Y Blew: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion
manion iaith
Llinell 11: Llinell 11:
| URL =
| URL =
| aelodaupresenol =
| aelodaupresenol =
| cynaelodau = Prif leisydd: Maldwyn Pate<br />Gitar Flaen: [http://en.wikipedia.org/wiki/Rick_Lloyd Richard Lloyd]<br />Gitar Fas: Dafydd Evans (mab [[Gwynfor Evans]])<br />Allweddellau: Dave Williams<br />Drymiau: Geraint Evans/Topsi
| cynaelodau = Prif leisydd: Maldwyn Pate<br />Gitar Flaen: [http://en.wikipedia.org/wiki/Rick_Lloyd Richard Lloyd]<br />Gitar Fas: Dafydd Evans<br />Allweddellau: Dave Williams<br />Drymiau: Geraint Evans/Topsi
}}
}}
[[Band roc]] Cymraeg arloesol, gynnar oedd '''Y Blew''' a ystyrir fel y grŵp roc trydanol cyntaf i ganu’n Gymraeg ac i rhyddhau record. Fe'i sefydlwyd ym Mhasg [[1967]], gan bedwar o fyfyrwyr [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] a oedd wedi syrffedu ar ganu ysgafn, hen ffasiwn Cymraeg ac yn ymwybodol o’r angen i ddatblygu cerddoriaeth berthnasol i bobl ifanc.
[[Band roc]] Cymraeg arloesol, gynnar oedd '''Y Blew''' a ystyrir fel y grŵp roc trydanol cyntaf i ganu’n Gymraeg ac i rhyddhau record. Fe'i sefydlwyd ym Mhasg [[1967]], gan bedwar o fyfyrwyr [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth]] a oedd wedi syrffedu ar ganu ysgafn, hen ffasiwn Cymraeg ac yn ymwybodol o’r angen i ddatblygu cerddoriaeth berthnasol i bobl ifanc: Maldwyn Pate, Dafydd Evans, Dave Williams a Geraint Evans.


<blockquote>'''''Mae eisiau i bobol sgrechian mewn Cymraeg sâl''''' - Y Blew <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=2}}</ref> </blockquote>
<blockquote>''Mae eisiau i bobol sgrechian mewn Cymraeg sâl'' - Y Blew <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=2}}</ref> </blockquote>


Cynhalwyd gig arloesol yn neuadd [[Talybont]] ym Mhasg 1967. Er mwyn cael yr offer i ddatblygu ymhellach, bu'n rhaid i'r band benthyca swm sylweddol o arian.
Cynhalwyd gig arloesol yn neuadd [[Talybont]] ym Mhasg 1967. Er mwyn cael yr offer i ddatblygu ymhellach, bu'n rhaid i'r band benthyca swm sylweddol o arian.
Llinell 41: Llinell 41:
==Teithiau==
==Teithiau==
[[Delwedd:Y Blew Poster.jpg|thumb|left|Poster gig Y Blew, Talybont]]
[[Delwedd:Y Blew Poster.jpg|thumb|left|Poster gig Y Blew, Talybont]]
Penderfynodd y band fynd ati o ddifrif i drefnu teithiau o gigs, fe drefnodd y band tair taith pob un yn ne Cymru, y cyntaf ym mis Mehefin, yr ail yn fis Gorffennaf a’r trydydd yn Awst-Medi. Ar y pryd nid oedd modd rhenti system sain am y noson a bu rhaid benthyg swm sylweddol i brynu offer a fan.
Penderfynodd y band fynd ati o ddifrif i drefnu teithiau o gigs, fe drefnon nhw dair taith yn Ne Cymru: y cyntaf ym mis Mehefin, yr ail ym mis Gorffennaf a’r trydydd yn Awst-Medi. Ar y pryd nid oedd modd rhentu system sain am y noson a bu'n rhaid benthyg swm sylweddol o arian i brynu offer a fan.


Roedd trefnu'r daith gigs yn hollol broffesiynol, llogwyd byrddau hysbysebu enfawr a dosbarthwyd miloedd o daflenni yn cyhoeddi "Mae'r Blew yn dod".
Roedd trefniadau'r daith yn hollol broffesiynol: llogwyd byrddau hysbysebu enfawr a dosbarthwyd miloedd o daflenni yn cyhoeddi "Mae'r Blew yn dod".
Mae rhai o'r memorobilia hyn i'w gweld yn yr arddangosfa newydd yn y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn Aberystwyth.
Mae rhai o'r memorobilia hyn i'w gweld yn yr arddangosfa newydd yn y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn Aberystwyth.<ref>[http://canmlwyddiant.llgc.org.uk/cy/XCM1967/book/2/1/1.html Gwean y Llyfrgell Genedlaethol;] adalwyd 5 Awst 2014</ref>
Bu’r nosweithiau’n llwyddiannus iawn, yn aml fe ddaeth holl bobl ifanc yr ardal i weld y ffenomenon yn eu pentref. Yn dilyn un gig fe ddarganfu’r band negeseuon mewn lipstic dros eu fan a ysgrifennwyd gan ferched oedd wedi bod yn y noson. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=4}}</ref>
Bu’r nosweithiau’n llwyddiannus iawn, yn aml fe ddaeth holl bobl ifanc yr ardal i weld y ffenomenon yn eu pentref. Yn dilyn un gig fe ddarganfu’r band negeseuon mewn lipstic dros eu fan a ysgrifennwyd gan ferched oedd wedi bod yn y noson. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=4}}</ref>


