Diwan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 14 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q12196 (translate me) |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Diwan.jpg|bawd|150px|Logo Diwan]] |
[[Delwedd:Diwan.jpg|bawd|150px|Logo Diwan]] |
||
Mudiad ysgolion [[Llydaweg]] yn [[Llydaw]] yw '''Diwan'''. |
Mudiad ysgolion [[Llydaweg]] yn [[Llydaw]] yw '''Diwan''' ([[IPA|/ˈdiwɑ̃n/]] "hedyn"). |
||
Gweithreda y tu allan i gyfundrefn addysgol ganolog [[Ffrainc]] am fod Diwan yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Llydaweg. |
Gweithreda y tu allan i gyfundrefn addysgol ganolog [[Ffrainc]] am fod Diwan yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Llydaweg. |
||
Fersiwn yn ôl 07:58, 18 Ebrill 2014
Mudiad ysgolion Llydaweg yn Llydaw yw Diwan (/ˈdiwɑ̃n/ "hedyn"). Gweithreda y tu allan i gyfundrefn addysgol ganolog Ffrainc am fod Diwan yn dysgu'n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Llydaweg.
Hanes
Crëwyd yr ysgol Diwan gyntaf yn Lambaol-Gwitalmeze (Ffrangeg Lampaul-Ploudalmézeau) ger Brest, yn 1977, o ganlyniad i'r galw am addysg trwy gyfrwng yr iaith. Mae'r ysgolion yn trochi'r plant yn yr iaith, yn debyg i ysgolion penodedig Cymraeg, ac roedd 2,200 o ddisgyblion yn mynd i ysgolion Diwan ar draws Llydaw yn 2005. Agorodd yr ysgol Diwan gyntaf ym Mharis ym mis Medi 2004. Erbyn Medi 2012 mae ffigyrau a gyhoeddwyd yn "le Telegramme-Finisterre" yn dangos bod 14.709 yn derbyn addysg dwyieithog Llydaweg-Ffrangeg; rhyw 3.625 ohonynt efo ysgolion Diwan; 6.260 efo Div Yezh (dan y llywodraeth); a 4.824 efo Dihun (ysgolion Catholig), mae hyn yn golygu cynnydd o 35% dros y tair blynedd diwethaf.
Yn erbyn Diwan
Mae rhai o bobl sy'n agos at lywodraeth Ffrainc yn siarad yn amal yn erbyn ysgolion Diwan, fel yr aelod seneddol sosialaidd (hen drotskydd) Jean-Luc Mélenchon neu'r awdures ffrangeg Françoise Morvan.
30 mlynedd o fodolaeth
Cafodd Diwan ei 30ain penblwydd yn 2008 yn Karaez, yn nghanol Llydaw.