Gemau'r Gymanwlad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Cystadleuaeth aml-chwaraeon i athletwyr y [[Gymanwlad]] ydi '''Gemau'r Gymanwlad''' (a elwid cynt yn ''Gemau Ymerodraeth Prydain'' (1930-1950), ''Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad'' (1954-1966) ac yn ''Gemau'r Gymanwlad Brydeinig'' (1970-1974)<ref>{{cite web |url=http://www.thecgf.com/games/story.asp |title=The Story of the Commonwealth Games |published= thecgf.com}}</ref>). Cynhaliwyd y Gemau cyntaf yn [[Hamilton]], [[Ontario]], [[Canada]] ym [[Gemau Ymerodraeth Prydain 1930|1930]] a phob pedair blynedd ers hynny (heb law am 1942 a 1946 pan ohiriwyd y Gemau oherwydd yr [[Ail Ryfel Byd]]). Caiff y Gemau eu disgrifio fel y trydydd cystadleuaeth aml-chwaraeon fwyaf y byd ar ôl y [[Gemau Olympaidd]] a [[Gemau Asia]].
Cystadleuaeth aml-chwaraeon i athletwyr y [[Gymanwlad]] ydi '''Gemau'r Gymanwlad''' (a elwid yn '''''Gemau Ymerodraeth Prydain''''' (1930-1950), '''''Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad''''' (1954-1966) ac yn '''''Gemau'r Gymanwlad Brydeinig''''' (1970-1974)<ref>{{cite web |url=http://www.thecgf.com/games/story.asp |title=The Story of the Commonwealth Games |published= thecgf.com}}</ref>). Cynhaliwyd y Gemau cyntaf yn [[Hamilton]], [[Ontario]], [[Canada]] ym [[Gemau Ymerodraeth Prydain 1930|1930]] a phob pedair blynedd ers hynny (heb law am 1942 a 1946 pan ohiriwyd y Gemau oherwydd yr [[Ail Ryfel Byd]]). Caiff y Gemau eu disgrifio fel y trydydd cystadleuaeth aml-chwaraeon fwyaf y byd ar ôl y [[Gemau Olympaidd]] a [[Gemau Asia]].


[[Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad]] sy'n gyfrifol am drefniadau'r Gemau ac mae 18 dinas mewn saith gwlad wedi cynnal y Gemau.
[[Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad]] sy'n gyfrifol am drefniadau'r Gemau ac mae 18 dinas mewn saith gwlad wedi cynnal y Gemau.

Fersiwn yn ôl 20:45, 1 Mehefin 2014

Cystadleuaeth aml-chwaraeon i athletwyr y Gymanwlad ydi Gemau'r Gymanwlad (a elwid yn Gemau Ymerodraeth Prydain (1930-1950), Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad (1954-1966) ac yn Gemau'r Gymanwlad Brydeinig (1970-1974)[1]). Cynhaliwyd y Gemau cyntaf yn Hamilton, Ontario, Canada ym 1930 a phob pedair blynedd ers hynny (heb law am 1942 a 1946 pan ohiriwyd y Gemau oherwydd yr Ail Ryfel Byd). Caiff y Gemau eu disgrifio fel y trydydd cystadleuaeth aml-chwaraeon fwyaf y byd ar ôl y Gemau Olympaidd a Gemau Asia.

Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad sy'n gyfrifol am drefniadau'r Gemau ac mae 18 dinas mewn saith gwlad wedi cynnal y Gemau.

Yn ogystal a nifer o chwaraeon Olympaidd, mae'r gemau'n cynnwys chwaraeon sy'n fwy poblogaidd yng Ngwledydd y Gymanwlad, fel bowlio lawnt, pêl-rwyd a rygbi saith bob ochr.

Er mai dim ond 53 o wledydd sydd yn aelodau o'r Gymanwlad, mae 71 tîm yn cymryd rhan yn y gemau. Mae'r pedwar gwlad Y Deyrnas Unedig; Cymru, Gogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban yn cystadlu fel gweldydd arwhân gyda Thiriogaethau tramor y Deyrnas_Unedig a Thiriogaethau sy'n ddibynnol ar Goron y Deurnas Unedig hefyd yn gyrru timau.

Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynychu pob un o Gemau'r Gymanwlad: Awstralia, Canada, Cymru, Lloegr, Seland Newydd a'r Alban.