Llinell 51: Llinell 51:
<blockquote> ''Roedden ni’n gwneud caneuon oddi ar Sargent Pepper a’u cyfieithu i Gymraeg.. roedden ni hyd yn oed yn canu San Fransisco gan [http://en.wikipedia.org/wiki/Scott_McKenzie Scott McKenzie] yn Gymraeg, a caneuon [http://en.wikipedia.org/wiki/Cream_(band) Cream] pethe felly, a rhai ein hunain hefyd, yn arbennig rhai oedd yn rhoi cyfle i Richard Lloyd chwarae gitar. Roedd e’n gitarydd eitha da, y steil ar y pryd oedd i sefyll reit lan at yr ampliffier er mwyn cael feedback'' - Dafydd Evans. </blockquote>
<blockquote> ''Roedden ni’n gwneud caneuon oddi ar Sargent Pepper a’u cyfieithu i Gymraeg.. roedden ni hyd yn oed yn canu San Fransisco gan [http://en.wikipedia.org/wiki/Scott_McKenzie Scott McKenzie] yn Gymraeg, a caneuon [http://en.wikipedia.org/wiki/Cream_(band) Cream] pethe felly, a rhai ein hunain hefyd, yn arbennig rhai oedd yn rhoi cyfle i Richard Lloyd chwarae gitar. Roedd e’n gitarydd eitha da, y steil ar y pryd oedd i sefyll reit lan at yr ampliffier er mwyn cael feedback'' - Dafydd Evans. </blockquote>


[[File:sgt pepper.jpg|thumb|300px|Cofir haf 1967 fel y [http://en.wikipedia.org/wiki/Summer_of_Love Summer of Love] gyda’r mudiad hipiaidd yn seiliedig ar ‘heddwch a chariad’ ar ei anterth. Roedd y cyfryngau poblogaidd yn llawn rhybuddion am bobl ifanc yn troi i ffwrdd o ddisgyblaeth y genhedlaeth hŷn wrth ymddiddori mewn cyffuriau ac agweddau mwy agored i rywioldeb. Roedd y [[The Beatles|Beatles]] newydd ryddhau eu halbwm siecadelig ‘Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band’ ac wedi aros ym [[Bangor|Mangor]] ar gyfer penwythnos o fyfyrdod gyda Guru Indiaid.]]
[[File:sgt pepper.jpg|thumb|300px|Cofir haf 1967 fel y [http://en.wikipedia.org/wiki/Summer_of_Love Summer of Love] gyda’r mudiad hipiaidd yn seiliedig ar ‘heddwch a chariad’ ar ei anterth. Roedd y cyfryngau poblogaidd yn llawn rhybuddion am bobl ifanc yn troi i ffwrdd o ddisgyblaeth y genhedlaeth hŷn wrth ymddiddori mewn cyffuriau ac agweddau mwy agored at ryw. Roedd y [[The Beatles|Beatles]] newydd ryddhau eu halbwm seicadelig ''Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band'' ac wedi aros ym [[Bangor|Mangor]] ar gyfer penwythnos o fyfyrdod gyda Guru Indiaid.]]


==Eisteddfod Bala, 1967==
==Eisteddfod Bala, 1967==
Ni fentrodd teithiau'r band i'r gogledd o [[Corris|Gorris]], er i grwpiau pop a roc Saesneg eu hiaith chwarae'n gyson mewn nifer fawr o neuaddau, caffis a chlybiau trwy ogledd Cymru ar hyd y 1960au.
Ni fentrodd teithiau'r band i'r gogledd o [[Corris|Gorris]], er i grwpiau pop a roc Saesneg eu hiaith chwarae'n gyson mewn nifer fawr o neuaddau, caffis a chlybiau trwy ogledd Cymru ar hyd y 1960au. Teimlodd Y Blew nad oedd y gogleddwyr yn barod am roc Cymraeg trydanol neu am newid yr arfer o [[noson lawen|nosweithiau llawen]] traddodiadol gyda cherddoriaeth acwstig gwerin fel [[Dafydd Iwan]] a [[Tony ac Aloma]] a grwpiau 'hogia' fel [[Hogia Llandegai]] a [[Hogia’r Wyddfa]]. Unig berfformiad Y Blew yn y gogledd oedd yn ystod [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967]]. Roedd Maes yr Ŵyl wedi’i rhannu'n sawl rhan, Maes A, Maes B a Maes C ayb… gyda’r bobl ifanc yn gwersylla ar ‘Maes B’ ble perfformiodd y Blew gan ddod ag ysbryd a llawenydd y diwylliant newydd siecadelig. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=8}}</ref>

Fe deimlodd Y Blew nad oedd y gogleddwyr yn barod am roc Cymraeg trydanol neu am newid yr arfer o [[noson lawen|nosweithiau llawen]] draddodiadol gyda cherddoriaeth acwstig gwerin fel [[Dafydd Iwan]] a [[Tony ac Aloma]] a grwpiau 'hogia' fel [[Hogia Llandegai]] a [[Hogia’r Wyddfa]]. Unig berfformiad Y Blew yn y gogledd oedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 1967.

