Refferendwm annibyniaeth yr Alban, 2014: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
cyfoes |
|||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
Lansiwyd yr ymgyrch yn erbyn annibyniaeth (''Better Together'') ar 25 Mehefin 2012<ref name = "better together">{{cite news|url=http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-18572750|title=''Scottish independence: Alistair Darling warns of 'no way back'''|work=BBC News|publisher=BBC|date=25 Mehefin 2012|accessdate=18 Gorffennaf 2012}}</ref> dan arweinyddiaeth [[Alistair Darling]], cyn [[Canghellor y Trysorlys|Ganghellor y Trysorlys]], ac fe'u cefnogir gan y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd.<ref name = "better together"/> |
Lansiwyd yr ymgyrch yn erbyn annibyniaeth (''Better Together'') ar 25 Mehefin 2012<ref name = "better together">{{cite news|url=http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-18572750|title=''Scottish independence: Alistair Darling warns of 'no way back'''|work=BBC News|publisher=BBC|date=25 Mehefin 2012|accessdate=18 Gorffennaf 2012}}</ref> dan arweinyddiaeth [[Alistair Darling]], cyn [[Canghellor y Trysorlys|Ganghellor y Trysorlys]], ac fe'u cefnogir gan y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd.<ref name = "better together"/> |
||
Gwnaed sylw yn Golwg gan [[Dylan Iorwerth]] (Golygydd Gyfarwyddwr) mai dim ond rhesymau economaidd oedd gan y garfan yn erbyn annibyniaeth; ''Y rhyfeddod ydi'r diffyg sôn am genedligrwydd a hanes a diwylliant.'' meddai.<ref>[Golwg; 28 Awst, 2014; tud 8</ref> |
|||
==Y broses== |
==Y broses== |
Fersiwn yn ôl 10:08, 6 Medi 2014
Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Ar 18 Medi 2014 bydd Llywodraeth yr Alban yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth i'r Alban. Bydd y refferendwm yn gofyn i etholwyr yr Alban: "A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?"[1] (Saesneg: Should Scotland be an independent country?).[2] Mae hyn yn dilyn cytundeb rhwng Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth y Deyrnas Unedig,[3] yn dilyn papur a gyhoeddwyd ar 21 Mawrth 2013 a oedd yn gosod y seiliau.[4] ac a gymeradwywyd gan Lywodraeth yr Alban ar 14 Tachwedd 2013 ac yn Llundain ar 17 Rhagfyr 2013.[5] Bydd angen mwyafrif (h.y. dros 50%) o'r pleidleisiau i annibyniaeth gael ei wireddu.[6][7]
Cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban drwy fesur cyfreithiol i ostwng oed pleidleisio o 18 i 16 oed, fel rhan o bolisi'r SNP dros safoni'r oedran hwn ym mhob etholiad yn yr Alban.[8][9] Cytunodd y Blaid Lafur, y Rhyddfrydwyr a'r Blaid Werdd gyda'r mesur.[10][11]
Yn Ionawr 2012, arweiniodd Elaine Murray, Aelod o'r Blaid Lafur, ymgyrch yn annog y dylid rhoi'r hawl i'r 800,000 o Albanwyr sy'n byw y tu allan i'r Alban i gael yr hawl i bleidleisio. Gwrthwynebwyd hyn gan Lywodraeth yr Alban, a ddadleuodd y byddai'n anodd iawn i weinyddu hyn ac y byddai Adran Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn cwestiynu cyfreithlondeb refferendwm sydd heb ei seilio ar ffiniau daearyddol.[12]
Os yw'r mwyafrif yn erbyn annibyniaeth yna bydd yr Alban yn parhau o dan y drefn bresennol, yn rhan o'r Deyrnas Unedig,[6][7] ond byddai rhagor o bwerau yn cael eu datganoli i'r Alban o Lundain, fel rhan o Ddeddfwriaeth yr Alban 2012.[6][7]
Yr ymgyrch
Lansiwyd yr ymgyrch dros annibyniaeth ar y 25ain o Fai 2014.[13] Y Prif Weithredwr yw Blair Jenkins,[13] cyn Gyfarwyddwr Darlledu Teledu'r Alban (STV) a Phennaeth Newyddion a Materion Cyfoes STV a BBC yr Alban. Cefnogir yr ymgyrch gan yr SNP,[13] Plaid Werdd yr Alban a Phlaid Sosialaidd yr Alban.[14] Erbyn 22 Awst 2014 roedd dros un filiwn o Albanwyr wedi arwyddo deiseb yn galw am Annibyniaeth.[15]
Lansiwyd yr ymgyrch yn erbyn annibyniaeth (Better Together) ar 25 Mehefin 2012[16] dan arweinyddiaeth Alistair Darling, cyn Ganghellor y Trysorlys, ac fe'u cefnogir gan y Blaid Geidwadol, y Blaid Lafur a'r Rhyddfrydwyr Democrataidd.[16]
