Ifor Rees (awdur): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Jonbonjela (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Jonbonjela (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 12: Llinell 12:
*[[Dilyn Afon]], (1977)
*[[Dilyn Afon]], (1977)
*[[Crwydro Clawdd Offa]], (1979)
*[[Crwydro Clawdd Offa]], (1979)
*[[Bro a Bywyd T.H. Parry Williams]], (1981)
*[[Bro a Bywyd: T.H. Parry Williams]], (1981)
*[[Bro a Bywyd Cynan]], (1982)
*[[Bro a Bywyd: Cynan]], (1982)
*[[Gwgwrus]], (1983)
*[[Gwgwrus]], (1983)
*[[Ar Glawr]],(1983)
*[[Ar Glawr]], (1983)
*[[Siwrneio]], (1990)
*[[Siwrneio]], (1990)
*[[Dŵr o Ffynnon Felin Bach]], (1995)
*[[Dŵr o Ffynnon Felin Bach]], (1995)
*[[Gwŷr Llên Cwm Tawe]], (1995)
*[[Bro a Bywyd: Gwŷr Llên Cwm Tawe]], (1995)


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 15:00, 7 Mawrth 2014

Delwedd:Ifor Rees.jpg
Y Parchedig Ifor Rees BD MA

Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees' (1 Mawrth 1921 - 27 Chwefror 2004).[1] Fe'i ganwyd yn 1921 yn Glasgow lle roedd ei dad yn gweithio fel saer ym mhorthladdoedd y ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd ei deulu i Fynydd-bach, Abertawe pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Tirdeunaw, ac yna Ysgol Ramadeg Abertawe a Choleg y Brifysgol Abertawe lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, aeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin.

Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym Mangor fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglenni am wledydd eraill lle bu’n arloesi yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys Groeg, Twrci, Denmarc a Dwyrain yr Almaen. Bu hefyd yn olrhain hanes O. M. Edwards mewn rhaglen a ffilmiwyd ar ynys Cyprus.

Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Ffurfiodd ddeuawd ysgafn gyda'i gyfaill Dafydd Evans. Ef oedd cyfansoddwr ac awdur y gân ‘Dros y Mynydd Du o Frynaman’.

Derbyniodd radd MA er anrhydedd yn 1996 am ei waith. Bu farw'n 2004 yn 82 oed.

Llyfryddiaeth

Cyfeiriadau