Siôn Cwilt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Bywgraffiad== Tua chanol y ddeunawfed ganrif daeth dyn o'r enw John White i fyw mewn bwthyn bach o'r enw Sarnau Gwynion - rhwng Rhydeinon a'r Ban-nau...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:30, 1 Medi 2014

Bywgraffiad

Tua chanol y ddeunawfed ganrif daeth dyn o'r enw John White i fyw mewn bwthyn bach o'r enw Sarnau Gwynion - rhwng Rhydeinon a'r Ban-nau Duon ym mhlwyf Llanarth. Smyglwr oedd y gwr hwn, ac arferai sleifio gyda'i fulod dros y Bane i Gwmtydu i gyfarfod a'r llongau a arferai ddod yno bob hyn a hyn a'u llwythi anghyfreithiol. Roedd John White wedyn yn gwerthu'r nwyddau yma o amgylch, yn cynnwys gwin i Syr Herbert Lloyd ym mhlas Ffynnon Bedr. Beth bynnag yn ol yr hanes roedd y smygler yn gwisgo dillad go rhacsiog, ac yn clytio'r tyllau a darnau o frethyn o bob lliw. Ac yn fuan aethpwyd i'w alw gan y trigolion lleol yn Sion Cwilt. Ond cyn bo hir daeth yr awdurdodau i wybod am weithredoedd yr hen smyglar a bu raid iddo ddianc o'r Bane rhag ofn iddo gael ei garcharu. Fe wnaeth hynny un bore gan adael llond bwthyn o boteli gwin ar ei ol. Felly o ganlyniad i hyn oll, newidiwyd Bane Cwm Einion yn Fane Sion Cwilt. A dyna'r enw hyd heddiw ar y cnwcyn cul sy'n rhedeg ar draws gwlad i'r gogledd o bentrefi Llanarth a Synod - o Groesffordd Rhydeinon i Groesffordd Mownt.