Plaid Annibyniaeth y DU: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Categori
B Symudwyd y dudalen Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig i Plaid Annibyniaeth y DU gan Llywelyn2000 dros y ddolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 05:40, 23 Mai 2014

United Kingdom Independence Party
Logo UKIP
Arweinydd Nigel Farage
Sefydlwyd 1993
Pencadlys PO Box 408
Newton Abbot
TQ12 9BG
Ideoleg Wleidyddol Gwrth-Ewropeaidd
Safbwynt Gwleidyddol Dadleuol
Tadogaeth Ryngwladol dim
Tadogaeth Ewropeaidd dim
Grŵp Senedd Ewrop Europe of Freedom and Democracy
Lliwiau Melyn a phorffor
Gwefan www.ukip.org
www.ukipwales.org
Gwelwch hefyd Gwleidyddiaeth y DU

Mae Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig[1] (Saesneg: United Kingdom Independence Party neu UKIP) yn blaid wleidyddol sy'n anelu at dynnu'r Deyrnas Unedig allan o'r Undeb Ewropeaidd [2]. Mae'r blaid eisiau tynhau rheolau mewnfudo i Brydain yn ogystal.

Polisi tuag at ddatganoli

Plaid de eithafol gyda pholisïau unoliaethol yw UKIP, sy'n gwrthwynebu datganoli.

Ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007 roedd ganddynt bolisi o ddiddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gyhuddo'r Cymry (a'r Alban) am bleidleisio dros "ranbartholi" oherwydd teimlad gwrth-Seisnig yn unig.[3][4]. Roedd polisi'r blaid wedi newid erbyn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2010 i un o gadw'r Cynulliad ond i gael gwared o'r Aelodau.[5][6] Serch hyn, maen nhw'n cynnig ymgeiswyr i etholiadau'r Cynulliad, er mwyn ymladd eu hachos o'r tu mewn.

Etholiadau

Yn yr Etholiad Ewrop 2009 yn Ngymru, daeth UKIP 4ydd gyda 12.8%. Mae John Bufton Aelod Senedd Ewrop am Cymru. [7]

Cyfeiriadau

  1. [1]
  2. http://www.youtube.com/watch?v=gJ9Qd7Ow5UQ Cyfweliad gydag Elwyn Williams o Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
  3. Manifesto: Welsh Assembly Election, 3 May 2007 ABOLISH THE ASSEMBLY & LEAVE THE EU (Copi archif o wefan UKIP)
  4. But didn't the Welsh people vote for the assembly in a referendum? (Copi archif o wefan UKIP)
  5. Constitution 2010 o wefan y blaid yn ganolog.
  6. UKIP: Plaid Genedlaethol Lloegr, Richard Wyn Jones. Barn Mail 2013
  7. [2]

Dolenni allanol