India: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
prif weinidog |
→Unedau gweinyddol: cywiro |
||
Llinell 118: | Llinell 118: | ||
== Unedau gweinyddol == |
== Unedau gweinyddol == |
||
[[Delwedd:India ter1.jpg|300px|bawd|de|Rhanbarthau India]] |
[[Delwedd:India ter1.jpg|300px|bawd|de|Rhanbarthau India]] |
||
Rhennir India yn 29 talaith a |
Rhennir India yn 29 talaith a saith tiriogaeth undebol a reolir gan y llywodraeth ffederal. Mae gan bob talaith, ynghyd â thiriogaethau undebol [[Delhi]] a [[Pondicherry]], eu llywodraethau etholedig eu hunain. Mae'r pum tiriogaeth undebol eraill yn cael eu rheoli gan weinyddwyr a apwyntir gan y llywodraeth ganolog. Yn ogystal, rhennir pob talaith a thiriogaeth undebol yn rhanbarthau (''District''). Weithiau, yn achos taleithiau mawr, unir rhai rhanbarthau i ffurfio ''division''. Rhennir pob rhanbarth yn ei thro yn sawl [[Tehsil]]. |
||
{{Taleithiau a thiriogaethau India}} |
{{Taleithiau a thiriogaethau India}} |
Fersiwn yn ôl 19:17, 4 Mehefin 2014
Gwlad yn Ne Asia yw Gweriniaeth yr India neu India. Mae hi'n ffinio â Phacistan i'r gorllewin (gan gynnwys rhanbarth Kashmir), Tibet (Tsieina), Nepal a Bhwtan i'r gogledd, a Bangladesh a Myanmar i'r dwyrain. Mae ynys Sri Lanka yn gorwedd dros y dŵr o Damil Nadu, penrhyn deheuol India. Er bod poblogaeth Tsieina'n fwy, yr India yw gwlad ddemocrataidd fwya'r byd. Mae mwy na biliwn o bobl yn byw yn y wlad a mae'n nhw'n siarad mwy nag 800 o ieithoedd. Delhi Newydd yw prifddinas y wlad.
Daearyddiaeth
Mae India yn wlad anferth sy'n ymestyn o'r Himalaya yn y gogledd i draethau trofannol Cefnfor India yn y de. Yn y gorllewin mae taleithiau Rajasthan a Gujarat yn anial iawn tra bod y taleithiau dwyreiniol a'r de eithaf yn nhiriogaethau is-drofannol. Mae gan y wlad arfordir hir iawn ar Fôr Arabia yn y gorllewin, Cefnfor India yn y de a Bae Bengal yn y dwyrain.
Hanes
- Prif erthygl Hanes India
Mae hanes India yn dechrau gyda dechreuad sefydliadau parhaol tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn yr ardal o amgylch Afon Indus, datblygodd rhain i greu Gwareiddiad Dyffryn Indus tua 3300 CC.; un o'r gwareiddiadau cynharaf yn hanes dynoliaeth. Dilynwyd y cyfnod yma gan y Cyfnod Fedig, pan osodwyd seiliau crefydd Hindwaeth. O tua 550 CC. sefydlwyd nifer o deyrnasoedd a elwid y Mahajanapadas ar draws y wlad.
Yn y 3edd ganrif CC, roedd India a rhannau eraill o dde Asia yn rhan o Ymerodraeth Maurya dan Ashoka Fawr. O tua 180 CC bu nifer o ymosodiadau ac ymfudiadau o'r gogledd. O'r 3edd ganrif OC sefydlwyd Ymerodraeth y Gupta.
O'r 12fed ganrif ymlaen, daeth gogledd India gan ddylanwad rheolwyr Islamaidd, yn wreiddiol o Ganolbarth Asia; yn gyntaf Swltaniaeth Delhi, ac yn ddiweddarach Ymerodraeth y Mughal. Yn ne India, roedd nifer o deyrnasoedd brodorol, megis Ymerodraeth Vijayanagara. Ganychodd pwer y Mughal yn y 17ed a'r 18fed ganrif, a daeth Ymerodraeth Maratha yn bwerus. Yn ystod y 18fed ganrif, dechreuodd nifer o wledydd Ewropeaidd sefydlu tiriogaethau, ac erbyn 1856, roedd y rhan fwyaf o India yng ngafael y British East India Company.
Y flwyddyn wedyn bu gwrthryfel ar raddfa fawr, Gwrthryfel India 1857. Cafodd y gwrthryfelwyr gryn lwyddiant at y cychwyn, ond yn y diwedd gorchfygwyd hwy gan y fyddin Brydeinig. Daeth India'n rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig.
Dechreuodd mudiad cenedlaethol ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, ac yn y 1920au a'r 1930au bu cyfres o brotestiadau di-drais dan arweniad Mahatma Gandhi. Ar 15 Awst 1947, daeth India yn wlad annibynnol, ond daeth rhan o'i thiriogaeth yn wlad Pacistan. Dair blynedd yn ddiweddarach, ar 26 Ionawr 1950, daeth India yn weriniaeth.
