Siôn Cwilt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 10: Llinell 10:
Lloyd ym mhlas Ffynnon Bedr. Beth bynnag yn ol yr hanes roedd y smygler yn
Lloyd ym mhlas Ffynnon Bedr. Beth bynnag yn ol yr hanes roedd y smygler yn
gwisgo dillad go rhacsiog, ac yn clytio'r tyllau a darnau o frethyn o bob
gwisgo dillad go rhacsiog, ac yn clytio'r tyllau a darnau o frethyn o bob
lliw. Ac yn fuan aethpwyd i'w alw gan y trigolion lleol yn Sion Cwilt. Ond
lliw. Ac yn fuan aethpwyd i'w alw gan y trigolion lleol yn Sion Cwilt. Mae yna cofnod (Plwyf Llanina) o fab 'John Qwilt' yn cael ei bedyddio yn 1758. Ond
cyn bo hir daeth yr awdurdodau i wybod am weithredoedd yr hen smyglar a bu
cyn bo hir daeth yr awdurdodau i wybod am weithredoedd yr hen smyglar a bu
raid iddo ddianc o'r Bane rhag ofn iddo gael ei garcharu. Fe wnaeth hynny
raid iddo ddianc o'r Bane rhag ofn iddo gael ei garcharu. Fe wnaeth hynny

Fersiwn yn ôl 08:52, 1 Medi 2014

Bywgraffiad

Tua chanol y ddeunawfed ganrif daeth dyn o'r enw John White i fyw mewn bwthyn bach o'r enw Sarnau Gwynion - rhwng Rhydeinon a'r Bannau Duon ym mhlwyf Llanarth. Smyglwr oedd y gwr hwn, ac arferai sleifio gyda'i fulod dros y Bane i Gwmtydu i gyfarfod a'r llongau a arferai ddod yno bob hyn a hyn a'u llwythi anghyfreithiol. Roedd John White wedyn yn gwerthu'r nwyddau yma o amgylch, yn cynnwys gwin i Syr Herbert Lloyd ym mhlas Ffynnon Bedr. Beth bynnag yn ol yr hanes roedd y smygler yn gwisgo dillad go rhacsiog, ac yn clytio'r tyllau a darnau o frethyn o bob lliw. Ac yn fuan aethpwyd i'w alw gan y trigolion lleol yn Sion Cwilt. Mae yna cofnod (Plwyf Llanina) o fab 'John Qwilt' yn cael ei bedyddio yn 1758. Ond cyn bo hir daeth yr awdurdodau i wybod am weithredoedd yr hen smyglar a bu raid iddo ddianc o'r Bane rhag ofn iddo gael ei garcharu. Fe wnaeth hynny un bore gan adael llond bwthyn o boteli gwin ar ei ol. Felly o ganlyniad i hyn oll, newidiwyd Bane Cwm Einion yn Fane Sion Cwilt. A dyna'r enw hyd heddiw ar y cnwcyn cul sy'n rhedeg ar draws gwlad i'r gogledd o bentrefi Llanarth a Synod - o Groesffordd Rhydeinon i Groesffordd Mownt.