Yr Eglwys Gatholig Rufeinig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Treisijs (sgwrs | cyfraniadau)
Removed interwikis. These interwikis is in Wikidata d:Q9592
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 16: Llinell 16:
{{eginyn Cristnogaeth}}
{{eginyn Cristnogaeth}}


[[Categori:Yr Eglwys Gatholig Rufeinig]]
[[Categori:Yr Eglwys Gatholig Rufeinig| ]]
[[Categori:Cristnogaeth]]
[[Categori:Cristnogaeth]]



Fersiwn yn ôl 05:59, 24 Ebrill 2014

Yr Eglwys Gatholig (neu yr Eglwys Gatholig Rufeinig) yw'r eglwys fwyaf yn y byd, gyda thros biliwn o aelodau yn perthyn iddi. Mae'n cael ei harwain gan y Pab, sef Esgob Rhufain. Yn Rhufain mae pencadlys yr Eglwys fyd-eang, y Fatican, ac oddi yno y caiff ei rheoli.

Hanes

Yn ôl y traddodiad cafodd yr Eglwys ei sefydlu gan yr Iesu ei hun, pan newidiodd ef enw Simon i Pedr, a dywedodd taw ar y graig hon fyddai ef yn sefydlu ei Eglwys. Yn ystod y bedwaredd ganrif O.C., daeth Cristnogaeth yn brif grefydd yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn sgìl cwymp yr ymerodraeth, yn ystod yr oesoedd tywyll, fe ddanfonodd yr Eglwys Gatholig nifer fawr o genhadon i Ewrop a thramor. Ond wedi troad y mileniwm cododd ffrae rhwng rhannau gorllewinol a dwyreiniol yr Ymerodraeth, ac felly dwy ran yr Eglwys, ac fe ffurfiwyd yr eglwys Uniongred o'r rhan ddwyreiniol. Llewyrchai'r Eglwys yn ystod yr Oesoedd Canol.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg digwyddodd nifer o bethau; y diwygiad Protestannaidd, y Chwil-lys, trafferthion gyda brenin Lloegr ac wedyn y gwrth-ddiwygiad.

Yna bu bron pedair canrif drafferthus i'r Eglwys wrth iddi frwydro yn erbyn Protestaniaeth ac yna Anghydffurfiaeth. Gorffennodd hynny gydag ail gyngor y Fatican yn saithdegau'r 20fed ganrif ac wedyn o dan arweinyddiaeth Pab Ioan Paul yr ail (1978-2004). Yn awr mae'r Eglwys o dan arweinyddiaeth Pab Bened XVI (Josef Ratzinger).

Nifer

Mae yna tua 1,085,557,000 o Gatholigion yn y byd, yn cynnwys 5,700,000 ym Mhrydain ac 58,000,000 yn UDA.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol Nodyn:Cyswllt erthygl ddethol