Dindaethwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
KLBot2 (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q5277983 |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Dindaethwy''' oedd un o ddau [[cwmwd|gwmwd]] [[cantref]] [[Rhosyr (cantref)|Rhosyr]], yn |
'''Dindaethwy''' oedd un o ddau [[cwmwd|gwmwd]] [[cantref]] [[Rhosyr (cantref)|Rhosyr]], yn nwyrain [[Môn]]. |
||
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng [[Afon Menai]] a [[Traeth Lafan]] i'r de a'r [[Traeth Coch]] ar [[Môr Iwerddon|Fôr Iwerddon]] i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt |
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng [[Afon Menai]] a [[Traeth Lafan|Thraeth Lafan]] i'r de a'r [[Traeth Coch]] ar [[Môr Iwerddon|Fôr Iwerddon]] i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt dwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym [[Penmon|Mhenmon]], gyferbyn ag [[Ynys Seiriol]]. Ffiniai â chwmwd [[Menai]], ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd [[Twrcelyn]], cantref [[Cemais (cantref ym Môn)|Cemais]], i'r gogledd. |
||
Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn [[Llan-faes]], canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd [[Llywelyn Fawr]] [[Brodordy Llan-faes|fynachlog yn Llan-faes]] a chladdwyd ei wraig [[Siwan]] yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau [[clas|glas]] pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y [[12fed ganrif]], sef [[Priordy Penmon]]. |
Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn [[Llan-faes]], canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd [[Llywelyn Fawr]] [[Brodordy Llan-faes|fynachlog yn Llan-faes]] a chladdwyd ei wraig [[Siwan]] yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau [[clas|glas]] pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y [[12fed ganrif]], sef [[Priordy Penmon]]. |
||
Ymhlith canolfannau grym diweddarach y |
Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmwd oedd [[Penmynydd]], plas teuluol [[Tuduriaid Môn]]. |
||
==Yr enw== |
==Yr enw== |
Fersiwn yn ôl 20:44, 12 Medi 2014
Dindaethwy oedd un o ddau gwmwd cantref Rhosyr, yn nwyrain Môn.
Gorweddai cwmwd Dindaethwy rhwng Afon Menai a Thraeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Roedd yn cynnwys pwynt dwyreiniol yr ynys, Trwyn Du ym Mhenmon, gyferbyn ag Ynys Seiriol. Ffiniai â chwmwd Menai, ail gwmwd Rhosyr, i'r gorllewin a chwmwd Twrcelyn, cantref Cemais, i'r gogledd.
Roedd gan Dindaethwy lys cymydol yn Llan-faes, canolfan bwysicaf y cwmwd. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, sefydlodd Llywelyn Fawr fynachlog yn Llan-faes a chladdwyd ei wraig Siwan yno. Cyn hynny roedd gan y cwmwd un o ddau glas pwysicaf yr ynys ym Mhenmon, a drowyd yn briordy yn y 12fed ganrif, sef Priordy Penmon.
Ymhlith canolfannau grym diweddarach y cwmwd oedd Penmynydd, plas teuluol Tuduriaid Môn.
Yr enw
Ystyr yr enw Dindaethwy yw 'Caer y Daethwy' (din 'caer neu amddiffynfa' + Daethwy). Ceir yr amrywiadau Tindaethwy a Tyndaethwy hefyd. Llwyth Celtaidd lleol oedd y Daethwy. Cedwir eu henw yn yr enw lle Porthaethwy yn ogystal. Mae'n bosibl mai amddiffynfa Dinas, plwyf Llandysilio, fu canolfan y llwyth.
Ymddengys fod y gair Dindaethwy yn enw Cynan Dindaethwy, brenin Gwynedd ar ddechrau'r 9fed ganrif, yn deillio o'r ffaith ei fod yn frodor o'r rhan yma o Ynys Môn.
Plwyfi
Roedd Dindaethwy yn cynnwys y plwyfi eglwysig canlynol:
- Llanbedr Mathafarn Wion
- Llandegfan
- Llandysilio
- Llanddona
- Llanddyfnan
- Llan-faes (creuwyd plwyf Biwmares yn ddiweddarach allan o ran o'r plwyf)
- Llanfair Mathafarn Eithaf
- Llanfair Betws Geraint
- Llanfair Pwllgwyngyll
- Llanfihangel Dinsilwy (aeth yn rhan o blwyf Llaniestyn)
- Llangoed
- Llaniestyn
- Llanredifel
- Llansadwrn
- Penmon
Cyfeiriadau
- A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982)
- Melville Richards, 'Rhaniadau'r Canol Oesoedd', yn Atlas Môn (Llangefni, 1972)