Crimea: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
B Symudodd Llywelyn2000 y dudalen Crimea i Penrhyn y Crimea: darn o dir, dim mwy
B Symudodd Llywelyn2000 y dudalen Crimea i Penrhyn y Crimea: darn o dir, dim mwy
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:09, 18 Mawrth 2014

Am y bwlch yng Ngwynedd a adwaenir fel "Bwlch y Crimea" gweler Bwlch y Gorddinan.
Map yn dangos lleoliad Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea o fewn Wcráin

Mae Penrhyn y Crimea (Wcraineg: Кримський півострів; Rwsieg: Крымский полуостров a Tatareg Crimea: Qırım yarımadası) yn ddarn mawr o dir ar arfordir gogleddol y Môr Du ac sydd bron wedi'i amgylchynnu gan ddŵr. Saif i'r de o Wcráin ac i'r gorllewin o Kuban, Rwsia.

Mae dau fôr o'i gwmpas: Y Môr Du a Môr Azov tua'r dwyrain gyda Isthmws Perekop yn ei gysylltu â'r tir mawr. Mae rhan helaeth y Crimea yn wastadedd ond mae'n codi i 1545m (5069 troedfedd) yn y de gyda chopa Gora Roman-Kosh, yr uchaf o gadwyn o fryniau ar hyd arfordir de-ddwyreiniol yr orynys a adnabyddir fel Mynyddoedd Crimea. Y prif ddinasoedd yw Feodosia, Kerch, Sevastopol, Yalta, Yevpatoria a Simferopol, y brifddinas.

Mae mwyafrif y boblogaeth (58%, Cyfrifiad 2001) yn Rwsiaid, gyda niferoedd sylweddol o Wcrainiaid (24%) a Tatariaid Crimea (12%). Rwsieg yw mamiaith y mwyafrif (77%, Cyfrifiad 2001) hefyd, er bod nifer o bobl â'r Datareg Crimea (11%) a'r Wcraineg (10%) fel mamiaith. Yr unig iaith swyddogol yw'r Wcraineg, er bod y Rwsieg yn cael ei defnyddio yn eang ar gyfer materion y llywodraeth hunanlywodraethol.

Perchnogaeth

Yn 2014 cafwyd cryn ddadlau ynghylch perchnogaeth y Crimea. Hyd 2014 fe'i gweinyddwyd fel gweriniaeth hunanlywodraethol o dan reolaeth Wcráin. Enw swyddogol y weriniaeth honno oedd Gweriniaeth Hunanlywodraethol y Crimea (Wcraineg Автономна Республіка Крим/Avtonomna Respublika Krym, Tatareg Crimea Qırım Muhtar Cumhuriyeti).

Ym Mawrth 2014, yn dilyn cynydd yn niferoedd milwyr Rwsia i'r penrhyn, pleidleisiodd trigolion y Crimea dros sefydlu "Gweriniaeth Crimea. Ar y pryd, dim ond Rwsia oedd yn ei chydnabod.

Hanes

Coloneiddwyd y Crimea gan y Groegiaid yn y 6ed ganrif CC. Cafodd ei oresgyn yn ddiweddarach gan y Gothiaid, yr Hyniaid ac eraill. Yn 1239 cafodd ei wneud yn khaniad gan Tatariaid yr Haid Euraidd. Cipiwyd y khaniad gan y Tyrciaid yn 1475 a chafodd y Crimea ei feddiannu gan Rwsia yn 1783. Rhwng 1853 a 1856 ymladdwyd Rhyfel y Crimea yno rhwng lluoedd Rwsia ar un ochr a lluoedd Prydain, Ffrainc ac Ymerodraeth yr Otomaniaid ar yr ochr arall. Meddiannwyd y Crimea gan yr Almaen Natsïaidd yn yr Ail Ryfel Byd (1941-1943). Ar ôl y rhyfel cafodd y Tartariaid eu halltudio i Uzbekistan yn eu crwnswth am gydweithredu, yn ôl yr honiad, â'r Almaenwyr. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd mae llawer ohonynt wedi dod yn ôl.