Mynydd Preseli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 3 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q638763 (translate me)
Llinell 21: Llinell 21:
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/hanes/pages/bro_preseli2.shtml BBC Adnabod Ardal Preseli 2]
* [http://www.bbc.co.uk/cymru/deorllewin/hanes/pages/bro_preseli2.shtml BBC Adnabod Ardal Preseli 2]


[[Categori:Amgylchedd Sir Benfro]]
[[Categori:Archaeoleg Cymru]]
[[Categori:Archaeoleg Cymru]]
[[Categori:Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru]]
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Sir Benfro]]
[[Categori:Mynyddoedd a bryniau Sir Benfro]]

Fersiwn yn ôl 00:58, 1 Medi 2014

Prif grib Mynydd Preseli. Mae'r garreg fawr ar y chwith yn gofeb i'r bardd Waldo Williams.
Carn Edward a Cerrig Lladron, Preseli

Mynyddoedd yng ngogledd Sir Benfro yn ne-orllewin Cymru yw Mynydd Preseli, hefyd Mynydd Preselau, Y Preseli neu Y Preselau. Maent yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac yn ymestyn o gyffiniau Abergwaun yn y gorllewin hyd ar ardal Crymych yn y dwyrain.

Y copa uchaf yw Foel Cwmcerwyn (536 medr). Copaon eraill yw Carn Ingli, Foel Eryr, Foel Feddau, Frenni Fach, Frenni Fawr a Foel Drygarn. Ceir nifer fawr o olion o gyfnodau cynhanesyddol yn y Preselau; y mwyaf adnabyddus efallai yw cromlech Pentre Ifan. Ceir nifer fawr o olion o Oes yr Efydd o gwmpas Carn Ingli, a chredir fod yr ardal hon wedi bod o bwysigrwydd arbennig yn y cyfnod hwnnw. Credir bod y meini glesion sy'n ffurfio rhan o adeiladwaith Côr y Cewri wedi dod o ardal Carn Menyn (neu Carn Meini) yma. Ceir hefyd garneddi o Oes yr Efydd a bryngaerau o Oes yr Haearn, er enghraifft ar Foel Drygarn a Charn Ingli.

Ceir cyferiad at y Preselau yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle mae'r Twrch Trwyth yn glanio ym Mhorth Clais ar ôl anrheithio Iwerddon, ac yna'n mynd i Preselau, gan ladd pedwar o wŷr Arthur yng Nghwm Cerwyn. Lleolir llawer o ddigwyddiadau Pwyll Pendefig Dyfed yn y Preselau hefyd, er enghraifft ar ddechrau'r hanes, mae Pwyll yn hela yng Nglyn Cuch.

Arferai'r diwydiant llechi fod yn bwysig yma, er nad oes yr un o'r chwareli yn parhau ar agor erbyn hyn.

Magwyd y bardd Waldo Williams yn yr ardal, ac mae 'Preseli' yn un o'i gerddi enwocaf, sy'n dechrau gyda'r cwpled cyfarwydd:

Mur fy mebyd, Foel Drigarn, Carn Gyfrwy, Tal Mynydd,
Wrth fy nghefn ymhob annibyniaeth barn.[1]

Cyfeiriadau

  1. Waldo Williams, Dail Pren (argraffiad newydd, Gwasg Gomer, 1991), tud. 29.

Dolenni allanol