Gwnaed sylw yn Golwg gan Dylan Iorwerth (Golygydd Gyfarwyddwr) mai dim ond rhesymau economaidd oedd gan y garfan yn erbyn annibyniaeth; Y rhyfeddod ydi'r diffyg sôn am genedligrwydd a hanes a diwylliant. meddai.[17]
Y broses
Cychwynwyd pleidleisio ar 27 Awst 2014 pan dderbyniodd pleidleiswyr post eu ffurflenni pleidleisio. Cofrestrodd 680,235 ar gyfer hyn, sef 20% yn uwch nag ym Mawrth 2014.[18] Arestiwyd un dyn 28 oed o Drumchapel am geisio gwerthu ei ffurflen bleidleisio ar eBay.[19] Y diwrnod olaf y gellid cofrestru ar gyfer y refferendwm oedd yr ail o Fedi.[18]
Dadlau cyhoeddus
Wedi llawer o negydu rhwng y ddwy garfan, trefnwyd dadl deledu rhwng y ddau arweinydd Salmond a Darling[20] ar raglen o'r enw Salmond & Darling: The Debate, a chafodd ei darlledu ar STV ar 5 Awst 2014. Cynhaliwyd ail ddadl rhyngddynt ar 25 o Awst 2014, o'r enw Scotland Decides: Salmond versus Darling ac fe'i darlledwyd ar BBC One Scotland a BBC 2 ar gyfer gweddill gwledydd Prydain.[21][22]
Cyfeiriadau
- ↑ Newid cwestiwn refferendwm annibyniaeth yr Alban. Golwg360 (30 Ionawr 2013). Adalwyd ar 26 Tachwedd 2013.
- ↑ Q&A: Scottish independence referendum. BBC (15 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 26 Tachwedd 2013.
- ↑ "Agreement between the United Kingdom Government and the Scottish Government on a referendum on independence for Scotland" (PDF). 15 Hydref 2012. Cyrchwyd Mai 2013. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Response to referendum consultation". Scotland.gov.uk. Cyrchwyd 11 Hydref 2012.
- ↑ "Scottish Independence Referendum Bill". Scottish.parliament.uk. Cyrchwyd 2014-01-31.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "Scottish independence referendum". www.gov.uk. UK Government. Cyrchwyd 29 Mai 2014.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 "Scottish independence: Post-referendum agreement reached". BBC News. BBC. 18 Mehefin 2014. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.
- ↑ "Viewpoints: Can 16- and-17-year olds be trusted with the vote?". BBC News. BBC. 14 October 2012. Cyrchwyd 14 Hydref 2012.
- ↑ Macdonnell, Hamish (17 Medi 2011). "16-year-olds likely to get the vote on Union split". The Times Scotland. Llundain: Times Newspapers Limited. Cyrchwyd 18 Medi 2011.
- ↑ "Scottish independence: Bill to lower voting age lodged". BBC News. 12 Mawrth 2013. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Scottish independence: Referendum voting age bill approved by MSPs". BBC News. 27 Mehefin 2013. Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2013.
- ↑ "Scottish independence: SNP dismisses ex-pat voting call". BBC News. BBC. 18 Ionawr 2012. Cyrchwyd 19 Ionawr 2012.
- ↑ 13.0 13.1 13.2 "Scottish independence: One million Scots urged to sign 'yes' declaration". BBC News. BBC. 25 Mai 2012. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2012.
- ↑ "Scottish independence: Greens join Yes Scotland campaign". BBC News. BBC. 6 Hydref 2012. Cyrchwyd 7 Hydref 2012.
- ↑ "Scottish independence: Yes declaration hits million target". BBC News. BBC. 22 Awst 2014. Cyrchwyd 22 Awst 2014.
- ↑ 16.0 16.1 "Scottish independence: Alistair Darling warns of 'no way back'". BBC News. BBC. 25 Mehefin 2012. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2012.
- ↑ [Golwg; 28 Awst, 2014; tud 8
- ↑ 18.0 18.1 . BBC. 26 Awst 2014 http://www.bbc.co.uk/news/uk-scotland-scotland-politics-28741264. Cyrchwyd 29 Awst 2014. Unknown parameter
|title=
ignored (help); Missing or empty|title=
(help) - ↑ "BBC News - Scottish independence: Man arrested after votes 'for sale' on eBay". BBC News. 30 Awst 2014. Cyrchwyd 30 Awst 2014.
- ↑ "Scottish independence: STV confirm Darling and Salmond TV debate date". BBC News. BBC. 9 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 9 Gorffennaf 2014.
- ↑ "Scottish independence: BBC confirms Salmond-Darling debate". BBC News. BBC. 13 Awst 2014. Cyrchwyd 13 Awst 2014.
- ↑ "Scottish independence: Salmond and Darling clash in heated TV debate". BBC News. BBC. 25 Awst 2014. Cyrchwyd 25 Awst 2014.