Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
Cymrodor (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 92: Llinell 92:
| style="background:pink;"|
| style="background:pink;"|
|
|
|88.6
|
|-
|-
|[[Dumfries a Galloway]]
|[[Dumfries a Galloway]]
Llinell 188: Llinell 188:
| style="background:pink;"|
| style="background:pink;"|
|
|
|87.4
|
|-
|-
|[[Midlothian]]
|[[Midlothian]]
Llinell 236: Llinell 236:
| style="background:pink;"|
| style="background:pink;"|
|
|
|87.3
|
|-
|-
|[[Gororau'r Alban]]
|[[Gororau'r Alban]]

Fersiwn yn ôl 23:53, 18 Medi 2014

Refferendwm annibyniaeth i'r Alban
Dydd Iau, 18 Medi 2014
A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?
Canlyniadau
Dim canlyniad eto
Etholaeth 4.3 miliwn (ar Medi 2014;
dros 16 oed)[1]
Prif Weinidog yr Alban Alex Salmond, gyda'i Ddirprwy Nicola Sturgeon, yn Awst 2007
Siambr Llywodraeth yr Alban, Holyrood, Caeredin
Baner yr Alban ar y chwith a Jac yr Undeb, Lloegr , ar y dde.
Pôl piniwn o'r holl bolau
Graff o holiaduron yn rhagweld sut oedd yr etholaeth yn bwriadu pleidleisio

Ar 18 Medi 2014 cynhaliodd Llywodraeth yr Alban refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban. Roedd y refferendwm yn gofyn i etholwyr yr Alban: "A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?"[2] (Saesneg: Should Scotland be an independent country?).[3] Mae hyn yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y Deyrnas Unedig,[4] yn dilyn papur a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2013 a oedd yn gosod y seiliau.[5] ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth yr Alban ar 14 Tachwedd 2013 ac yn Llundain ar 17 Rhagfyr 2013.[6] Bydd angen mwyafrif (h.y. dros 50%) o'r pleidleisiau i annibyniaeth gael ei wireddu.[7][8]

Hyd at 12 diwrnod cyn y refferendwm, roedd y poliau'n nodi fod y garfan dros annibyniaeth tua chwe phwynt ar ôl y Na, ond ar y 6ed o Fedi cyhoeddwyd pôl piniwn y Times a oedd yn dangos fod 51% o'r etholwyr yn bwriadu pleidleisio dros annibyniaeth.[9] Mewn ymateb i hyn cyhoeddodd y Canghellor George Osborne y byddai'r Alban yn derbyn mwy o annibyniaeth a hawliau megis codi trethi, waeth beth fydd canlyniad i hyn. Yr un diwrnod, mynnodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y dylid rhoi'r un hawliau i Gymru.[10] Ymateb arall i hyn oedd i nifer o wleidyddion Saesneg gan gynnwys David Cameron, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, ymweld â'r Alban er mwyn ceisio dylanwadu ar y bleidlais.

Cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban drwy fesur cyfreithiol i ostwng oed pleidleisio o 18 i 16 oed, fel rhan o bolisi'r SNP dros safoni'r oedran hwn ym mhob etholiad yn yr Alban.[11][12] Cytunodd y Blaid Lafur, y Rhyddfrydwyr a'r Blaid Werdd gyda'r mesur.[13][14]

Yn Ionawr 2012, arweiniodd Elaine Murray, Aelod o'r Blaid Lafur, ymgyrch yn annog y dylid rhoi'r hawl i'r 800,000 o Albanwyr sy'n byw y tu allan i'r Alban i gael yr hawl i bleidleisio. Gwrthwynebwyd hyn gan Lywodraeth yr Alban, a ddadleuodd y byddai'n anodd iawn i weinyddu hyn ac y byddai Adran Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn cwestiynu cyfreithlondeb refferendwm sydd heb ei seilio ar ffiniau daearyddol.[15]

Os yw'r mwyafrif yn erbyn annibyniaeth yna bydd yr Alban yn parhau o dan y drefn bresennol, yn rhan o'r Deyrnas Unedig,[7][8] ond byddai rhagor o bwerau yn cael eu datganoli i'r Alban o Lundain, fel rhan o Ddeddfwriaeth yr Alban 2012.[7][8]