Roedd Maes yr ŵyl wedi’i rhanni i sawl rhan, Maes A, Maes B a Maes C etc… gyda’r bobl ifanc yn gwersylla ar ‘Maes B’ ble perfformiodd y Blew gan ddod ag ysbryd a llawenydd y diwylliant newydd siecadelig. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=8}}</ref>


==Diwedd y grŵp==
==Diwedd y grŵp==
Perfformiodd y band hyd at Nadolig 1967 ond fe roddwyd y gorau iddi gyn diwedd y flwyddyn ac fe wasgarodd yr aelodau, y canwr Maldwyn Pate yn mynd i fyw yn [[Efrog Newydd]] i weithio fel coreograffydd. Fe aeth Richard Lloyd i fod yn aelod o’r grwp llwyddiannus y [http://en.wikipedia.org/wiki/The_Flying_Pickets Flying Pickets] a gyrhaeddod rhif un yn siartiau Prydain gyda ‘'Only You’’ dros Nadolig 1983. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=14}}</ref>
Perfformiodd y band hyd at Nadolig 1967 ond fe roddwyd y gorau iddi cyn diwedd y flwyddyn ac fe wasgarodd yr aelodau; aeth y canwr Maldwyn Pate i fyw i [[Efrog Newydd]] lle gweithiodd fel [[coreograffi|coreograffydd]]. Aeth Richard Lloyd yn aelod o’r grwp y [http://en.wikipedia.org/wiki/The_Flying_Pickets Flying Pickets] a gyrhaeddod rhif un yn siartiau Prydain gyda ‘'Only You’’ dros Nadolig 1983. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=14}}</ref>


Ar ôl i’r Blew chwalu fe gymerodd hi 5 mlynedd i’r band roc trydanol nesaf i’w ffurfio, gyda [[Brân]] ac [[Edward H. Dafis]] tua 1972-3.
Ar ôl i’r Blew chwalu fe gymerodd hi 5 mlynedd i’r band roc trydanol nesaf i’w ffurfio: [[Brân]] ac yna [[Edward H. Dafis]] tua 1972-3.


<blockquote>''Rwy’n credu ei fod e wedi cymered amser i’r geiniog syrthio. Roedd ‘ethos’ y Cymry Cymraeg - Perlau Taf, Y Pelydrau.. dyna fath o beth oedd yn mynd ar y pryd'' - meddai Dafydd Evans mewn cyfweliad ym 1986. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=14}}</ref></blockquote>
<blockquote>''Rwy’n credu ei fod e wedi cymered amser i’r geiniog syrthio. Roedd ‘ethos’ y Cymry Cymraeg - Perlau Taf, Y Pelydrau.. dyna fath o beth oedd yn mynd ar y pryd'' - Dafydd Evans mewn cyfweliad ym 1986. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=14}}</ref></blockquote>


==Y Sengl ''Maes B''==
==Y Sengl ''Maes B''==
[[File:Y_Blew_Record_Sengl_Maes_B_1967.jpg |thumb|left|Clawr sengl Maes B, Y Blew]]
[[File:Y_Blew_Record_Sengl_Maes_B_1967.jpg |thumb|left|Clawr sengl Maes B, Y Blew]]
Gwahoddwyd Y Blew recordio sengl gyda [[Recordiau Cambrian]] a oedd yn arfer rhyddhau cerddoriaeth corau a chanu ysgafn ond roedd y band o'r farn nad oedd offer recordio un trac y cwmni'n addas. Fe benderfynon dderbyn cynnig cwmni [[Qualiton]], Pontardawe, am roeddent yn gallu cynnig defnydd stiwdio gyda mwy o draciau BBC Abertawe. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=12}}</ref>
Gwahoddwyd Y Blew i recordio sengl gyda [[Recordiau Cambrian]] a oedd yn arfer rhyddhau cerddoriaeth corau a chanu ysgafn ond roedd y band o'r farn nad oedd offer recordio un trac y cwmni'n addas. Fe benderfynon dderbyn cynnig cwmni [[Qualiton]], Pontardawe, gan eu bod yn gallu cynnig stiwdio gyda mwy o draciau BBC Abertawe. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=12}}</ref>


Er i deitl y gân dathlu dyfodiad siecadelia i Maes B yr Eisteddfod, nid yw geiriau'r gân yn cyfeirio at faes yr Eisteddfod. Mae geiriau'r gân yn adlewyrchu ffasiwn seicedelig 1967 gyda llinellau fel ''pam 'na nei di ddod 'da fi i weld y tylwyth teg a chael clywed cloc y dref yn taro tair ar ddeg''. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=8}}</ref>
Er i deitl y gân ddathlu dyfodiad siecadelia i Faes B yr Eisteddfod, nid yw geiriau'r gân yn cyfeirio at faes yr Eisteddfod. Mae geiriau'r gân yn adlewyrchu ffasiwn seicedelig 1967 gyda llinellau fel ''pam 'na nei di ddod 'da fi i weld y tylwyth teg a chael clywed cloc y dref yn taro tair ar ddeg''. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=8}}</ref> Fe'i hsgrifennwyd y noson gynt, y dôn gan Dave Williams (Allweddellau) gydag ambell awgrym gan Maldwyn Pate. Y dylanwad mwyaf ar Dave Williams ar y pryd oedd sŵn [[Tamla Motown]] sydd i'w clywed yn glir ar y drymio.


Recordiwyd y cyfan, yn cynnwys yr ail ochr, mewn ychydig o oriau gan fod y band ar frys i gyrraedd [[Aberystwyth]] i chwarae dwy gig y noson honno (un yn Neuadd y Dref a'r llall yng Ngwesty'r Marine). Nid oedd y drymiwr wedi ei clywed Maes B, nes iddo gyrraedd y stiwdio. Ar y recordiad fe glywir Pate yn canu 'edrych ar y snos' yn lle 'nos', ond nid oedd amser i'w gywiro.
Ysgrifennwyd y gân ''Maes B'' y noson gynt, y dôn gan Dave Williams (Allweddellau) gydag ambell awgrym gan Maldwyn Pate. Dylanwad mwyaf ar Dave Williams ar y pryd oedd sŵn [[Tamla Motown]] sydd i'w clywed yn glir ar y drymio.


