Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎FA Cup: adran newydd
Llinell 57: Llinell 57:


Beth i alw hwn yn Gymraeg? Penderfynais i (yn unfrydol!) i greu ac enwi'r erthygl yn [[Cwpan Lloegr]] yn ddiweddar gan bod cymaint o ddoleni coch yn cyfeirio ato a gyda chymaint o ffurfiau amrywiol (FA Cup, Cwpan yr FA ayyb). Ers hynny dwi'n [[Arbennig:WhatLinksHere/Cwpan_Lloegr|ailgyfeirio popeth arall yno]]. Hapus i drafod os ti'n teimlo bod enw mwy addas/cywir.--[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 21:04, 22 Mai 2014 (UTC)
Beth i alw hwn yn Gymraeg? Penderfynais i (yn unfrydol!) i greu ac enwi'r erthygl yn [[Cwpan Lloegr]] yn ddiweddar gan bod cymaint o ddoleni coch yn cyfeirio ato a gyda chymaint o ffurfiau amrywiol (FA Cup, Cwpan yr FA ayyb). Ers hynny dwi'n [[Arbennig:WhatLinksHere/Cwpan_Lloegr|ailgyfeirio popeth arall yno]]. Hapus i drafod os ti'n teimlo bod enw mwy addas/cywir.--[[Defnyddiwr:Rhyswynne|Rhyswynne]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Rhyswynne|sgwrs]]) 21:04, 22 Mai 2014 (UTC)

:: Cwpan FA Lloegr fyddwn i'n ddefnyddio - dyna mae'r BBC ac S4C yn ddefnyddio. England's Cup fydde Cwpan Lloegr [[Defnyddiwr:Blogdroed|Blogdroed]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Blogdroed|sgwrs]]) 21:10, 22 Mai 2014 (UTC)

Fersiwn yn ôl 21:10, 22 Mai 2014

Cynnes i ti a mwynha ychwanegu at yr erthyglau, beth bynnag dy ddiddordeb. Os wyt ti iso cyngor, mae 'na ddigon ohonom yma! Llywelyn2000 (sgwrs) 04:16, 14 Medi 2013 (UTC)[ateb]

diolch! Dwi'n gobeithio na fyddai'n ormod o boen wrth ofyn cwestiynau di-ri! Blogdroed (sgwrs) 09:23, 14 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Cyfeiriadau

Dilch am yr holl waith diweddar - mae'n dda cael par arall o goesau ifanc i ddod ymlaen oddi ar y fainc! Dan ni wedi bod reit llac yma yn y gorffennol, ond dan ni'n ceisio rhoi o leiaf dau(dwy?) ffynhonell wrth bob erthygl. Yn dy erthyglau newydd am Gemau'r Gymanwlad ti'n rhoi dolenni at wefan y Gemau, sy'n cadarnhau'r canlyniadau mi dybiaf. Yn yr erthygl am un 1966 ac ymddangosiad cyntaf HWFN, byddai ffynhonell i rhywbeth mor ddifyr yn ddefnyddiol. Er nad ydyw i wedi ei ddarllen, dwi'n dyfalu mai o lyfr Sion Jobbins y daeth y ffaith? Os felly, mae eisiau manylion y llyfr o fewn y tags canlynol <ref></ref>, a gosod hynny ar ddiwedd y frawddeg dan sylw (wedi'r atalnod llawn). Yn ogystal, os nad ydynt yno'n barod, mae angen cynnwys y canlynol: '==Cyfeiriadau=={{cyfeiriadau}}' hefyd ar waelod yr erthygl, fel eu bod yn ymddangos yn gywir.Sori am fod yn bedantig.--Rhyswynne (sgwrs) 22:20, 16 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Diolch Rhys, fe ddaeth y ffaith o fy ngwaith ymchwil ar gyfer safle Gemau Gymanwlad y BBC slawer dydd yn ôl - dwi wedi ceisio dod o hyd i ffynhonell (arall) ar y we ond heb lwyddo eto - dwi heb ddarlen llyfr Sion Jobbins, ond fe na'i ymchwilio! Mi na'i barhau i chwilio ar y we hefyd! --Blogdroed (sgwrs) 22:40, 16 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Gwybodlenni Cymraeg