Yr ymgyrch

Lansiwyd yr ymgyrch dros annibyniaeth ar y 25ain o Fai 2014.[16] Y Prif Weithredwr yw Blair Jenkins,[16] cyn Gyfarwyddwr Darlledu Teledu'r Alban (STV) a Phennaeth Newyddion a Materion Cyfoes STV a BBC yr Alban. Cefnogir yr ymgyrch gan yr SNP,[16] Plaid Werdd yr Alban a Phlaid Sosialaidd yr Alban.[17] Erbyn 22 Awst 2014 roedd dros un filiwn o Albanwyr wedi arwyddo deiseb yn galw am Annibyniaeth.[18]

Lansiwyd yr ymgyrch yn erbyn annibyniaeth (Better Together) ar 25 Mehefin 2012[19] dan arweinyddiaeth Alistair Darling, cyn Ganghellor y Trysorlys, ac fe'u cefnogir gan y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd.[19]

Gwnaed sylw yn Golwg gan Dylan Iorwerth (Golygydd Gyfarwyddwr) mai dim ond rhesymau economaidd oedd gan y garfan yn erbyn annibyniaeth; Y rhyfeddod ydi'r diffyg sôn am genedligrwydd a hanes a diwylliant. meddai.[20]

Y broses

Cychwynwyd pleidleisio ar 27 Awst 2014 pan dderbyniodd pleidleiswyr post eu ffurflenni pleidleisio. Cofrestrodd 680,235 ar gyfer hyn, sef 20% yn uwch nag ym Mawrth 2014.[21] Arestiwyd un dyn 28 oed o Drumchapel am geisio gwerthu ei ffurflen bleidleisio ar eBay.[22] Y diwrnod olaf y gellid cofrestru ar gyfer y refferendwm oedd yr ail o Fedi.[21]

Dadlau cyhoeddus

Wedi llawer o negydu rhwng y ddwy garfan, trefnwyd dadl deledu rhwng y ddau arweinydd Salmond a Darling[23] ar raglen o'r enw Salmond & Darling: The Debate, a chafodd ei darlledu ar STV ar 5 Awst 2014. Cynhaliwyd ail ddadl rhyngddynt ar 25 o Awst 2014, o'r enw Scotland Decides: Salmond versus Darling ac fe'i darlledwyd ar BBC One Scotland a BBC 2 ar gyfer gweddill gwledydd Prydain.[24][25] Ystyriwyd mai Alastair Darling enillodd y ddadl deledu gyntaf gyda 53% o'r cyhoedd yn credu mai Darling a ddaeth allan gryfaf[26]. Fodd bynnag yn yr ail ddadl deledu credwyd mai Alec Salmond lwyddodd i berswadio'r cyhoedd orau.[27]

Canlyniad

Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi fesul un o 32 Awdurdodau unedol yr Alban.

Fesul rhanbarth

Etholaeth Nifer Am (Ie) Nifer yn Erbyn (Na) Am (Ie) (%) Yn Erbyn (Na) (%) Cyfanswm Pleidleisiau Cynulliad (%)
Dinas Aberdeen
Swydd Aberdeen
Angus
Argyll a Bute
Swydd Clackmannan 88.6
Dumfries a Galloway
Dinas Dundee
Dwyrain Swydd Ayr
Dwyrain Swydd Dunbarton
Dwyrain Lothian
Dwyrain Swydd Renfrew
Dinas Edinburgh
Falkirk
Fife
Dinas Glasgow
Yr Ucheldir
Inverclyde 87.4
Midlothian
Moray
Gogledd Swydd Ayr
Gogledd Swydd Lanark
Perth a Kinross
Swydd Renfrew 87.3
Gororau'r Alban
De Swydd Ayr
De Swydd Lanark
Stirling
Gorllewin Swydd Dunbarton
Gorllewin Lothian
Na h-Eileanan Siar (Ynysoedd y Gorllewin)
Ynysoedd Orkney 14,907 83.7
Ynysoedd Shetland
CYFANSWM