Fe hoffai'r band fod wedi cael sŵn trymach, mwy cyfoes, yn debycach i Cream a ''Hey Joe'', [[Jimi Hendrix]] a oedd yn llwyddiant mawr ar y pryd, ond nid oedd yn bosib gydag offer elfennol stiwdio BBC Abertawe.
Recordiwyd y cyfan, yn cynnwys yr ail ochr, mewn ychydig o oriau roedd y band ar frys i gyrraedd Aberystwyth i chwarae dwy gig y noson honno (un yn Neuadd y Plwyf a'r llall yng Ngwesty'r Marine). Nid oedd y drymiwr wedi ei chlywed nes cyrraedd y stiwdio. Ar y recordiad fe glywir Pate yn canu 'edrych ar y snos' yn lle 'nos', ond nid oedd amser i'w gywiro.


Credir i tua 2,000 o senglau cael eu gwasgu. Ni chafodd y gân fawr o chwarae ar y radio, prin oedd y Gymraeg i’w chlywed gyda’r gwasanaethau radio wedi'u lleoli yn Llundain ar yr adeg honno. Fe adolygwyd Maes B ar raglen panel yn trafod recordiau newydd eu rhyddhau ar BBC Radio 1 (fe lansiwyd Radio 1 yn fis Hydref 1967 mis cyn rhyddhau ''Maes B'') ond roedd y panelwyr o dan yr argraff bod canu yn Gymraeg yn ddim ond rhyw fath o gimig gwerthu.
Fe hoffai'r band wedi cael sŵn trymach, mwy cyfoes, yn debycach i Cream a ''Hey Joe'', [[Jimi Hendrix]] a oedd yn llwyddiannau mawr ar y pryd, ond nid oedd yn bosib ar offer elfennol stiwdio BBC Abertawe.


Meddai Dafydd Evans ''Fe wnaethon nhw werthu'n dda yn Ne Cymru; doedden ni ddim wedi perfformio yn y gogledd felly roedd y gwrthiant yn is''. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=13}}</ref>
Credir i tua 2,000 o senglau cael eu gwasgu. Ni chafodd y gân fawr o chwarae ar y radio, prin oedd y Gymraeg i’w clywed gyda’r gwasanaethau radio wedi'u lleoli yn Llundain ar yr adeg honno. Fe adolygwyd Maes B ar raglen panel yn trafod recordiau newydd eu rhyddhau ar BBC Radio 1 (fe lansiwyd Radio 1 yn fis Hydref 1967 mis cyn rhyddhau ''Maes B'') ond roedd y panelwyr o dan yr argraff bod canu yn Gymraeg ond yn rhyw fath o gimig gwerthu.
[[Delwedd:The_Second_Album_(The_Spencer_Davis_Group_album).jpg|thumb|left|100px|Clawr Spencer Davis]]


Meddai Dafydd Evans ''Fe wnaethon nhw werthu'n dda yn ne Cymru, doedden ni ddim wedi perfformio yn y gogledd felly roedd y gwrthiant yn is''. <ref>{{harvnb|Hanes y Blew|1986|p=13}}</ref>


[[Delwedd:The_Second_Album_(The_Spencer_Davis_Group_album).jpg|thumb|left|100px|Clawr Spencer Davis]]
====Ochr 2 – ''Beth Sy'n Dod Rhyngom Ni''====
====Ochr 2 – ''Beth Sy'n Dod Rhyngom Ni''====
Mae ail ochr y sengl yn fersiwn Y Blew o'r gân [http://en.wikipedia.org/wiki/Curtis_Mayfield Curtis Mayfield] ''You Must Believe Me''.
Mae ail ochr y sengl yn fersiwn Y Blew o'r gân [http://en.wikipedia.org/wiki/Curtis_Mayfield Curtis Mayfield] ''You Must Believe Me''.
Llinell 92: Llinell 85:
Mae'r [[Trwnyau Coch]] yn canu fersiwn o ''Beth Sy'n Dod Rhyngom Ni'' ar eu record hir ''Rhedeg Rhag y Torpidos'' (1980, SAIN-1186M).
Mae'r [[Trwnyau Coch]] yn canu fersiwn o ''Beth Sy'n Dod Rhyngom Ni'' ar eu record hir ''Rhedeg Rhag y Torpidos'' (1980, SAIN-1186M).


==Cyfeiriadau a teyrngedau i ''Maes B''==
==Cyfeiriadau a theyrngedau i ''Maes B''==
[[Delwedd:Hanes y Blew 1986.jpg|thumb|150px|Clawr ffansin Cymdeithas yr Iaith, 1986]]
[[Delwedd:Hanes y Blew 1986.jpg|thumb|150px|Clawr ffansin Cymdeithas yr Iaith, 1986]]
Prin iawn bu’r sylw i’r Blew wedi 1967 gyda sîn roc Cymraeg yn tyfu o fandiau diweddarach fel [[Brân]] ac [[Edward H. Dafis]] a ffrufwyd tua 1972-73.
Prin iawn bu’r sylw i’r Blew wedi 1967. Ym 1986, bron i ugain mlynedd ers ‘’Y Blew’’ fe gyhoeddwyd ‘’Hanes y Blew’’ gan [[Cymdeithas yr Iaith]]. Yn drawsgrifiad o gyfweliad gyda Dafydd Evans yn cynnwys lluniau a thoriadau papur archif.


