cyfred Dinar Iracaidd (IQD)
Cylchfa amser
- Haf
Amser Safonol Arabia (UTC+3)
(UTC+3)
Côd ISO y wlad .iq
Côd ffôn +964
Gwlad yn y Dwyrain Canol yn ne-orllewin Asia yw Gweriniaeth Irac neu Irac (Arabeg: العراق al-‘Irāq neu al-Erāq, Cyrdeg: عيَراق), sydd yn cynnwys y rhan fwyaf o Fesopotamia, gogledd-orllewin cadwyn y Zagros a dwyrain Anialwch Syria. Mae'n ffinio â Sawdi Arabia a Kuwait i'r de, Gwlad Iorddonen i'r gorllewin, Twrci i'r gogledd, Syria i'r gogledd-orllewin ac Iran i'r dwyrain. Mae gan y wlad arfordir cyfyng ar Gwlff Persia.
Ystyrir Irac fel y man lle ymddangosodd y gymdeithas sefydlog gyntaf yn y byd gyda holl nodweddion "gwareiddiad" – sef gwareiddiad hynafol Swmeria. Mae Irac wedi bod dan sylw'r byd yn ystod y ddwy ddegawd ddiwethaf oherwydd Rhyfeloedd y Gwlff, dymchweliad yr Arlywydd Saddam Hussein, ffurfio llywodraeth ddemocrataidd newydd a'r gwrthdaro gwleidyddol ac ethnig sydd wedi rhwygo'r wlad byth ers hynny.
Daearyddiaeth
Mae mwyafrif Irac yn ddiffeithdir, ond mae'r ardal rhwng y ddwy brif afon, Afon Ewffrates ac Afon Tigris, yn dir ffrwythlon. Mae gogledd y wlad yn fynyddig yn bennaf, gyda'i phwynt uchaf yn 3 611 metr, a elwir yn lleol yn Cheekah Dar (Pabell Ddu). Mae gan Irac arfordir cyfyng ar Gwlff Persia.
Hanes
Prif: Hanes Irac
Hen hanes
Mae Gweriniaeth Irac wedi ei sefydlu ar dir a abnabyddir yn hanesyddol fel Mesopotamia, sy'n ffurfio'r rhan fwyaf o fraich ddwyreiniol y Cilgant Ffrwythlon. Dyma oedd cartref nifer o'r gwareiddiadau cynharaf. Oherwydd hyn, gelwir yr ardal yn aml yn Grud Gwareiddiad. Roedd yn gartref i ymerodraeth Akkad yn y gogledd a Swmeria ac yna Babilonia yn y de. Ymhlith ei dinasoedd enwog yn y cyfnod hwnnw gellid crybwyll Ur y Caldeiaid (dinas enedigol Abraham), Babilon (lle codwyd y Gerddi Crog enwog), Erek a Nimrwd.
Y cyfnod Helenistaidd a chlasurol
Yn sgîl cwymp Babilonia bu Mesopotamia dan reolaeth ymerodron Persia. Am gyfnod Babilon oedd prifddinas ymerodraeth fyrhoedlog Alecsander Mawr.
Yr Oesoedd Canol
Dan y califfiaid Abassid roedd Baghdad yn brifddinas y byd Mwslemaidd a blodeuai diwylliant unigryw a chyfoethog. Noddid llneorion, athronwyr ac athrawon. Newidiwyd hynny i gyda gyda chwymp Baghdad i luoedd y Mongoliaid yn y 13eg ganrif a'r gyflafan a distryw a ddilynodd.
Y cyfnod trefedigaethol
Hanes diweddar
Pan enillodd Irac ei hannibyniaeth yn sgîl yr Ail Ryfel Byd daeth y Ba'athiaid i rym a chychwynwyd cyfnod o foderneiddio a seciwlareiddio. Daeth Saddam Hussein i rym yng Ngorffennaf 1979 a gwelwyd cyfnod o orthrwm i lawer, yn arbennig y Cyrdiaid yn y gogledd a'r Shiaid yn y de, a byd cymharol da i eraill. Bu mewn grym drwy gyfnod y rhyfel yn erbyn Iran pan ymosodwyd ar filwyr a phobl Iran âg arfau cemegol. Yn y cyfnod hwn yr oedd Saddam Hussein yn cael cefnogaeth Prydain ac U.D.A. Parhaodd Irac i fod yn wlad seciwlar a roddai addysg a statws cydraddoldeb a chyfle i ferched y wlad fwynhau rhyddid sy'n cymharu'n dda â'u sefyllfa yn y Gorllewin.
