Joan Miró: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|dde|Joan Miró ym 1935 Artist o Gatalanwr oedd '''Joan Miró i Ferrà'''...'
 
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Portrait of Joan Miro, Barcelona 1935 June 13.jpg|bawd|dde|Joan Miró ym 1935]]
[[Delwedd:Portrait of Joan Miro, Barcelona 1935 June 13.jpg|bawd|dde|Joan Miró ym 1935]]


Artist o [[Catalwnia|Gatalanwr]] oedd '''Joan Miró i Ferrà''' ([[20 Ebrill]] 1893 – [[25 Rhagfyr]] 1983). Caiff ei ystyried yn ffigwr blaenllaw mewn [[Swrealaeth]], er iddo erioed fod yn aelod swyddogol o'r symudiad hynny. Bu'n ddylanwadol iawn ar gyfeiriad celf haniaethol yng nghanol yr ugeinfed ganrif, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.<ref name="Grove">{{dyf gwe|url=http://www.oxfordartonline.com/subscriber/article/grove/art/T058573?q=Joan+Miro&search=quick&pos=1&_start=1#firsthit|teitl=Miró, Joan|cyfenw=Corredor-Matheos|enwcyntaf=José|gwaith=Grove Art Online|cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen|dyddiadcyrchiad=10 Mai 2014|iaith=en}}</ref>
Artist o [[Catalwnia|Gatalaniad]] oedd '''Joan Miró i Ferrà''' ([[20 Ebrill]] 1893 – [[25 Rhagfyr]] 1983). Caiff ei ystyried yn ffigwr blaenllaw mewn [[Swrealaeth]], er iddo erioed fod yn aelod swyddogol o'r symudiad hynny. Bu'n ddylanwadol iawn ar gyfeiriad celf haniaethol yng nghanol yr ugeinfed ganrif, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.<ref name="Grove">{{dyf gwe|url=http://www.oxfordartonline.com/subscriber/article/grove/art/T058573?q=Joan+Miro&search=quick&pos=1&_start=1#firsthit|teitl=Miró, Joan|cyfenw=Corredor-Matheos|enwcyntaf=José|gwaith=Grove Art Online|cyhoeddwr=Gwasg Prifysgol Rhydychen|dyddiadcyrchiad=10 Mai 2014|iaith=en}}</ref>


==Bywyd==
==Bywyd==

Fersiwn yn ôl 15:12, 10 Mai 2014

Joan Miró ym 1935

Artist o Gatalaniad oedd Joan Miró i Ferrà (20 Ebrill 1893 – 25 Rhagfyr 1983). Caiff ei ystyried yn ffigwr blaenllaw mewn Swrealaeth, er iddo erioed fod yn aelod swyddogol o'r symudiad hynny. Bu'n ddylanwadol iawn ar gyfeiriad celf haniaethol yng nghanol yr ugeinfed ganrif, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau.[1]

Bywyd

Fe'i ganwyd yn Barcelona i deulu o grefftwyr. Ar ôl dal teiffws symudodd i fyw yn ardal gwledig Montroig, ger Tarragona, er mwyn adfer ei iechyd.[1] Roedd ei blentyndod gwledig yn ysbrydoliaeth gyson iddo. Daeth trobwynt yn ei yrfa ym 1918 pan gafodd arddangosfa o'i waith yn oriel Lluís Dalmau; Dalmau oedd y cyntaf i arddangos gwaith peintwyr avant-garde Paris yn Barcelona. Bu'r arddangosfa yn fethiant a penderfynodd Miró symud i Baris.[1] Uchafbwynt ei waith cynnar yn nhyb rhai[2] oedd Y Fferm (1921–2), sy'n crynhoi ei atgofion o Montroig. Am nad oedd gan yr orielau arferol ddiddordeb yn y gwaith hwn fe'i werthodd i'w ffrind, yr awdur o Americanwr Ernest Hemingway; yn Oriel Gelf Genedlaethol yr Unol Daleithiau y mae'r llun bellach.[1]