Dw i wedi ateb dy ymholiad yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:58, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Diolch - wedi ateb yn ôl! --Blogdroed (sgwrs) 20:01, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]
  Cwbwlhawyd - Llywelyn2000 (sgwrs) 21:05, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]
arbennig! --Blogdroed (sgwrs) 21:29, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]
cwestiwn olaf ... onest! ... sut mae newid maint y ffont mewn Gwybodlen?--Blogdroed (sgwrs) 21:45, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]
 Cwblhawyd
--Blogdroed (sgwrs) 22:44, 17 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Gweld dy fod wedi bod yn arbrofi'n creu Nodyn newydd: Nodyn:Blwchrygbi‎. Ti ar y ffordd iawn - cofia ofyn os ti isio cymorth. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:40, 8 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Diolch, siwr o wneud - meddwl bo fi ar y trywydd cywir efo hwn - am drio efo fersiwn pêl-droed nes ymlaen! --Blogdroed (sgwrs) 19:34, 8 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Gwyrdd a melyn a coch a du...

Gyfaill! Mi adewais neges i ti yn fama, gan ddangos fy lliwiau gwleidyddol, tanbaid! Llywelyn2000 (sgwrs) 20:35, 19 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Pêl-droed yng Nghymru XXXX-XX

Gweld bod ti wedi dechrau ar dymhorau 12/13 a 13/14. Wyt ti'n bwriadu cynnwys mwy yn yr erthyglau maes o law? Fydden i ddim yn cynnwys gormod arno neu mae'n mynd i fod yn llafurus i'w lenwi (yn enwedig wrth fymnd yn ôl mewn amser), ond falle nodi; enillwyr Cwpan Cymru, crynodeb o lwyddiannau(os o gwbl!) clybiau Cymru yn Ewrop a falle mond cyfeirio at y clybiau yn Lloegr os digwyddod rhywbeth arbennig fel dychafiad/disgyn o adran, ennill neu fynd yn bell mewn cystadleuaeth cwpan. Wedyn beth am wobrau chwaraewyr (BBC a PFA) a'r tîm cenedlaethol? Falle gwell peidio cynnwys y tîm cenedlaethol gan bod eu tymor/ymchyrch gemau ragbrofol nhw yn rhedeg dros ddwy dymor domestig fel arfer. Dwi'n hapus i'th gynorthwyo gyd'r uchod, mond meddwl byddia'n handi trafod y cynwnys o flaen llaw.

Gol. O edrych ar Wikipedia en am esiamplau, sylwaf bod y strwythur yno ychydig yn wahanol (ac yn rhy fanwl i ni os rhwybeth!)--Rhyswynne (sgwrs) 09:52, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Hi Rhys! Ydw, dwi'n bwriadu cynnwys rhywbeth tebyg i'r hyn ti di nodi uchod, ond roeddwn am roi gemau (a gwobrau seremoni flynyddol) y tîm cenedlaethol hefyd dros pob tymor - meddwl bwrw ati fesyl tipyn! Wrthi'n gweithio allan a chreu y Nodyn sy'n creu'r tablau ydw i ar y funud! Unwaith bo fi wedi creu un llynedd, bydd rhyw fath o esiampl i'w ddilyn ar gyfer y gweddill. Gobeithio fydd rhywbeth wedi'i greu bore 'ma --Blogdroed (sgwrs) 10:00, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Edrych yn dda hyd yma (y tabl). Eto yn gysylltiedig â hyn, dw i wedi dechrau cyfieithu 'Pyramid pêl-droed Cymru' ar is-dudalen fy mhroffil. Mae o ar ei ganol fel y gweli di. Gobeithio bod enwau (Cymraeg) y gwahanol gyngrheiriau'n gywir hyd yma.--Rhyswynne (sgwrs) 12:47, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Aha! Ar dudalen proffil mae rhywun i fod i arbrofi ia? !! --Blogdroed (sgwrs) 13:08, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]
Ia, neu yn y Pwll Tywod, ond mae beth ti wedi bod yn ei wneud gyda'r erthygl dan sylw a rhai Gemau'r Gymanwlad, sef ychwanegu tipyn ar y tro, yn berffiath iawn - dyna yw hanfod wici! Dw i wedi dewis cyfieithu'r pyramid ar is-dudalen fy mhroffil gan na fyddai'n dderbyniol creu erthygl gyda'r cyfieithu ar ei hanner.--Rhyswynne (sgwrs) 11:43, 28 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Syniad am olygathon

