Sinn Féin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Llinell 33: Llinell 33:


[[Categori:Hanes Iwerddon]]
[[Categori:Hanes Iwerddon]]
[[Categori:Pleidiau gwleidyddol]]


[[af:Sinn Féin]]
[[af:Sinn Féin]]

Fersiwn yn ôl 12:56, 19 Mehefin 2007

Arthur Griffith
Gerry Adams

Mae Sinn Féin yn enw sydd wedi ei ddefnyddio gan nifer o bleidiau cenedlaethol Gwyddelig, bob un yn hawlio bod yn olynydd i'r blaid wreiddiol a ffurfiwyd gan Arthur Griffith yn 1905. Mae'r enw'n golygu "Ni'n hunain" mewn Gwyddeleg.

Daeth llwyddiant etholiadol i'r blaid yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn 1916. Pan ryddhawyd y rhai oedd yn weddill o arweinwyr y gwrthryfel yn 1917, daethant yn amlwg yn Sinn Féin, gyda Éamon de Valera yn cymeryd lle Griffith fel arweinydd.

Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918, enillodd Sinn Féin 73 o'r 106 sedd yn Iwerddon, gan gymeryd lle'r Blaid Seneddol Wyddelig fel arweinwyr y mudiad cenedlaethol. Yn unol a pholisi'r blaid, gwrthododd yr aelodau gymeryd eu seddau yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn hytrach, ar 21 Ionawr 1919, cyfarfu 30 o aelodau seneddol Sinn Féin (roedd y rhan fwyaf o'r gweddill wedi eu carcharu) yn Nulyn a chyhoeddi eu hunain yn senedd Iwerddon - Dáil Éireann. Arweiniodd hyn at ryfel annibyniaeth Iwerddon a sefydlu gwladwriaeth annibynnol Iwerddon.

Yn y cyfnod modern, mae'r enw'n cyfeirio fel rheol at y blaid a grewyd yn 1970 o ganlyniad i hollt yn y mudiad gweriniaethol yn Iwerddon. Yr arweinydd presennol yw Gerry Adams. Sinn Féin yw'r fwyaf o'r pleidiau cenedlaethol yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, gyda 28 sedd allan o 108. Mae gan y blaid 5 sedd yn Nhy'r Cyffredin, ond ei pholisi, fel polisi Sinn Féin gwreiddiol Arthur Griffith, yw i'r aelodau wrthod cymeryd eu seddau. Yn etholiad 2007 yng Ngweriniaeth Iwerddon, enillodd Sinn Féin 4 sedd allan o 166 yn Dáil Éireann, gostyngiad o un sedd.


Arweinwyr

Yn 1923, ffurfiodd rhan sylweddol o'r aelodaeth Cumann na nGaedheal
Yn 1926, ymddiswyddodd de Valera o Sinn Féin a sefydlu plaid Fianna Fáil
Yn 1970, ymrannodd yn ddwy blaid, y ddawy'n hawlio mai hwy oedd y gwir Sinn Féin
Yn 1986, gadawodd Ó Brádaigh a sefydlodd Sinn Féin Gweriniaethol.