Cymerwyd hyd at 1997 cyn recordio rhaglen deledu ddogfen am Y Blew ar S4C.
Ym 1986, bron i ugain mlynedd ers ‘’Y Blew’’ fe gyhoeddwyd ‘’Hanes y Blew’’ gan [[Cymdeithas yr Iaith]]. Yn drawsgrifiad o gyfweliad gyda Dafydd Evans yn cynnwys lluniau a thoriadau papur archif.
<ref>{{cite web |url=http://ybydysawd.com/2013/08/y-blew/|title=Y Blew |last= |first= |publisher=S4C |date=28 Awst 2013 |website= Y Bydysawd.com |accessdate=27 Gorffennaf 2014}}</ref> Roedd hon yn cynnwys ffilmiau archif o berfformiad teledu’r band, cyfweliad gyda’r aelodau a'r rhai a oedd yn eu cofio, ar ddiwedd y rhaglen mae’r aelodau’n ail-recordio ‘Maes B’ mewn stiwdio fodern.


Hefyd yn 1997 fe ddychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Bala a bu sawl erthygl gylchgrawn a radio yn cyfeirio at Eisteddfod 1967 a’r Blew. Penderfynwyd enwi’r pafiliwn cerddoriaeth roc oedd newydd ei sefydlu yn ‘Maes B’
Dim ond yn 1997 fe wnaethpwyd rhaglen deledu dogfen am Y Blew ar S4C.
<ref>{{cite web |url=http://ybydysawd.com/2013/08/y-blew/|title=Y Blew |last= |first= |publisher=S4C |date=28 Awst 2013 |website= Y Bydysawd.com |accessdate=27 Gorffennaf 2014}}</ref> Yn cynnwys ffilmiau archif o berfformiad teledu’r band, cyfweliad gyda’r aelodau a rhai oedd yn eu cofio, ar ddiwedd y rhaglen mae’r aelodau’n ail-recordio ‘Maes B’ mewn stiwdio fodern.

Hefyd yn 1997 fe ddychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Bala, bu sawl erthygl cylchgrawn a radio yn cyfeirio at Eisteddfod 1967 a’r Blew. Penderfynwyd enwi’r pafiliwn cerddoriaeth roc oedd newydd ei sefydlu yn ‘Maes B’
'''Enwyd ar ôl Maes B'''
'''Enwyd ar ôl Maes B'''
* '''Maes B''' - Tri deg mlynedd ar ôl i'r Blew ymddangos yn Eisteddfod Y Bala, 1967, fe ddychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Bala ym 1997 ac fe enwyd y pafiliwn cerddoriaeth roc newydd yn 'Maes B'.
* '''Maes B''' - Tri deg mlynedd ar ôl i'r Blew ymddangos yn Eisteddfod Y Bala, 1967, fe ddychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Bala ym 1997 ac fe enwyd y pafiliwn cerddoriaeth roc newydd yn 'Maes B'.
* '''Maes E''' - Cân [[Datblygu]] a rhyddhawyd ym 1999. Y llythyren 'E' yn yr achos yma yw'r cyffur ecstasy, roedd ffasiwn ‘E’ wedi bod ar ei anterth yn y 1990au.
* '''Maes E''' - Cân [[Datblygu]] a rhyddhawyd ym 1999. Y llythyren 'E' yn yr achos yma yw'r cyffur ecstasy, roedd ffasiwn ‘E’ wedi bod ar ei anterth yn y 1990au.
* '''Maes D''' - Mae pafiliwn yr Eisteddfod i ddysgwyr Cymraeg bellach yn 'Maes D'
* '''Maes D''' - Pafiliwn yr Eisteddfod i ddysgwyr Cymraeg, bellach yw 'Maes D'
* '''MaesE.com''' - Yn 2002 fe sefydlodd Nic Dafis y fforwm trafod ar lein poblogaidd [http://maes-e.com/ Maes-E.com]
* '''MaesE.com''' - Yn 2002 fe sefydlodd Nic Dafis y fforwm drafod ar lein poblogaidd [http://maes-e.com/ Maes-E.com]
* '''Maes-T''' - Mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn galw eu gwefan termau yn [http://maes-t.com/ Maes-T.com]
* '''Maes-T''' - Mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn galw eu gwefan termau yn [http://maes-t.com/ Maes-T.com]


Llinell 120: Llinell 111:
* Mae’r gân ‘’Maes B’’ ar gael ar CD ‘’’Degawdau Roc (1967-82)’’ Recordiau Sain, 2004, SCD2376 [http://www.sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd-2376]
* Mae’r gân ‘’Maes B’’ ar gael ar CD ‘’’Degawdau Roc (1967-82)’’ Recordiau Sain, 2004, SCD2376 [http://www.sainwales.com/cy/store/sain/sain-scd-2376]


==Llyfryddiaeth==

''Llyfr Dafydd Evans'': ''Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor'' Cofant Dafydd Evans. Detholiad o ddyddiaduron plentyndod a chyfnod coleg Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, yn cynnws cyfnod 'Y Blew'. Gwasg Y Lolfa, ISBN: 0862436729 [http://www.ylolfa.com/cy/dangos.php?ISBN=0862436729]
'''Llyfr Dafydd Evans'''
* ''Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor'' Cofant Dafydd Evan. Detholiad cynnwys dyddiaduron plentyndod a chyfnod coleg Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, yn cynnws cyfnod 'Y Blew'. Gwasg Y Lolfa, ISBN: 0862436729 [http://www.ylolfa.com/cy/dangos.php?ISBN=0862436729]