Gwreiddiau

Cynigwyd y syniad o'r cystadlaethau hyn gan Ymerodraeth Prydain yn gyntaf gan y Parchedig Astley Cooper yn 1891 pan ysgrifennodd erthygl yn The Times yn awgrymu y dylid cynnal cystadleuaeth "Pan-Britannic-Pan-Anglican Contest and Festival pob pedair blynedd er mwyn gwella dealltwriaeth a chyfeillgarwch yr Ymerodraeth Brydeinig.

Yn ystod Gwyl yr Ymerodraeth i ddathlu coroni Brenin Siôr V ym 1911, trefnwyd cyfarfod chwaraeon rhyngwladol gyda athletwyr o Awstralia, Canada, De Affrica a Phrydain yn cystadlu am dlws Yr Arglwydd Lonsdale mewn pum camp; athletau, bocsio, nofio a reslo.

Yna yn dilyn cyfarfod ymysg athletwyr a swyddogion gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig yn ystod Gemau Olympaidd 1928 yn Amsterdam penderfynwyd atgyfodi'r Gemau gyda Canada, fel y wlad fuddugol ym 1911 y cael y fraint o gynnal y Gemau agoriadol.

Yn ogystal â'r tîm cartref, cafwyd timau o'r Alban, Awstralia, Bermuda, Cymru, De Affrica, Guyana Brydeinig, Iwerddon, Lloegr, Newfoundland a Seland Newydd.

Cynhaliwyd y Gemau Paraplegig y Gymanwlad am y tro cyntaf ym 1962 a chafodd athletwyr anabl eu cynnwys yng Ngemau'r Gymanwlad 1994 yn Victoria, Canada mewn campau arddangos cyn cael eu cynnwys fel rhan anatod o'r cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 ym Manceinion, Lloegr.

Boicotiau

Er diarddel De Affrica o'r Gymanwlad ym 1961 oherwydd system apartheid y wlad, gwrthododd 26 o wledydd Affrica rhag cymryd rhan yng Ngemau Olympaidd Montreal ym 1976 wedi i dîm rygbi Seland Newydd fynd ar daith i Dde Affrica. Parhaodd Nigeria eu boicot gan wrthod mynychu Gemau'r Gymanwlad 1978 yn Edmonton, Canada.

Ym 1986, gwelwyd 32 o wledydd Affrica a'r Caribi yn boicotio Gemau'r Gymanwlad 1986 yng Nghaerdin, Yr Alban wedi i Brif Weinidog Y Deurnas Unedig, Margaret Thatcher, wrthod condemnio cysylltiadau chwaraeon gyda De Affrica[2]

Cenhedloedd a Thiriogaethau

Dim ond chwe gwlad sydd wedi mynychu pob un o'r Gemau; Awstralia, Canada, Cymru, Lloegr, Seland Newydd a'r Alban.

Cenhedloedd a Thiriogaethau sydd wedi cystadlu


Nodiadau:

1: Gadawodd Aden a ailenwid yn De Arabia y Gymanwlad yn 1968.
2: Cafodd Yr Arfordir Aur ei ail enwi yn Ghana ym 1962
3: Cafodd Honduras Prydeinig ei ail enwi yn Belize yn 1973.
4: Cafodd Ceylon ei ail eniw yn Sri Lanka yn 1972.
5: Creodd De Rhodesia a Gogledd Rhodesia ffederasiwn gyda Nyasaland yn 1953 fel Rhodesia a Nyasaland, parhaodd hyn tan 1963.
6: Ymunodd Malaya, North Borneo, Sarawak a Singapore i greu ffederasiwn Malaysia yn 1963. Gadawodd Singapore y ffederasiwn yn 1965.
Gadawodd y gymanwlad pan roddwyn nôl i Tseina yn 1997.
7: Ym 1930 cafwydd tîm o Ynys Iwerddon ac ym 1934 cafywd tîm oedd yn cynrychioli Iwerddon Rydd a Gogledd Iwerddon. Gadawodd Gweriniaeth Iwerddon y Gymanwlad yn 1949.
8: Cafodd Guyana Brydeinig ei ail enwi yn Guyana ym 1966.
9: Gadawodd y Gymanwlad ar ôl ail ymuno â China ym 1997.
10: Cystadlodd Malawi, Zambia a Zimbabwe fel rhan o Rhodesia and Nyasaland rhwng 1958-1962.
11: Ymunodd â Chanada yn 1949.
12: Ymunodd Zanzibar a Tanganyika i greu ffederasiwn Tanzania yn 1964.
13: Gadawodd Zimbabwe y Gymanwlad yn 2003.