Dona i Ocell ("Merch ac Aderyn", 1982), Parc Joan Miró, Barcelona

Ym 1925 cymerodd Miró ran yn yr arddangosfa Swrealaidd cyntaf. Yn wahanol i weddill y Swrealwyr, gweithiai Miró mewn arddull haniaethol, ond roedd yn rhannu eu diddordeb hwy yn yr isymwybod.[3] Dywedodd André Breton, sylfaenydd y grwp, mai "Miró yw'r un mwyaf swrealaidd ohonom ni i gyd".[1]

Ym 1929 priododd Miró ei gyfnither, Pilar Juncosa. O hyn ymlaen teimlodd yn fwy hyderus i fod yn radical yn ei waith, gan gyhoeddi ei fod am "lofruddio" confensiynau peintio. Dechreuodd greu collages mewn deunyddiau anarferol megis pren a metel. Daeth ei waith yn fwyfwy ymosodol ym mlynyddoedd Rhyfel Cartref Sbaen.[1] Creodd y murlun El segador (Payés catalán en rebeldía) ("Y cynaeafwr (Gwerinwr Catalwnaidd mewn gwrthryfel)") ar gyfer Pafiliwn Sbaen yn Arddangosfa Rynwladol Paris ym 1937, yn yr un adeilad lle arddangoswyd campwaith Pablo Picasso, Guernica. Yn y pafiliwn roedd poster gan Miró ar werth o'r enw Aidez l'Espagne ("Helpiwch Sbaen"), â llun o Gatalaniad â'i ddwrn yn yr awyr.[4]

Ym 1939 symudodd Miró i fyw yn Varengeville, pentref bychan yn Normandi, lle parhaodd i greu peintiadau a oedd yn crynhoi atgofion o blentyndod a chefn gwlad Montroig. Dychwelodd i Sbaen yn y flwyddyn olynol, pan ddechreuodd weithio â serameg.[3] O 1940 i 1941 creodd gyfres o weithiau o'r enw Constellaciones ("Cytserau") a chaiff eu hystyried ymhlith ei weithiau pwysicaf. Yn 1941 cynhaliwyd arddangosfa fawr o'i waith yn Amgueddfa Gelf Fodern Efrog Newydd, a chwaraeodd hyn ran bwysig mewn sefydlu ei enw tu allan i Ewrop.[1] Cafodd sawl comisiwn cyhoeddus yn ei yrfa hwyr, gan gynnwys y murluniau serameg Mur du soleil ("Mur(lun) yr haul") a Mur de la lune ("Mur(lun) y lleuad"; 1956) ar gyfer pencadlys UNESCO ym Mharis.[3] Cynlluniodd hefyd dapestri ar gyfer Canolfan Masnach y Byd yn Efrog Newydd pan agorodd hynny ym 1974; dyma oedd un o'r gweithiau celf mwyaf gwerthfawr i gael ei ddinistrio yn ymosodiadau 11 Medi 2001.[5]

Sefydlwyd amgueddfa o'i waith, y Fundació Joan Miró, yn Barcelona ym 1975, mewn adeilad a'i gynlluniwyd gan ei ffrind Josep Lluís Sert a gyda chasgliad o beintiadau, cerfluniau a phrintiau a'i roddwyd gan yr artist ei hun. Bu farw Miró yn Palma de Mallorca ym 1983, ac ym 1992 sefydlwyd Fundació Pilar i Joan Miró yn ei hen stiwdio yno.[1]

Cyfeiriadau

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) Corredor-Matheos, José. Miró, Joan. Grove Art Online. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 10 Mai 2014.
  2. Er enghraifft Robert Hughes yn The Shock of the New (1980)
  3. 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Hopkins, Justine. Miró, Joan. The Oxford Companion to Western Art. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 10 Mai 2014.
  4. Borja-Villel, Manuel J.; et al., gol. (2010). The Collection: Museo Nacional Centro de Arte Reina Sofía – Keys to a Reading (Part I). Madrid: Ediciones de La Central. t. 169. Explicit use of et al. in: |editor= (help)
  5. (Saesneg) Wenegrat, Saul (28 Chwefror 2002). Public Art at the World Trade Center. International Foundation for Art Research. Adalwyd ar 10 Mai 2014.

Dolenni allanol