* [http://centenary.llgc.org.uk/cy/XCM1967/book/2/1/3.html Eitemau o archif Y Blew, Llfyrgell Genedlaethol Cymru]
* [http://centenary.llgc.org.uk/cy/XCM1967/book/2/1/3.html Eitemau o archif Y Blew, Llfyrgell Genedlaethol Cymru]
Llinell 133: Llinell 122:
'''Hanes Y Blew, 1986''' {{cite book |last=Cymdeithas yr Iaith Gymraeg |first=Rhanbarth Clwyd |title=Hanes y Blew |date=1986 |ref=harv}}
'''Hanes Y Blew, 1986''' {{cite book |last=Cymdeithas yr Iaith Gymraeg |first=Rhanbarth Clwyd |title=Hanes y Blew |date=1986 |ref=harv}}
{{refend}}
{{refend}}


{{Eginyn Cerddoriaeth Cymru}}


{{DEFAULTSORT:Blew, Y}}
{{DEFAULTSORT:Blew, Y}}

Fersiwn yn ôl 16:48, 5 Medi 2014

Y Blew

Band roc Cymraeg arloesol, gynnar oedd Y Blew a ystyrir fel y grŵp roc trydanol cyntaf i ganu’n Gymraeg ac i rhyddhau record. Fe'i sefydlwyd ym Mhasg 1967, gan bedwar o fyfyrwyr Prifysgol Cymru, Aberystwyth a oedd wedi syrffedu ar ganu ysgafn, hen ffasiwn Cymraeg ac yn ymwybodol o’r angen i ddatblygu cerddoriaeth berthnasol i bobl ifanc: Maldwyn Pate, Dafydd Evans, Dave Williams a Geraint Evans.

Mae eisiau i bobol sgrechian mewn Cymraeg sâl - Y Blew [1]

Cynhalwyd gig arloesol yn neuadd Talybont ym Mhasg 1967. Er mwyn cael yr offer i ddatblygu ymhellach, bu'n rhaid i'r band benthyca swm sylweddol o arian.

Trefnwyd sawl taith lwyddianus yn fan y grŵp a elwid y Blewfan yn ystod ‘Summer of love’ 1967. Fe chwareodd Y Blew dros 50 o gigs mewn 8 mis gan gynnwys ymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala. Recordiwyd Maes B, eu hunig ddisg, yn ystod yr haf hwnnw.


Ffurfio’r Band

Y Blew - ffoto © Alcwyn Deiniol Evans

Yn 1960au roedd diwylliant Gymraeg yn dal dan ddylanwad traddodiad canu capel a nosweithiau llawen, heb adlewyrchu ffasiynau modern y genhedlaeth ifanc - a oedd yn dilyn y bwrlwm cyffroes y byd pop Eingl-Americanaidd. Yn dilyn sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg bu twf yn yr ymwybdiaeth o'r Gymraeg a dechreuodd cyfnod o brotestio dros wella statws a sefyllfa'r Gymraeg, a gwelwyd canu modern yn rhan o'r ymgyrch honno.

Roedd rhai'n credu fod moderneiddio'r diwylliant Cymraeg hwnnw'n annorfod, moderneiddio er mwyn bod yn berthnasol i’r genhedlaeth newydd - y tu hwnt i’r cefnogwyr traddodiadol.

Nod y Blew oedd cyrraedd y Cymry Cymraeg a Di-gymraeg nad oeddent yn genedlaetholwyr, dechrau 'Scene' Cymraeg ymysg y rhai hollol anwleidyddol oedd y gobaith. yn ôl Dafydd Evans un o’r sylfaenwyr Y Blew. [2]

Y Blew - wrth bont Dolgellau, ffoto © Alcwyn Deiniol Evans

Fe geisiodd Maldwyn Pate trefnu grŵp trydanol i ganu yn Gymraeg gyda chyd fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth. Enw'r band oedd ‘Y Pedwar Cainc’ - Dafydd Evans, Maldwyn Pate (aelodau’r Blew yn nes ymlaen) gyda Hefin Elis (aelod o Edward H. Dafis nes ymlaen) a Geraint Griffiths (aelod o Eliffant ac Injaroc nes ymlaen). Perfformiodd y band unwaith yn unig, yn Eisteddfod Aberafan 1966, ond nid oedd y gynulleidfa'n barod am gerddoriaeth roc yn Gyrmaeg am yn eu bwio. [3]

Y flwyddyn ganlynol fe ffurfiodd ‘’Y Blew’’ yn wreiddiol gyda Maldwyn Pate (llais), Dafydd Evans (gitâr fâs), Rick Lloyd (gitâr) a Geraint Evans (Drymiau). Ymunodd Dave Williams (Allweddellau) yn ddiweddarach.

Yn dilyn perfformiad llwyddiannus i fyfyrwyr Aberystwyth fe wahoddwyd gan Robert Griffiths, Y Lolfa, iddynt chwarae yn TalyBont oedd hefyd yn noson lwyddiannus.

Teithiau

Poster gig Y Blew, Talybont

Penderfynodd y band fynd ati o ddifrif i drefnu teithiau o gigs, fe drefnon nhw dair taith yn Ne Cymru: y cyntaf ym mis Mehefin, yr ail ym mis Gorffennaf a’r trydydd yn Awst-Medi. Ar y pryd nid oedd modd rhentu system sain am y noson a bu'n rhaid benthyg swm sylweddol o arian i brynu offer a fan.

Roedd trefniadau'r daith yn hollol broffesiynol: llogwyd byrddau hysbysebu enfawr a dosbarthwyd miloedd o daflenni yn cyhoeddi "Mae'r Blew yn dod". Mae rhai o'r memorobilia hyn i'w gweld yn yr arddangosfa newydd yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.[4] Bu’r nosweithiau’n llwyddiannus iawn, yn aml fe ddaeth holl bobl ifanc yr ardal i weld y ffenomenon yn eu pentref. Yn dilyn un gig fe ddarganfu’r band negeseuon mewn lipstic dros eu fan a ysgrifennwyd gan ferched oedd wedi bod yn y noson. [5]

Doedd dim amser cyfansoddi 25 o ganeuon newydd sbon ar gyfer y teitihau felly fe gyfieithwyd caneuon llwyddiannus cyfoes.