Ers hynny, bu rhyfel a China yn 1962 ynghylch y ffîn yn y gogledd-ddwyrain, a bu tri rhyfel yn erbyn Pacistan, yn 1947, 1965 a 1971. Yn 1974, arbiorfodd India fom atomig, gydag arbrofion pellach yn 1998. Ers newidiadau economaidd yn 1991, mae economi India wedi tyfu'n gyflym, ac o ganlyniad mae dylanwad rhyngwladol y wlad wedi cynyddu.
Iaith a diwylliant
Mae mwy nag 800 o ieithoedd yn cael eu siarad yn India (gweler Rhestr o ieithoedd India), rhai ohonynt gyda rhai cannoedd o filynau o siaradwyr ac eraill gyda llai na 100. Mae'r ieithoedd mwyaf yn cynnwys Hindi (337 miliwn / 40.0%), Bengaleg (69 miliwn / 8.30%), Telugu (69 miliwn / 7.87%), Marathi (68 miliwn / 7.45%), Tamileg (66 miliwn / 6.32%), Wrdw (60 miliwn / 5.18%), Gujarati (46 miliwn / 4.85%), Kannada (35 miliwn / 3.91%), Malayalam (35 miliwn / 3.62%), Oriya (32 miliwn / 3.35%) a Punjabi (23 miliwn / 2.79%). Mae gan India sawl llenyddiaeth felly. Mae'n gartref yn ogystal i lenyddiaeth Sanscrit, un o'r hynaf yn y byd.
Hindŵaeth yw prif grefydd y wlad, ond ceir yn ogystal lleiafrifoedd sylweddol o ddilynwyr Siciaeth, Jainiaeth ac Islam. Mewn rhai taleithiau, yn arbennig yn Goa a'r Gogledd-ddwyrain (e.e. Khasia), ceir canran sylweddol o Gristnogion. India yw mamwlad Bwdhiaeth ond ni cheir llawer o Fwdyddion yno heddiw, ac eithrio yn Ladakh a Zanskar, a'r ffoaduriaid o Dibet mewn rhannau eraill o'r Himalaya Indiaid.
Llywodraeth
Mae India'n wlad ddemocrataidd a reolir gan Senedd India. Rhennir y senedd yn ddau siambr, sef y Lok Sabha etholedig sy'n cynrychioli'r bobl yn uniongyrchol (fel Tŷ'r Cyffredin) a'r Rajya Sabha sy'n cynrychioli'r taleithiau. Mae'r blaid gyda'r mwyafrif o seddau yn y Lok Sabha yn ffurfio'r llywodraeth ac yn dewis prif weinidog. Mae gan India arlywydd yn ogystal. (Am lywodraeth y taleithiau a'r rhanbarthau, gweler isod).
Dinasoedd
Rhif | Dinas | Talaith | Poblogaeth | Rhif | Dinas | Talaith | Poblogaeth | |||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Mumbai | Maharashtra | 13,662,885 | 11 | Jaipur | Rajasthan | 2,997,114 | |||
2 | Delhi | Delhi | 11,954,217 | 12 | Lucknow | Uttar Pradesh | 2,621,063 | |||
3 | Bangalore | Karnataka | 5,180,533 | 13 | Nagpur | Maharashtra | 2,359,331 | |||
4 | Kolkata | Gorllewin Bengal | 5,021,458 | 14 | Indore | Madhya Pradesh | 1,768,303 | |||
5 | Chennai | Tamil Nadu | 4,562,843 | 15 | Patna | Bihar | 1,753,543 | |||
6 | Hyderabad | Andhra Pradesh | 3,980,938 | 16 | Bhopal | Madhya Pradesh | 1,712,355 | |||
7 | Ahmedabad | Gujarat | 3,867,336 | 17 | Thane | Maharashtra | 1,673,465 | |||
8 | Pune | Maharashtra | 3,230,322 | 18 | Ludhiana | Punjab | 1,662,325 | |||
9 | Surat | Gujarat | 3,124,249 | 19 | Agra | Uttar Pradesh | 1,590,073 | |||
10 | Kanpur | Uttar Pradesh | 3,067,663 | 20 | Vadodara | Gujarat | 1,487,956 | |||
amcangyfrif 2008 [1] |
Unedau gweinyddol
Rhennir India yn 29 talaith a saith tiriogaeth undebol a reolir gan y llywodraeth ffederal. Mae gan bob talaith, ynghyd â thiriogaethau undebol Delhi a Pondicherry, eu llywodraethau etholedig eu hunain. Mae'r pum tiriogaeth undebol eraill yn cael eu rheoli gan weinyddwyr a apwyntir gan y llywodraeth ganolog. Yn ogystal, rhennir pob talaith a thiriogaeth undebol yn rhanbarthau (District). Weithiau, yn achos taleithiau mawr, unir rhai rhanbarthau i ffurfio division. Rhennir pob rhanbarth yn ei thro yn sawl Tehsil.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Dolenni allanol
- Porth gwe swyddogol Llywodraeth India
- Cyfeiriadur Llywodraeth India - gwefannau swyddogol pob talaith a thiriogaeth
- Delweddau o India
- Encyclopædia Britannica, India
- BBC - Proffeil gwlad ar India
- Gwybodlenni am India
|
Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol