Tennessee: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B nodyn eginyn (UDA -> Tennessee)
Jackie (sgwrs | cyfraniadau)
fix URL prefix
Llinell 30: Llinell 30:
cylch amser = Canolog: UTC-6/-5, -5/-4|
cylch amser = Canolog: UTC-6/-5, -5/-4|
CódISO = TN Tenn. US-TN |
CódISO = TN Tenn. US-TN |
gwefan = http://www.tennessee.gov/|
gwefan = www.tennessee.gov|
}}
}}
Mae '''Tennessee''' yn dalaith yn ne canolbarth yr [[Unol Daleithiau]], sy'n ymrannu'n Ddwyrain, Canolbarth a Gorllewin Tennessee. Yn [[Dwyrain Tennessee|Nwyrain Tennessee]] ceir ardal o fryniau coediog; mae [[Canolbarth Tennessee]] (''Middle Tennessee''), drofa ar [[Afon Tennessee]], yn ardal o lwyfandir ucheldirol a bryniau, ac mae [[Gorllewin Tennessee]] yn ardal o gorsydd a thir isel sy'n gorwedd rhwng Afon Tennessee ac [[Afon Mississippi]]. Brwydrai [[Prydain Fawr]] a [[Ffrainc]] am feddiant o'r ardal yn yr [[17eg ganrif]] a daeth dan reolaeth Prydain. Cafodd ei datgan yn diriogaeth yn [[1790]] a daeth yn dalaith yn [[1796]]. Cefnogodd y De yn [[Rhyfel Cartref America]]. Bu'n dyst i anghydfod sifil yn y [[1960au]]; saethwyd [[Martin Luther King]] ym [[Memphis, Tennessee|Memphis]] yn [[1968]]. [[Nashville, Tennessee|Nashville]] yw'r brifddinas.

Fersiwn yn ôl 21:19, 1 Mawrth 2014

Talaith Tennessee
Baner Tennessee Sêl Talaith Tennessee
Baner Tennessee Sêl Tennessee
Llysenw/Llysenwau: Talaith y Gwirfoddolwr
Map o'r Unol Daleithiau gyda Tennessee wedi ei amlygu
Map o'r Unol Daleithiau gyda Tennessee wedi ei amlygu
Prifddinas Nashville
Dinas fwyaf Memphis
Arwynebedd  Safle 36feg
 - Cyfanswm 109,247 km²
 - Lled 195 km
 - Hyd 710 km
 - % dŵr 0.56
 - Lledred 34° 59′ G i 36° 41′ G
 - Hydred 81° 39′ Gor i 90° 19′ Gor
Poblogaeth  Safle 17eg
 - Cyfanswm (2010) 6,456,243
 - Dwysedd 60.0/km² (40fed)
Uchder  
 - Man uchaf Clingmans Dome
2025 m
 - Cymedr uchder 270 m
 - Man isaf 54 m
Derbyn i'r Undeb  1 Mehefin 1796 (16eg)
Llywodraethwr Bill Haslam
Seneddwyr Lamar Alexander
Bob Corker
Cylch amser Canolog: UTC-6/-5, -5/-4
Byrfoddau TN Tenn. US-TN
Gwefan (yn Saesneg) www.tennessee.gov

Mae Tennessee yn dalaith yn ne canolbarth yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n Ddwyrain, Canolbarth a Gorllewin Tennessee. Yn Nwyrain Tennessee ceir ardal o fryniau coediog; mae Canolbarth Tennessee (Middle Tennessee), drofa ar Afon Tennessee, yn ardal o lwyfandir ucheldirol a bryniau, ac mae Gorllewin Tennessee yn ardal o gorsydd a thir isel sy'n gorwedd rhwng Afon Tennessee ac Afon Mississippi. Brwydrai Prydain Fawr a Ffrainc am feddiant o'r ardal yn yr 17eg ganrif a daeth dan reolaeth Prydain. Cafodd ei datgan yn diriogaeth yn 1790 a daeth yn dalaith yn 1796. Cefnogodd y De yn Rhyfel Cartref America. Bu'n dyst i anghydfod sifil yn y 1960au; saethwyd Martin Luther King ym Memphis yn 1968. Nashville yw'r brifddinas.

Mewnfudo o Gymru

Yn dilyn y Rhyfel Cartref symudodd 104 teulu Cymraeg o Pennsylvania i Ddwyrain Tennessee - i ran o'r enw Mechanicsville, a rhan o ddinas Knoxville. Fe'u cyflogwyd gan y brodyr Joseph a David Richards (a John H. Jones)i weithio mewn ffatri metal. Roedd y brodyr wedi sefydlu Gwaith Haearn Knoxville gerllaw rheilffordd yr "L&N Railroad", ar safle a ddefnyddiwyd yn ddiweddarach fel safle ar gyfer "1982 World's Fair". Mae'r hen ffwndri, a ddefnyddir heddiw fel tŷ bwyta, yn dal i sefyll; yr unig ddarn.

Codwyd capel Cymraeg ganddynt, gyda'r Parchedig Thomas Thomas yn weinidog arnynt yn 1870. Gwerthwyd y capel yn 1899.

Daeth y gwladychwyr Cymreig hyn yn llwyddiannus iawn yn yr ardal gan sefydlu sawl busnes arall yn y ddinas, gan gynnwys y cwmni oedd yn gyfrifol am greu cerbydau rheilffordd, cwmni llechi (a thoi), cwmni marmor a sawl cwmni gwneud dodrefn. Erbyn 1930 roedd plant y teuluoedd wedi lledaenu drwy'r ddinas a siroedd eraill megis Swydd Sevier. Heddiw, mae dros 250 teulu'n olrhain eu hachau i'r mewnfudwyr cyntaf hynny ac maent yn parhau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Dinasoedd Tennessee

1 Memphis 662,897
2 Nashville 626,681
3 Knoxville 178,874
4 Chattanooga 167,674
5 Clarksville 132,929
6 Soddy-Daisy 11,530

Dolenni Allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Tennessee. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.