Saith Seren, Wrecsam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 23: Llinell 23:
* [http://www.saithseren.org.uk/ Gwefan arall ar gyfer digwyddiadau]
* [http://www.saithseren.org.uk/ Gwefan arall ar gyfer digwyddiadau]


[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith yn Wrecsam]]
[[Categori:Adeiladau rhestredig Gradd II Wrecsam]]
[[Categori:Adeiladau rhestredig Gradd II Wrecsam]]
[[Categori:Sefydliadau 2012]]
[[Categori:Sefydliadau 2012]]

Fersiwn yn ôl 18:10, 23 Mehefin 2014

Canolfan Gymraeg a Chymreig aml-bwrpas a menter gydweithredol yn Wrecsam ydy Saith Seren.[1][2] Mae'r ganolfan wedi ei lleoli yn hen adeilad tafarn The Seven Stars yn Stryd Caer yn y dref.[3]

Hanes

Dechreuwyd ymgyrch yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011 i godi arian ar gyfer Canolfan Gymraeg i'r dre.[4] Gwerthwyd cyfrandaliadau er mwyn sichrau prydles 21 mlynedd ar yr adeilad ac am waith adnewyddu, ac fe gyrhaeddwyd y nôd erbyn diwedd mis Rhagfyr y flwyddyn honno.

Agorwyd Canolfan Gymraeg Y Saith Seren ar 25 Ionawr 2012 gyda chyfleusterau bar a chegin ar gyfer paratoi bwyd.

Cyfleusterau

Cynhelir sesiynau sgwrs ar gyfer dysgwyr, cyfarfodydd ac adloniant, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn rheolaidd, a chynhelir dosbarthiadau Cymraeg cyn gynted a bydd ystafelloedd dosbarth yn barod.

Hanes yr adeilad

Adeiladwyd tafarn The Seven Stars yn 1898 i gynlluniau Thomas Price, Lerpwl. Mae'n ddull masnachol gwahanredol sy'n defnyddio elfennau o bensaernïaeth Celf a Chrefft.[5] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1.  Canolfan Gymreig: Ymateb 'anhygoel'. BBC Cymru (21 Medi 2011).
  2.  Agor Saith Seren. Y Cymro (28 Ionawr 2012).
  3.  Wrexham Pub To Become Welsh Cultural Centre. www.wrexham.com (24 Medi 2011).(Saesneg)
  4.  Siôn Tecwyn (27 Ionawr 2012). Agor canolfan Gymraeg newydd Wrecsam. BBC Cymru.
  5. Tafarn The Seven Stars, Stryt yr Lampint, Wrecsam o wefan Cyngor Sir Wrecsam

Dolenni allanol