Afon Elwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:
[[Categori:Afonydd Conwy|Elwy]]
[[Categori:Afonydd Conwy|Elwy]]
[[Categori:Afonydd Sir Ddinbych|Elwy]]
[[Categori:Afonydd Sir Ddinbych|Elwy]]
[[Categori:Llanelwy]]
[[Categori:Llangernyw]]

Fersiwn yn ôl 23:49, 27 Gorffennaf 2014

Afon Elwy yn llifo dan bont Llanfair Talhaearn.
Afon Elwy yn llifo dan yr hen bont yn Llangernyw

Afon yng ngogledd Cymru sy'n aberu yn Afon Clwyd yw Afon Elwy. Mae'n gorwedd ym mwrdeistref sirol Conwy yn bennaf.

Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref Llanrwst. Fodd bynnag dim ond o bentref Llangernyw ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn ymyl Llangernyw mae tair afonig, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn ymuno i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref Llanfair Talhaiarn ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae Afon Aled, sy'n tarddu o Lyn Aled yn ymuno â hi.

Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy Lanelwy. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a Rhuddlan, ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.

Mae nifer o ogofeydd yn rhan isaf dyffryn Elwy o ddiddordeb archaeolegol mawr, gan eu bod yn cynnwys olion o'r Palaeolithig a chyfnodau mwy diweddar. Ystyrir y rhain yn un o'r grwpiau o ogofeydd pwysicaf ym Mhrydain. Darganfuwyd olion dyn Neanderthal mewn ogof ym Mhont-newydd.

Gweler hefyd