John Evans (I. D. Ffraid): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Geiriadur]]wr a chyfieithydd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''John Evans''' ([[1814]] - [[1875]]), sy'n fwy adnabyddus wrth ei lysenw '''I. D. Ffraid''' (hefyd: '''Adda Jones''').<ref name="Cydymaith">Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''</ref> |
[[Geiriadur]]wr a chyfieithydd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''John Evans''' ([[23 Gorffennaf]] [[1814]] - [[4 Mawrth]] [[1875]]), sy'n fwy adnabyddus wrth ei lysenw '''I. D. Ffraid''' (hefyd: '''Adda Jones''').<ref name="Cydymaith">Meic Stephens (gol.), ''Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru''</ref> |
||
==Bywgraffiad== |
==Bywgraffiad== |
Fersiwn yn ôl 19:49, 17 Chwefror 2014
Geiriadurwr a chyfieithydd Cymreig oedd John Evans (23 Gorffennaf 1814 - 4 Mawrth 1875), sy'n fwy adnabyddus wrth ei lysenw I. D. Ffraid (hefyd: Adda Jones).[1]
Bywgraffiad
Fe'i ganed ym mhlwyf Llansantffraid Glan Conwy yn yr hen Sir Ddinbych (rhan o Sir Conwy heddiw) yn 1814. O ran ei alwedigaeth roedd yn ddyn busnes pur llwyddianus a daeth yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd (er na fu'n weinidog ar gapel erioed). Daeth yn adnabyddus trwy Gymru fel cyfieithydd Paradise Lost John Milton (Coll Gwynfa, 1865).[1] Roedd hwn yn llyfr dylanwadol iawn yn ei gyfnod a ysbardunodd sawl bardd i gyfansoddi cerddi ar y mesur moel di-odl.[2]
Cefnogai'r ymgyrch dros ryddid addoliad ac ysgrifenodd gyfres hir o dros 500 o lythyrau ar hyn a phynciau eraill dan y llysenw "Adda Jones" a gyhoeddwyd yn Baner ac Amserau Cymru rhwng 1869 ac 1874.[1]
Llyfryddiaeth
- (cyfieithydd) Bywyd Turpin Leidr (1835). Hanes Dick Turpin.
- Geiriadur Saesneg-Cymraeg (1847)
- (golygydd a chyfranydd) Difyrrwch Bechgyn Glan Conwy (1855)
- (cyfieithydd) Coll Gwynfa (1865)
- Pennau Teuluol a'r Ysgol Sabothol (1870)