Cenhedloedd sydd heb gystadlu

Nid oes llawer o wledydd sydd heb gystadlu yn y Gemau, tystiolaeth yn ei hun sy'n brawf o boblogrwydd y Gemau yng ngwledydd y Gymanwlad. O'r gwledydd hynny, mae Tokelau yn debygol o gymryd rhan yn Gemau'r Gymanwlad 2010 yn Delhi. Mae Baner Cernyw Cymdeithas Gemau'r Gymanwlad, Cernyw a Gweriniaeth Dwrcaidd Gogledd Cyprus hefyd wedi gwneu cais i'r CGF i gymryd rhan. Mae cenhedloedd eraill sy'n ddilys i gymryd rhan yn cynnwys Ynys y Nadolig a Ynysoedd Cocos (Keeling). Gallwn ddychmygu y gallai Baner Rwanda Rwanda a Baner Iemen Yemen gymryd rhan mewn gemau yn y dyfodol.

Rhestr Chwaraeon yn Ngemau'r Gymanwlad

Mae'r rheolau presennol yn gosod lleiafrif o ddeg, a dim mwy na phymtheg o chwaraeon i gael eu cynnwys yn amserlen Gemau'r Gymanwlad. Mae rhestr o chwaraeon craidd, sydd rhaid eu cynnwys, a rhestr pellach o chwaraeon atodol y gellir dewis ohonni. Gall y wlad sy'n caynnal y gemau, ofyn i Gynulliad Cyffredinol y CGF am ragor o chwaraeon tîm i gael eu cynnwys, fel y gwnaeth Pwyllgor Trefnu Melbourne gyda Phêl Fasged ar gyfer Gemau 2006.

Mae'r rhestr chwaraeon craidd, ar hyn o bryd, yn cynnwys athletau, dyfrolau (nofio, deifio and nofio wedi'i syncroneiddio), bowlio lawnt, pêl-rwyd (merched) a rygbi saith bob ochor (dynion). Caiff y rhain aros yn chwaraeon craidd hyd o leiaf Gemau 2014.

Mae'r rhestr o chwaraeon atodol hefyn yn cynnwys saethyddiaeth, badminton, biliards, snwcer, bocsio, canwio, seiclo, ffensio, gymnasteg, jiwdo, rhwyfo, saethu, sboncen, tenis bwrdd, tenis, bowlio deg, triathlon, codi pwysau, wrestlo a mordwyo. Cynhwysir rhai o'r rhain yn aml, ond nid yw eraill megis biliards a mordwyo, wedi eu derbyn yn llawn eto.

Yn 2002, cyflwynodd y CGF Tlws David Dixon ar gyfer chwaraewr rhagorol y Gemau.

Mae'n angenrheidiol hefyd, cynnwys chwaraeon ar gyfer Athletwyr Elet gydag Anabledd (Elite Athletes with a Disability (EAD)). Cyflwynwyd y rheol yma yng Ngemau 2002.

Ar 18 Tachwedd, 2006, ategwyd tenis a at restr y chwaraeon ar gyfer Gemau 2010 yn Delhi, yn dod a chyfanswm y chwaraeon i 17. Cafodd Biliards a snwcer eu hystyried, ond ni dderbynwyd mohonynt.

Chwaraeon a gynhwysir yn y Gemau ar yr hyn o bryd

Dengys y blynyddoedd mewn bracedi, y blynyddoedd pan gafodd y chwaraeon eu cynnwys yn y gemau am y tro cyntaf.

Chwaraeon ar gyfer chwaraewyr gydag Anabledd

Chwaraeon ar Adwy

Chwaraeon na chawsant mo'u cynnwys erioed

Cyfeiriadau

  1. "The Story of the Commonwealth Games". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Commonwealth Games. Is there a Plan B?". 2013-08-22. Unknown parameter |Published= ignored (help)

Dolenni allanol

Gwefanau swyddogol Gemau'r Gymanwlad

Gwledydd