Nicola Sturgeon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Newydd |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 07:14, 10 Medi 2014
Nicola Sturgeon | |
| |
Dirprwy Prif Weinidog yr Alban
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 17 May 2007 | |
Ysgrifennydd Cabined Llywodraeth yr Alban
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 5 Medi 2012 | |
Geni | 19 Gorffennaf 1970 Irvine, Gogledd Ayrshire |
---|---|
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Peter Murrell |
Alma mater | Prifysgol Glasgow |
Gwleidydd a chyfreithwraig o'r Alban ydy Nicola Sturgeon (g. 19 Gorffennaf 1970 yn Irvine, Gogledd Ayrshire) sy'n Ddirprwy Brif Weinidog Senedd yr Alban ers 2007 ac yn aelod o Blaid Genedlaethol yr Alban (neu'r SNP). Mae hefyd yn Depute (neu Ddirprwy) blaid honno ers 2004 ac yn Ysgrifennydd Cabined yr Alban dros Stategaeth y Senedd a'r Llywodraeth ac Ysgrifennydd y Cabined dros Isadeiledd, Buddsoddiad a Dinasoedd. Hi yw Aelod o Lywodraeth yr Alban dros Glasgow (Deheuol).[1]
Ym 1999 y daeth Sturgeon yn Aelod Seneddol yn gyntaf gan ddod yn Llefarydd yr SNP dros iawnderau ac yna dros iechyd ac addysg. Yn dilyn ymddeoliad John Swinney yn 2004 safodd yn y frwydr dros arweinyddiaeth y blaid, ond tynnodd ei henw'n ôl pan benderfynodd Alex Salmond ymgeisio a daeth yn Ddirprwy (neu Depute). Safodd Salmond i lawr rhwng 2004 a 2007 a phenodwyd Sturgeon yn Arweinydd nes y daeth Salmond yn ei ôl i gymryd yr awennau yn etholaeth cyffredinol 2007 pan enillodd yr SNP fwy o seddau nac unrhyw blaid arall yn yr Alban. Apwyntiwyd Salmond yn Brif Weinidog ac apwyntiodd ef ei Ddirprwy: Sturgeon.
Bywyd cynnar
Cafodd ei haddysg uwchradd yn Greenwood Academy, Dreghorn ac aeth yn ei blaen i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Glasgow ble y cafodd LLB gydag Anrhydedd a Diploma mewn Cyfraith Ymarferol.[2] Yn Glasgow roedd yn flaenllaw iawn yng ngwaith yr SNP. Yna gweithiodd fel cyfreithwraig yn Stirling ac yna Canolfan y Gyfraith yn Drumchapel, Glasgow cyn iddi gael ei hethol yn MSP (Aelod o Lywodraeth yr Alban.
Annibyniaeth yr Alban
Yn 2012, etholodd Cabined Llywodraeth yr Alban Sturgeon i ofalu am Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014,[3] ac felly'n gyfrifol am ymgyrch yr SNP dros annibyniaeth eu gwlad.[4] Cred Sturgeon y gall annibyniaeth gryfhau'r Alban gan ei wneud yn fwy cystadleuol,[5] gan newid blaenoriaethau gwariant y wlad ac ateb y broblem o dlodi dybryd.[6]
Mewn cyfweliad gyda'r Daily Record, dywedodd Sturgeon y gobeithiai rywdro fod y ferch gyntaf yn swydd y Prif Weinidog.[4]
Gwobrau
Enillodd Sturgeon y teitl 'Gwleidydd Albanaidd y Flwyddyn' yn 2008. Yn 2004 a 2008 enillodd Wobr Donald Dewar: Dadleuwr y Flwyddyn, cystadleuaeth a drefnir gan The Herald.
Yn Chwefror 2013 enwyd hi fel 20fed ferch mwyaf pwerus y Deyrnas Unedig gan Women's Hour ar Radio 4.[7]
Gweler hefyd
- Margo MacDonald (19 Ebrill 1943 – 4 Ebrill 2014)
Cyfeiriadau
- ↑ http://www.snp.org/people/nicola-sturgeon
- ↑ "Candidates and Constituency Assessments". Alba.org.uk. Cyrchwyd 2011-01-17.
- ↑ "Scottish cabinet reshuffle: Nicola Sturgeon given new independence role". BBC News. 5 Medi 2012. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2014.
- ↑ 4.0 4.1 "Nicola Sturgeon admits her sights are set on landing First Minister's job but insists winning independence referendum is top priority". Daily Record. 19 Mawrth 2014. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Carrell, Severin (25 Mai 2012). "Scottish independence would allow economy to grow, says Sturgeon". The Guardian. London.
- ↑ "Nicola Sturgeon: There are 100,000 Scots in poverty and Westminster want to spend billions on Trident". Daily Record. 1 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 6 Gorffennaf 2014. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ BBC Radio 4, Rhestr Woman's Hour Power