Yn gysylltiedig â'r uchod a gan bod Sgorio yn dathlu pen-blwydd 25 oed eleni, be ti'n feddwl o'r syniad ar gyfer un neu fwy o ddigwyddiadau golygu'r Wicipedia (Cymraeg a Saesneg o bosib) yn seiliedig a'r Bêl-droed. Ti'n meddwl byddai gan glwb, y Gymdeithas Bêl-droed, grŵp cefnogwyr neu falle cwmni Rondo ddiddordeb noddi/cynnal digwyddiad o'r fath? Oes amgueddfa neu arddangosfa bêl-droed parhaol neu dros dro gyda ni yng Nghymru bellach, neu unigolion sy'n frwd dros hanes y gamp y gallwn droi ato am syniadau? --Rhyswynne (sgwrs) 09:52, 23 Hydref 2013 (UTC)[ateb]

Bae Trearddur / Trarddur?

Well spotted! Pa un yw'r sillafiad lleol? Llywelyn2000 (sgwrs) 20:13, 20 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Trearddur fyswn i'n ddefnyddio'n lleol Blogdroed (sgwrs) 21:32, 20 Mai 2014 (UTC)[ateb]
Diolch gyfaill; dw i wedi uno'r ddau bellach. Llywelyn2000 (sgwrs) 18:41, 21 Mai 2014 (UTC)[ateb]
FFanciw Mawr! Blogdroed (sgwrs) 18:43, 21 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Ashley Williams

Wedi ei newid. Er gwybodaeth (a dwi'n meddwl bod pawb yn gallu gwneud hyn, nid mond gweinyddwyr), ar ben pob erthygl, i'r chwith i'r blwch chwilio, mae saeth bach gyda'r dewis o 'Symud' tudalen. Mae hyn yn creu enw newydd i'r erthygl ac yn algyfeirio unrhyw ddoleni at yr hen enw.

Gwaith gwych ar yr holl erthyglau pêl-droed eraill hefyd gyda llaw.--Rhyswynne (sgwrs) 21:04, 20 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Diolch yn dalpau! Blogdroed (sgwrs) 21:32, 20 Mai 2014 (UTC)[ateb]

FA Cup

Beth i alw hwn yn Gymraeg? Penderfynais i (yn unfrydol!) i greu ac enwi'r erthygl yn Cwpan Lloegr yn ddiweddar gan bod cymaint o ddoleni coch yn cyfeirio ato a gyda chymaint o ffurfiau amrywiol (FA Cup, Cwpan yr FA ayyb). Ers hynny dwi'n ailgyfeirio popeth arall yno. Hapus i drafod os ti'n teimlo bod enw mwy addas/cywir.--Rhyswynne (sgwrs) 21:04, 22 Mai 2014 (UTC)[ateb]

Cwpan FA Lloegr fyddwn i'n ddefnyddio - dyna mae'r BBC ac S4C yn ddefnyddio. England's Cup fydde Cwpan Lloegr Blogdroed (sgwrs) 21:10, 22 Mai 2014 (UTC)[ateb]