Tanganica: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
B nodyn eginyn
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 22:09, 8 Chwefror 2014

Baner Tanganyika

Gwladwriaeth yn Nwyrain Affrica oedd Tanganyika a enillodd annibyniaeth ar y Deyrnas Unedig ar 9 Rhagfyr 1961 dan statws un o frenhiniaethau'r Gymanwlad. Ynghynt yr oedd dan reolaeth Brydeinig fel Tiriogaeth Tanganyika, sef tiriogaeth ymddiriedol y Cenhedloedd Unedig o 1946 i 1961 a mandad Cynghrair y Cenhedloedd o 1922 i 1946, a chyn hynny yr oedd yn wladfa Almaenig. Daeth yn weriniaeth ar 9 Rhagfyr 1962, gan aros yn aelod o'r Gymanwlad. Unodd Tanganyika â Gweriniaeth Pobl Zanzibar a Pemba ar 26 Ebrill 1964 i ffurfio Gweriniaeth Unedig Tanganyika a Zanzibar, a elwir heddiw yn Weriniaeth Unedig Tanzania.

Julius Nyerere oedd Prif Weinidog Tanganyika yn ystod ei blwyddyn gyntaf o annibyniaeth, ac yna'n Arlywydd y wlad pan ddaeth yn weriniaeth.

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.