Roedden ni’n gwneud caneuon oddi ar Sargent Pepper a’u cyfieithu i Gymraeg.. roedden ni hyd yn oed yn canu San Fransisco gan Scott McKenzie yn Gymraeg, a caneuon Cream pethe felly, a rhai ein hunain hefyd, yn arbennig rhai oedd yn rhoi cyfle i Richard Lloyd chwarae gitar. Roedd e’n gitarydd eitha da, y steil ar y pryd oedd i sefyll reit lan at yr ampliffier er mwyn cael feedback - Dafydd Evans.

Cofir haf 1967 fel y Summer of Love gyda’r mudiad hipiaidd yn seiliedig ar ‘heddwch a chariad’ ar ei anterth. Roedd y cyfryngau poblogaidd yn llawn rhybuddion am bobl ifanc yn troi i ffwrdd o ddisgyblaeth y genhedlaeth hŷn wrth ymddiddori mewn cyffuriau ac agweddau mwy agored at ryw. Roedd y Beatles newydd ryddhau eu halbwm seicadelig Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band ac wedi aros ym Mangor ar gyfer penwythnos o fyfyrdod gyda Guru Indiaid.

Eisteddfod Bala, 1967

Ni fentrodd teithiau'r band i'r gogledd o Gorris, er i grwpiau pop a roc Saesneg eu hiaith chwarae'n gyson mewn nifer fawr o neuaddau, caffis a chlybiau trwy ogledd Cymru ar hyd y 1960au. Teimlodd Y Blew nad oedd y gogleddwyr yn barod am roc Cymraeg trydanol neu am newid yr arfer o nosweithiau llawen traddodiadol gyda cherddoriaeth acwstig gwerin fel Dafydd Iwan a Tony ac Aloma a grwpiau 'hogia' fel Hogia Llandegai a Hogia’r Wyddfa. Unig berfformiad Y Blew yn y gogledd oedd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Bala 1967. Roedd Maes yr Ŵyl wedi’i rhannu'n sawl rhan, Maes A, Maes B a Maes C ayb… gyda’r bobl ifanc yn gwersylla ar ‘Maes B’ ble perfformiodd y Blew gan ddod ag ysbryd a llawenydd y diwylliant newydd siecadelig. [6]

Diwedd y grŵp

Perfformiodd y band hyd at Nadolig 1967 ond fe roddwyd y gorau iddi cyn diwedd y flwyddyn ac fe wasgarodd yr aelodau; aeth y canwr Maldwyn Pate i fyw i Efrog Newydd lle gweithiodd fel coreograffydd. Aeth Richard Lloyd yn aelod o’r grwp y Flying Pickets a gyrhaeddod rhif un yn siartiau Prydain gyda ‘'Only You’’ dros Nadolig 1983. [7]

Ar ôl i’r Blew chwalu fe gymerodd hi 5 mlynedd i’r band roc trydanol nesaf i’w ffurfio: Brân ac yna Edward H. Dafis tua 1972-3.

Rwy’n credu ei fod e wedi cymered amser i’r geiniog syrthio. Roedd ‘ethos’ y Cymry Cymraeg - Perlau Taf, Y Pelydrau.. dyna fath o beth oedd yn mynd ar y pryd - Dafydd Evans mewn cyfweliad ym 1986. [8]

Y Sengl Maes B

Clawr sengl Maes B, Y Blew

Gwahoddwyd Y Blew i recordio sengl gyda Recordiau Cambrian a oedd yn arfer rhyddhau cerddoriaeth corau a chanu ysgafn ond roedd y band o'r farn nad oedd offer recordio un trac y cwmni'n addas. Fe benderfynon dderbyn cynnig cwmni Qualiton, Pontardawe, gan eu bod yn gallu cynnig stiwdio gyda mwy o draciau BBC Abertawe. [9]

Er i deitl y gân ddathlu dyfodiad siecadelia i Faes B yr Eisteddfod, nid yw geiriau'r gân yn cyfeirio at faes yr Eisteddfod. Mae geiriau'r gân yn adlewyrchu ffasiwn seicedelig 1967 gyda llinellau fel pam 'na nei di ddod 'da fi i weld y tylwyth teg a chael clywed cloc y dref yn taro tair ar ddeg. [10] Fe'i hsgrifennwyd y noson gynt, y dôn gan Dave Williams (Allweddellau) gydag ambell awgrym gan Maldwyn Pate. Y dylanwad mwyaf ar Dave Williams ar y pryd oedd sŵn Tamla Motown sydd i'w clywed yn glir ar y drymio.

Recordiwyd y cyfan, yn cynnwys yr ail ochr, mewn ychydig o oriau gan fod y band ar frys i gyrraedd Aberystwyth i chwarae dwy gig y noson honno (un yn Neuadd y Dref a'r llall yng Ngwesty'r Marine). Nid oedd y drymiwr wedi ei clywed Maes B, nes iddo gyrraedd y stiwdio. Ar y recordiad fe glywir Pate yn canu 'edrych ar y snos' yn lle 'nos', ond nid oedd amser i'w gywiro.

Fe hoffai'r band fod wedi cael sŵn trymach, mwy cyfoes, yn debycach i Cream a Hey Joe, Jimi Hendrix a oedd yn llwyddiant mawr ar y pryd, ond nid oedd yn bosib gydag offer elfennol stiwdio BBC Abertawe.