Dolen allanol

Cyfeiriadau

  1. "Scottish independence: More than 4.2 million voters register ahead of referendum". BBC. 11 Medi 2014. Cyrchwyd 11 Medi 2014.
  2.  Newid cwestiwn refferendwm annibyniaeth yr Alban. Golwg360 (30 Ionawr 2013). Adalwyd ar 26 Tachwedd 2013.
  3.  Q&A: Scottish independence referendum. BBC (15 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 26 Tachwedd 2013.
  4. "Agreement between the United Kingdom Government and the Scottish Government on a referendum on independence for Scotland" (PDF). 15 Hydref 2012. Cyrchwyd Mai 2013. Check date values in: |accessdate= (help)
  5. "Response to referendum consultation". Scotland.gov.uk. Cyrchwyd 11 Hydref 2012.
  6. "Scottish Independence Referendum Bill". Scottish.parliament.uk. Cyrchwyd 2014-01-31.
  7. 7.0 7.1 7.2 "Scottish independence referendum". www.gov.uk. UK Government. Cyrchwyd 29 Mai 2014.
  8. 8.0 8.1 8.2 "Scottish independence: Post-referendum agreement reached". BBC News. BBC. 18 Mehefin 2014. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.
  9. Gwefan YouGov; adalwyd 7 Medi 2014
  10. Gwefan y BBC; adalwyd 7 Medi 2014
  11. "Viewpoints: Can 16- and-17-year olds be trusted with the vote?". BBC News. BBC. 14 October 2012. Cyrchwyd 14 Hydref 2012.
  12. Macdonnell, Hamish (17 Medi 2011). "16-year-olds likely to get the vote on Union split". The Times Scotland. Llundain: Times Newspapers Limited. Cyrchwyd 18 Medi 2011.
  13. "Scottish independence: Bill to lower voting age lodged". BBC News. 12 Mawrth 2013. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2013.
  14. "Scottish independence: Referendum voting age bill approved by MSPs". BBC News. 27 Mehefin 2013. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2013.
  15. "Scottish independence: SNP dismisses ex-pat voting call". BBC News. BBC. 18 Ionawr 2012. Cyrchwyd 19 Ionawr 2012.
  16. 16.0 16.1 16.2 "Scottish independence: One million Scots urged to sign 'yes' declaration". BBC News. BBC. 25 Mai 2012. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2012.
  17. "Scottish independence: Greens join Yes Scotland campaign". BBC News. BBC. 6 Hydref 2012. Cyrchwyd 7 Hydref 2012.
  18. "Scottish independence: Yes declaration hits million target". BBC News. BBC. 22 Awst 2014. Cyrchwyd 22 Awst 2014.
  19. 19.0 19.1 "Scottish independence: Alistair Darling warns of 'no way back'". BBC News. BBC. 25 Mehefin 2012. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2012.
  20. [Golwg; 28 Awst, 2014; tud 8
  21. 21.0 21.1 . BBC. 26 Awst 2014 http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-28741264. Cyrchwyd 29 Awst 2014. Unknown parameter |title= ignored (help); Missing or empty |title= (help)
  22. "BBC News - Scottish independence: Man arrested after votes 'for sale' on eBay". BBC News. 30 Awst 2014. Cyrchwyd 30 Awst 2014.
  23. "Scottish independence: STV confirm Darling and Salmond TV debate date". BBC News. BBC. 9 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2014.
  24. "Scottish independence: BBC confirms Salmond-Darling debate". BBC News. BBC. 13 Awst 2014. Cyrchwyd 13 Awst 2014.
  25. "Scottish independence: Salmond and Darling clash in heated TV debate". BBC News. BBC. 25 Awst 2014. Cyrchwyd 25 Awst 2014.
  26. (Saesneg) New poll: 53% think Darling won TV debate, 28% back Salmond, 19% undecided. Herald Scotland (9 Awst 2014). Adalwyd ar 6 Medi 2014.
  27. {Dyf gwe |url=http://uk.reuters.com/article/2014/08/28/uk-scotland-independence-poll-idUKKBN0GS2SU20140828 |teitl=Scotland's pro-independence campaign gains on final TV debate - poll |awdur= |dyddiad= 29 Awst 2014 |gwaith= |cyhoeddwr= Reuters |dyddiadcyrchiad=6 Medi 2014 |iaith= Saesneg}}