Al Jazeera: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 25: Llinell 25:


==Galeri fideo==
==Galeri fideo==
Ceir cofnod fideo manwl a chynhwysfawr o Ryfel Affganistan ar Comin Wicipedia; dyma enghreifftiau:
Ceir cofnod fideo manwl a chynhwysfawr o Ryfel Affganistan (a nifer o ryfeloedd a digwyddiadau eraill) ar [[Comin Wikimedia]]; dyma enghreifftiau:
{|
{|
|- valign=top
|- valign=top

Fersiwn yn ôl 10:52, 22 Chwefror 2014

Logo sianel deledu Al Jazeera

Mae Al Jazeera (Arabeg: الجزيرة‎, al-jazīrah; IPA: [aldʒaˈziːra], sy'n golygu "Yr Ynys" yn Arabeg), yn rhwydwaith teledu rhyngwladol sydd a'i phencadlys yn Doha, Qatar.[1] Yn wreiddiol, lawnsiwyd y sianel fel sianel teledu lloeren Arabeg ar gyfer newyddion a materion cyfoes Arabaidd, ond bellach mae Al Jazeera wedi ehangu i fod yn rhwydwaith gyda nifer o ganghennau gan gynnwys safle gwe a sianeli teledu arbenigol mewn amryw o ieithoedd ac mewn sawl rhan o'r byd, yn cynnwys Saesneg.

Perchennog Al Jazeera yw Llywodraeth Qatar.[2][3][4][5][6] Er hyn, cadarnhaodd swyddogion y sianel ar nifer o achosion eu bônt yn annibynol eu barn o'r Llywodraeth.

Cafodd y sianel sylw'r byd yn dilyn ymosodiadau Medi'r 11eg, 2001 pan ddarlledodd ddatganiadau gan Osama bin Laden ac arweinwyr eraill al-Qaeda. Hi oedd yr unig sianel a ddarlledai o Affganistan yn anterth y rhyfela, a hynny'n fyw o'u swyddfeydd yn Affganistan.[7]

Erbyn heddiw mae'n un o'r sianeli teledu newyddion rhyngwladol mwyaf cyfarwydd a dylanwadol yn y byd.

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Y stafell newyddion.

Al Jazeera Saesneg

Yn 2003 fe huriodd y cwmni newyddiadurwyr Saesneg eu hiaith, gan gynnwys Afshin Rattansi,[8] a weithiai cyn hynny i'r rhaglen Today Programme y BBC. Ac ym Mawrth yr un flwyddyn, lansiodd ei wefan Saesneg.[9] Ar 4 Gorffennaf 2005 cyhoeddodd Al Jazeera wasanaeth lloeren newydd - un Saesneg ei iaith o'r enw Al Jazeera International.[10]

Mae'r ymgyrchydd gwleidyddol o'r Alban George Galloway yn cyfrannu'n rheolaidd i'r sianel drwy ei raglen wythnosol.

Cychwynodd y sianel newydd hwn ar ei waith am 12.00 (GMT) ar 15 Tachwedd 2006 o dan yr enw Al Jazeera English, gyda'i ganolfanau darlledu yn Doha (y drws nesa i'r pencadlys gwreiddiol), Llundain, Kuala Lumpur a Washington, D.C.. Mae'n sianel newyddion 24 awr, 7-dydd yr wythnos , gyda 12 awr yn cael ei darlledu o Doha, a phedair awr yr un o Lundain, Kuala Lumpur a Washington.

Al Jazeera America

Yn Ionawr 2013, prynnodd Al Jazeera Media Network cyn gwmni Al Gore, sef Current TV a thrwy hynny lansiwyd Al Jazeera yn yr Unol Daleithiau yn Awst 2013.[11]

Argaeledd

Yng ngwledydd Prydain ac Iwerddon, mae Al Jazeera ar gael ar lwyfan Sky a Freesat yn ogystal ag ar deledu daearol digidol. Ar 26 Tachwedd 2013 lansiodd y cwmni rai sianeli HD ar rai o'u trosglwydyddion.[12] Gellir derbyn Al Jazeera am ddim drwy Ewrop, hanner gogleddol Affrica a'r Dwyrain Canol gyda derbynydd DVB-S gan ei fod yn cael ei darlledu o loerennau Astra 1M, Eutelsat Hot Bird 13A, Eutelsat 10A, Badr 4, Turksat 2A, Thor 6, Nilesat 102, Hispasat 1C ac Eutelsat 28A. Mae'r lloeren Optus C1 yn ei darlledu hefyd yn Awstralia.

Galeri fideo

Ceir cofnod fideo manwl a chynhwysfawr o Ryfel Affganistan (a nifer o ryfeloedd a digwyddiadau eraill) ar Comin Wikimedia; dyma enghreifftiau:

Diwrnod 12 / 7 Ionawr 2009 (de/es/nl/pl)
Diwrnod 13 / 8 Ionawr 2009 (de/es/nl/pl)
Diwrnod 14 / 9 Ionawr 2009 (de/es/nl/pl)
Diwrnod 15 / 10 Ionawr 2009 (de/pl)
Diwrnod 16 / 11 Ionawr 2009 (de/pl)

Cyfeiriadau

  1. Habib Toumi (13 Gorffennaf 2011). "Al Jazeera turning into private media organisation". Gulf News. Cyrchwyd 8 Ionawr 2013.
  2. DOCTOR OF PHILOSOPHY(COMMUNICATION) Dissertation
  3. Al-Jazeera's political independence questioned amid Qatar intervention, The Guardian
  4. Deconstructing Al Jazeera and its paymasters Let us build pakistan
  5. Al-Jazeera Gets Rap as Qatar Mouthpiece Bloomberg
  6. Qatari-owned Al Jazeera America makes its debut Reuters
  7. Whitaker, Brian (7 Chwefror 2003). "Battle station". The Guardian. London. Cyrchwyd 26 Awst 2011.
  8. "Afshinrattansi.com". Afshinrattansi. Cyrchwyd 12 Ebrill 2012.
  9. aljazeera.com
  10. "Al Jazeera turns its signal West". Web.archive. 10 Gorffennaf 2005. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Gorffennaf 2005. Cyrchwyd 12 Ebrill 2012.
  11. Stelter, Brian (13 Ionawr 2012). "Current TV Finds a Good Number Within Its Tiny Ratings". new York Times. Cyrchwyd 9 Ebrill 2013.
  12. Al Jazeera (26 Tachwedd 2013). "Al Jazeera launches on Freeview HD". Cyrchwyd 26 Tachwedd 2013.