Credir i tua 2,000 o senglau cael eu gwasgu. Ni chafodd y gân fawr o chwarae ar y radio, prin oedd y Gymraeg i’w chlywed gyda’r gwasanaethau radio wedi'u lleoli yn Llundain ar yr adeg honno. Fe adolygwyd Maes B ar raglen panel yn trafod recordiau newydd eu rhyddhau ar BBC Radio 1 (fe lansiwyd Radio 1 yn fis Hydref 1967 mis cyn rhyddhau Maes B) ond roedd y panelwyr o dan yr argraff bod canu yn Gymraeg yn ddim ond rhyw fath o gimig gwerthu.

Meddai Dafydd Evans Fe wnaethon nhw werthu'n dda yn Ne Cymru; doedden ni ddim wedi perfformio yn y gogledd felly roedd y gwrthiant yn is. [11]

Clawr Spencer Davis

Ochr 2 – Beth Sy'n Dod Rhyngom Ni

Mae ail ochr y sengl yn fersiwn Y Blew o'r gân Curtis Mayfield You Must Believe Me. Roedd y Blew wedi clywed y gân ar ail record hir y grŵp Saesneg The Spencer Davis Group [12]. Fe recordiwyd yn wreiddiol gan Curtis Mayfield gyda'i grŵp The Impressions gan gyrhaeddodd rhif 15 yn siartiau Billboard yn yr Unol Dalaethiau ym 1964. Mae'n ymddangos ar record hir yr Impressions People Get Ready.

Mae'r Trwnyau Coch yn canu fersiwn o Beth Sy'n Dod Rhyngom Ni ar eu record hir Rhedeg Rhag y Torpidos (1980, SAIN-1186M).

Cyfeiriadau a theyrngedau i Maes B

Clawr ffansin Cymdeithas yr Iaith, 1986

Prin iawn bu’r sylw i’r Blew wedi 1967. Ym 1986, bron i ugain mlynedd ers ‘’Y Blew’’ fe gyhoeddwyd ‘’Hanes y Blew’’ gan Cymdeithas yr Iaith. Yn drawsgrifiad o gyfweliad gyda Dafydd Evans yn cynnwys lluniau a thoriadau papur archif.

Cymerwyd hyd at 1997 cyn recordio rhaglen deledu ddogfen am Y Blew ar S4C. [13] Roedd hon yn cynnwys ffilmiau archif o berfformiad teledu’r band, cyfweliad gyda’r aelodau a'r rhai a oedd yn eu cofio, ar ddiwedd y rhaglen mae’r aelodau’n ail-recordio ‘Maes B’ mewn stiwdio fodern.

Hefyd yn 1997 fe ddychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i’r Bala a bu sawl erthygl gylchgrawn a radio yn cyfeirio at Eisteddfod 1967 a’r Blew. Penderfynwyd enwi’r pafiliwn cerddoriaeth roc oedd newydd ei sefydlu yn ‘Maes B’

Enwyd ar ôl Maes B

  • Maes B - Tri deg mlynedd ar ôl i'r Blew ymddangos yn Eisteddfod Y Bala, 1967, fe ddychwelodd yr Eisteddfod Genedlaethol i'r Bala ym 1997 ac fe enwyd y pafiliwn cerddoriaeth roc newydd yn 'Maes B'.
  • Maes E - Cân Datblygu a rhyddhawyd ym 1999. Y llythyren 'E' yn yr achos yma yw'r cyffur ecstasy, roedd ffasiwn ‘E’ wedi bod ar ei anterth yn y 1990au.
  • Maes D - Pafiliwn yr Eisteddfod i ddysgwyr Cymraeg, bellach yw 'Maes D'
  • MaesE.com - Yn 2002 fe sefydlodd Nic Dafis y fforwm drafod ar lein poblogaidd Maes-E.com
  • Maes-T - Mae Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor yn galw eu gwefan termau yn Maes-T.com

Dolenni allanol

  • Maes B - Y Blew ar YouTube [1]
  • Beth sy'n dod rhyngom ni - Y Blew ar YouTube [2]
  • Maes-E - Datblygu ar YouTube [3]
  • You Must Believe Me - The Impressions ar YouTube [4]
  • Second Album - The Spencer Davis Group ar YouTube [5]
  • Mae’r gân ‘’Maes B’’ ar gael ar CD ‘’’Degawdau Roc (1967-82)’’ Recordiau Sain, 2004, SCD2376 [6]

Llyfryddiaeth

Llyfr Dafydd Evans: Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor Cofant Dafydd Evans. Detholiad o ddyddiaduron plentyndod a chyfnod coleg Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, yn cynnws cyfnod 'Y Blew'. Gwasg Y Lolfa, ISBN: 0862436729 [7]

Ffynhonnellau

  1. Hanes y Blew 1986, t. 2
  2. Hanes y Blew 1986, t. 14
  3. Hanes y Blew 1986, t. 4
  4. Gwean y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 5 Awst 2014
  5. Hanes y Blew 1986, t. 4
  6. Hanes y Blew 1986, t. 8
  7. Hanes y Blew 1986, t. 14
  8. Hanes y Blew 1986, t. 14
  9. Hanes y Blew 1986, t. 12
  10. Hanes y Blew 1986, t. 8
  11. Hanes y Blew 1986, t. 13
  12. http://en.wikipedia.org/wiki/The_Spencer_Davis_Group_discography
  13. "Y Blew". Y Bydysawd.com. S4C. 28 Awst 2013. Cyrchwyd 27 Gorffennaf 2014.

Hanes Y Blew, 1986 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Clwyd (1986). Hanes y Blew.CS1 maint: ref=harv (link)