Antiochia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Image:AntiochRamparts.jpg|thumb|250px|Muriau Antiochia yn dringo Mons Silpius yng nghyfnod y Croesgadau)]] |
[[Image:AntiochRamparts.jpg|thumb|250px|Muriau Antiochia yn dringo Mons Silpius yng nghyfnod y Croesgadau)]] |
||
Roedd '''Antiochia ar yr Orontes''' ([[Groeg]]: Αντιόχεια η επί Δάφνη, Αντιόχεια η επί Ορόντου neu Αντιόχεια η Μεγάλη; [[Lladin]]: ''Antiochia ad Orontem''; yn ddinas ar lan ddwyreiniol [[Afon Orontes]], ar safle dinas fodern [[Antakya]], [[Twrci]]. |
Roedd '''Antiochia ar yr Orontes''' ([[Groeg]]: Αντιόχεια η επί Δάφνη, Αντιόχεια η επί Ορόντου neu Αντιόχεια η Μεγάλη; [[Lladin]]: ''Antiochia ad Orontem''; yn ddinas ar lan ddwyreiniol [[Afon Orontes]], ar safle dinas fodern [[Antakya]], yn ne-orllewin [[Twrci]]. |
||
Sefydlwyd Antiochia tua diwedd y [[4ydd ganrif CC]] gan [[Seleucus I Nicator]], un o gadfridogion [[Alecsander Fawr]]. Dywedir i gynllun gwreiddiol strydoedd y ddinas gael ei osod gan y pensaer [[Xenarius]] i efelychu dinas [[Alexandria]]. Tyfodd i fod yn ddinas fawr a phwysig, yn cystadlu ag Alexandria fel dinas bwysicaf y dwryrain, ac yn ddinas bwysig iawn yn hanes datblygiad [[Cristionogaeth]]. |

Fersiwn yn ôl 08:03, 21 Mehefin 2007
Roedd Antiochia ar yr Orontes (Groeg: Αντιόχεια η επί Δάφνη, Αντιόχεια η επί Ορόντου neu Αντιόχεια η Μεγάλη; Lladin: Antiochia ad Orontem; yn ddinas ar lan ddwyreiniol Afon Orontes, ar safle dinas fodern Antakya, yn ne-orllewin Twrci.
Sefydlwyd Antiochia tua diwedd y 4ydd ganrif CC gan Seleucus I Nicator, un o gadfridogion Alecsander Fawr. Dywedir i gynllun gwreiddiol strydoedd y ddinas gael ei osod gan y pensaer Xenarius i efelychu dinas Alexandria. Tyfodd i fod yn ddinas fawr a phwysig, yn cystadlu ag Alexandria fel dinas bwysicaf y dwryrain, ac yn ddinas bwysig iawn yn hanes datblygiad Cristionogaeth.
Yn ystod oes aur y ddinas tua diwedd y cyfnod Hellenistaidd a dechrau'r cyfnod Rhufeinig, roedd ei phoblogaeth wedi cyrraedd tua 500,000; y drydedd dinas yn y byd ar ôl Rhufain ac Alexandria]]. Erbyn y 4edd ganrif, yn ôl Chrysostom roedd y boblogaeth wedi lleihau i tua 200,00. Nid yw'r ffigyrau hyn yn cynnwys caethweision.
Yn ddiweddarach bu ymgiprys am y ddinas rhwng yr Arabiaid a'r Ymerodraeth Fysantaidd. Bu gwarchae hir ar y ddinas yn ystod y Groesgad Gyntaf, a daeth Bohemund, tywysog Taranto, yn arglwydd y ddinas. Cipiwyd y ddinas yn ôl yn 1268 gan y Swltan Mamluk Baibars wedi gwarchae hir arall. Lladdodd Baibars lawer o'r boblogaeth Gristionogol, a rhwng hyn a'r ffaith fod y porthladd erbyn hyn allan o gyrraedd llongau mawr, dirywiodd y ddinas.
Roedd yr hanesydd Ammianus Marcellinus yn enedigol o'r ddinas.