Yn dilyn ei threchu yn Rhyfel y Gwlff, bu rhaid i fyddin yr Arlywydd Saddam Hussein dynnu allan o Kuwait. Ond er fod 14 o 18 y wlad yn gwrthrefyla yn ei erbyn, ni chafodd ei ddisodli.[1]
Achosion Rhyfel Irac
Pan ymosododd Iraq ar Kuwait yn ystod rhyfel y Gwlff mabwysiadodd Cyngor Diogelwch y Cenedloedd Unedig gynnig 678 dan bennod VII o Siarter y Cenhedloedd Unedig, gan roddi i'r gwledydd yr hawl i ddefnyddio "pob modd posibl" i "adfer heddwch rhyngwladol a diogelwch yr ardal" Ar ôl i Iraq gael ei bwrw allan o Kuwait derbyniwyd cynnig o ymatal 687 gan y Cenedloedd Unedig. Roedd hyn yn cynnwys rheidrwydd ar Iraq i derfynnu ei rhaglen o arfau niwclear.
Taleithiau
Taleithiau Irac
Taleithiau Irac
Rhennir Irac yn 18 talaith (muhafazah):
1. Baghdād (بغداد)
2. Salāh ad-Dīn (صلاح الدين)
3. Diyālā (ديالى)
4. Wāsit (واسط)
5. Maysān (ميسان)
6. Al-Basrah (البصرة)
7. Dhī Qār (ذي قار)
8. Al-Muthannā (المثنى)
9. Al-Qādisiyyah (القادسية)
1. Bābil (بابل)
2. Al-Karbalā' (كربلاء)
3. An-Najaf (النجف)
4. Al-Anbar (الأنبار)
5. Nīnawā (نينوى)
6. Dahūk (دهوك)
7. Arbīl (أربيل)
8. Kirkuk (neu At-Ta'mim) (التاميم)
9. As-Sulaymāniyyah (السليمانية)
Demograffeg
Mae tua 79% o boblogaeth Irac yn Arabiaid, 16% yn Cyrdiaid, 3% yn Persiaid a 2% yn Twrcmaniaid. Mae 62% o'r wlad yn Mwslemiaid Shi'a ithna, 33% yn Mwslemiaid Sunni a 5% o grefyddau eraill (yn cynnwys Cristnogaeth).[2] Roedd arfer bod nifer o Iddewon yn byw yn y wlad, ond ers heddiw mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi ymfudo i Israel.[2]
Iaith a diwylliant
Rhai o bobl ifanc Irac.
Yr ieithoedd swyddogol yw Arabeg a Chyrdeg.[2]
Mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn Fwslemiaid, yn Sunni neu'n Shia, ond ceir lleiafrif bychan ond dylanwadol o Gristnogion yn ogystal, yn arbennig yn y gorllewin. Mae rhai o gysegrfeydd pwysicaf y Shia i'w cael yn ne Irac, e.e. yn ninas sanctaidd Najaf.
Economi
Dioddefai economi Irac yn y 1990au gan nad oedd hi'n cael prynu a gwerthu gyda gwledydd eraill yn dilyn Rhyfel y Gwlff.[3] Gwelwyd peth gwelliant yn y sefyllfa am gyfnod byr yn dilyn rhyfel 2003, ond dirywio mae'r economi ers hynny diolch i ansefydlogrwydd y wlad. Prif allforyn y wlad yw olew.
Cyferiadau
1. "Saddam Hussein: Tu ôl i'r masg cyhoeddus", BBC, 13 Chwefror, 2003.
2. 2.0 2.1 2.2 Financial Times World Desk Reference (Dorling Kindersley, 2004)
3. BBC Cymru'r Byd – Ffeil – Rhyfel Irac
Cysylltiadau allanol
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol