Ogof Pen-y-Fai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
pwysigrwydd
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Red Lady of Paviland from head.jpg|bawd|Ysgerbwd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai" yn y ''Natural History Museum'', [[Llundain]].]]
[[Delwedd:Goat's Hole Paviland.jpg|250px|bawd|Ogof Twll y Gafr lle darganfuwyd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai" (darlun 1823)]]
[[Delwedd:Goat's Hole Paviland.jpg|250px|bawd|Ogof Twll y Gafr lle darganfuwyd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai" (darlun 1823)]]
[[Delwedd:Rhossili 06 05.jpg|250px|bawd|Traeth Rhosili]]
[[Delwedd:Rhossili 06 05.jpg|250px|bawd|Traeth Rhosili]]

Fersiwn yn ôl 04:15, 14 Medi 2014

Ysgerbwd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai" yn y Natural History Museum, Llundain.
Ogof Twll y Gafr lle darganfuwyd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai" (darlun 1823)
Traeth Rhosili

Ogof gynhanesyddol wedi'i lleoli ger Rhosili ar y Gŵyr (cyfeiriad grid SS951807) yw Ogof Paviland (neu Ogof Pen-y-Fai). Mae'n un o gyfres o ogofâu wedi'u cysylltu, ac a fu'n gartref i bobl yn ystod Hen Oes y Cerrig Uchaf: tua 26,000 o flynyddoedd yn cyn y presenol (CP). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain",[1] oherwydd natur defodol y claddu. Prin fod unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg yma drwy ynys Prydain ar wahân i Ogof Paviland.

Darganfyddiadau archaeolegol

Darganfuwyd yno fwyeill llaw o Hen Oes y Cerrig, dannedd bleiddiaid ac esgyrn eirth.

Ond y darganfyddiad pwysicaf oedd sgerbwd corff dynol o Hen Oes y Cerrig a adnabyddir dan yr enw "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai". Gwnaed y darganfyddiad hwnnw gan yr hynafiaethydd ac archaeolegydd cynnar William Buckland yn 1823 yn Ogof Twll y Gafr. Credai Buckland ac eraill mai sgerbwd merch oedd hi ond dangoswyd mai gweddillion dyn ifanc tuag 21-25 oed ydyw.[2] Roedd yn byw tua 29,000 o flynyddoedd yn ôl. Paentiwyd ei sgerbwd a lliw ochre coch, fel amddiffyn yn erbyn pwerau maleisus yn ôl pob tebyg (arfer cyffredin yn y cyfnod hwnnw). Dyma'r gweddillion dynol modern (Homo sapiens sapiens) hynaf a ddarganfuwyd ym Mhrydain a'r claddu defodol hynaf y gwyddys amdano yn Ewrop i gyd. Cafwyd penglog mamoth yn ei ymyl ond mae hynny ar goll erbyn hyn.

Ymhlith y darganfyddiadau diweddarach o'r ogof y mae casgliad o bennau gwaywffyn a chrafwyr croen callestr, sydd efallai i'w dyddio i'r cyfnod Aurignasiaidd.

Cadw

Mae'r heneb hon wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM434 [3] Ceir ail ogof gerllaw cyfeiriad grid SS437859 sydd wedi'i chofrestru gan Cadw gyda'r Rhif SAM unigryw: GM504

Cyfeiriadau

  1. Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 19 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai ogof Paviland yw'r "ogof gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain".
  2. Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 18 Mae'r gyfrol yma'n datgan mai dyn 25 oed sydd yma.
  3. Cofrestr Cadw.

Dolenni allanol