Brwydr Passchendaele: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B cite book > dyf llyfr |
Francis Ledwidge |
||
Llinell 7: | Llinell 7: | ||
[[Delwedd:Battle of Menin Road - wounded at side of the road.jpg|bawd|chwith|Cleifion ar ochr y ffordd yn dilyn Brwydr Menin Road Ridge]] |
[[Delwedd:Battle of Menin Road - wounded at side of the road.jpg|bawd|chwith|Cleifion ar ochr y ffordd yn dilyn Brwydr Menin Road Ridge]] |
||
Parhaodd y frwydr hyd [[6 Tachwedd]], 1917, pan gipiwyd [[Passendale]], oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglyn a cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cyngheiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal. Rhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd [[Hedd Wyn]] ar [[31 Gorffennaf]]. |
Parhaodd y frwydr hyd [[6 Tachwedd]], 1917, pan gipiwyd [[Passendale]], oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglyn a cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cyngheiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal. Rhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd [[Hedd Wyn]] ar [[31 Gorffennaf]]. Yma hefyd y bu farw'r bardd [[Gwyddel]]ig [[Francis Ledwidge]]. |
||
{{clirio}} |
{{clirio}} |
||
Fersiwn yn ôl 07:53, 20 Mai 2014
Un o frwydrau y Rhyfel Byd Cyntaf rhwng Mehefin a Thachwedd 1917 oedd Brwydr Passchendaele; defnyddir yr enw Trydydd Brwydr Ypres amdani hefyd ac am adeg defnyddid yr enw Brwydr Messines 1917. Yr enw Almaeneg yw Trydydd Brwydr Fflandrys (Almaeneg: 'Dritte Flandernschlacht') a'r enw Ffrangeg yw: Ail Frwydr Fflandrys (Ffrangeg: '2ème Bataille des Flandres'). Ymladdwyd y frwydr ger dinas Ypres yng Ngwlad Belg, rhwng byddin yr Almaen dan Max von Gallwitz ac Erich Ludendorff, a lluoedd y cyngheiriaid, yn cynnwys milwyr o Brydain, Awstralia, Seland Newydd, Canada a Ffrainc ymysg eraill, dan Douglas Haig a Hubert Gough.
Dedleuai Prifweinidog Prydain, sef Lloyd George yn erbyn y frwydr am nifer o resymau [1] a chytunai'r Cadfridog Ffrengig Ferdinand Foch gydag ef. Credodd y ddau y dylid disgwyl cymorth yr Americanwyr.
Dechreuodd yr ymladd yn y cylch ym mis Mehefin, a dechreuodd y frwydr ei hun ar 31 Gorffennaf 1917.[2] Roedd yr ymgyrch wedi ei chynllunio gan Haig, er gwaethaf gwrthwynebiad y Prif Weinidog, David Lloyd George. Y bwriad oedd torri drwy linellau'r Almaen a chipio porthladdoedd Oostende a Zeebrugge, oedd yn cael eu defnyddio gan longau tanfor yr Almaen.
Parhaodd y frwydr hyd 6 Tachwedd, 1917, pan gipiwyd Passendale, oedd erbyn hynny yn ddim ond ychydig o adfeilion ynghanol y mwd. Mae dadl yn parhau ynglyn a cholledion y ddwy ochr; yn ôl rhai ffigyrau collodd y cyngheiriaid 448,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu clwyfo, a'r Almaen 260,000. Yn ôl eraill, roedd y ffigyrau yn fwy cyfartal. Rhan o Frwydr Passchendaele oedd Brwydr Cefn Pilckem, lle lladdwyd Hedd Wyn ar 31 Gorffennaf. Yma hefyd y bu farw'r bardd Gwyddelig Francis Ledwidge.
Cyfeiriadau
- ↑ Terraine, John (1977). The Road to Passchendaele: The Flanders Offensive 1917, A Study in Inevitability. Llundain: Leo Cooper. ISBN 0-436-51732-9
- ↑ Sheldon, Jack (2007). The German Army at Passchendaele. Barnsley: Pen and Sword Books, tud. xiv. ISBN 1-84415-564-1