Gweledigaethau y Bardd Cwsc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
delwedd
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Gweledigaethau y Bardd Cwsg (llyfr).jpg|bawd|170px|Fersiwn Rhagfyr 1998]]
Llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd gyntaf yn [[1703]] yw '''''Gweledigaethau y Bardd Cwsc''''' gan [[Ellis Wynne]]. Ystyrir y llyfr yn brif waith llenyddol Wynne, ac yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg y [[18fed ganrif]].
Llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd gyntaf yn [[1703]] yw '''''Gweledigaethau y Bardd Cwsc''''' gan [[Ellis Wynne]]. Ystyrir y llyfr yn brif waith llenyddol Wynne, ac yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg y [[18fed ganrif]].



Fersiwn yn ôl 21:33, 30 Medi 2014

Fersiwn Rhagfyr 1998

Llyfr Cymraeg a gyhoeddwyd gyntaf yn 1703 yw Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne. Ystyrir y llyfr yn brif waith llenyddol Wynne, ac yn un o glasuron rhyddiaith Gymraeg y 18fed ganrif.

Cefndir a chynnwys

Mae'r gwaith yn seiledig yn fras ar gyfieithiadau Saesneg Roger L'Estrange a John Stevens o'r llyfr Los Sueños ('Y Breuddwydion') gan y Sbaenwr Don Francisco de Quevedo (1580-1645). Mae'r bardd yn gweld tair gweledigaeth fel mae'n modrwyo drwy'r byd (Gweledigaeth cwrs y Byd), drwy angau (Gweledigaeth Angeu yn ei Frenhinllys isa) a thrwy uffern (Gweledigaeth Uffern). Fe'i hebryngir gan angel ar y ddaear ac mewn uffern a chan Meistr Cwsc ym Mrenhinllys isa Angau. Mae'r gwaith yn darlunio taith pechadur o'r byd hwn drwy angau at uffern. Llyfr bwrlesg a ysgrifennwyd mewn Cymraeg naturiol a choeth sy'n mynegi safbwynt brenhinwr ac eglwyswr ar gyflwr y wlad yn ei oes yw'r Gweledigaethau. Mae'n dangos meistrolaeth yr awdur ar Gymraeg clasurol yn ogystal â Chymraeg llafar y cyfnod ar ei mwyaf rhywiog. Gweledigaeth o Lys Angau a geir yno, ac mae'n bosibl fod Wynne wedi bwriadu ail gyfrol ar Lys Paradwys yn olyniant iddo. Yn ogystal â disgrifiadau llawn dychymyg o Uffern a dychan deifiol, ceir fel gwrthgyferbyniad trawiadol ddarnau o ryddiaith swynol iawn, yn arbennig yr agoriad enwog sy'n disgrifio'r wlad o gwmpas Harlech trwy sbienddrych yr awdur.

Dylanwad

Ail-argraffwyd y llyfr nifer o weithiau, gan gynnwys argraffiad gan Wasg Prifysgol Cymru, a chyhoeddwyd cryn dipyn o feirniadaeth lenyddol arno.

Llyfryddiaeth

  • E. D. Evans "Golygiadau politicaidd Ellis Wynne fel yr amlygir hwy yn 'Gweledigaethau y Bardd Cwsc'" yn Llên Cymru, 31 (2008), tt. 165-176
  • R. M. Jones, Angau Ellis Wynne (Aberystwyth, 1968)
  • Gwyn Thomas, 'Ellis Wynne, y Lasynys' yn Gwŷr Llên y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1966)
  • Gwyn Thomas, Y Bardd Cwsg a'i Gefndir (Caerdydd, 1971). Astudiaeth gynhwysfawr.
  • Gwyn Thomas, Ellis Wynne (Cyfres Writers of Wales, 1984)
  • Gwyn Thomas, 'Gweledigaethau y Bardd Cwsg: The Visions of the Sleeping Bard (1703)'. Zeitschrift für celtische Philologie 52 (2001): 200–10.