Comin Wicimedia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
gh Wicimedia DU |
||
Llinell 15: | Llinell 15: | ||
==Hawlfreintiau== |
==Hawlfreintiau== |
||
Dydy Comin Wikimedia ddim yn caniatau uwchlwythiadau o dan drwydded di-rydd, yn cynnwys trwyddedau sydd yn cyfyngu arferiadau masnachol o faterion, neu "fair use". Mae trwydded dderbyniol yn cynnwys y Drwydded Ddogfen Rydd GNU, amrywiadau [[Creative Commons]] heblaw cyfyngiadau ar arferiadau masnachol, a'r [[parth cyhoeddus]]. |
Dydy Comin Wikimedia ddim yn caniatau uwchlwythiadau o dan drwydded di-rydd, yn cynnwys trwyddedau sydd yn cyfyngu arferiadau masnachol o faterion, neu "fair use". Mae trwydded dderbyniol yn cynnwys y Drwydded Ddogfen Rydd GNU, amrywiadau [[Creative Commons]] heblaw cyfyngiadau ar arferiadau masnachol, a'r [[parth cyhoeddus]]. |
||
==Gweler hefyd== |
|||
*[[Wicimedia DU]] |
|||
==Cysylltiadau allanol== |
==Cysylltiadau allanol== |
Fersiwn yn ôl 10:56, 7 Chwefror 2014
Ystorfa rydd o ddelweddau, ffeiliau sain ac amlgyfrwng eraill yw Comin Wikimedia (Wikimedia Commons, hefyd "Commons" neu "Wikicommons"). Un o brosiectau Sefydliad Wikimedia yw hi, a gellir gweld prosiectau eraill Sefydliad Wikimedia, e.e. Wicipedia, Wiciadur a Wicilyfrau, yn defnyddio ffeiliau sydd wedi cael eu huwchlwytho i'r ystorfa fel ffeiliau lleol.
Hanes
Lansiodd y prosiect ar 7 Medi 2004. Ym mis Tachwedd 2004, cafodd y 10,000fed ffeil ei huwchlwytho.
Ar 25 Tachwedd 2009, rhoddodd y Tropenmuseum, Amsterdam rodd o 35,000 o ddelweddau sy'n ymwneud ag Indonesia a'i diwylliant i Gomin Wikimedia.
Ar ddiwedd Rhagfyr 2009 dechreuwyd trosglwyddo tua 1.5 miliwn o ddelweddau o dirwedd ac aneddiadau gwledydd Prydain o wefan geograph.or.uk i'r Comin.
Ieithoedd
Prif iaith y Comin yw Saesneg, ond mae'n bosibl ffurfweddu'r rhyngwyneb (yn newisiadau'r defnyddiwr) i ddefnyddio unrhyw iaith arall. Mae rhai o'r tudalennau wedi cael eu cyfieithu i mewn i ieithoedd eraill e.e. yr Hafan yn Gymraeg.
Hawlfreintiau
Dydy Comin Wikimedia ddim yn caniatau uwchlwythiadau o dan drwydded di-rydd, yn cynnwys trwyddedau sydd yn cyfyngu arferiadau masnachol o faterion, neu "fair use". Mae trwydded dderbyniol yn cynnwys y Drwydded Ddogfen Rydd GNU, amrywiadau Creative Commons heblaw cyfyngiadau ar arferiadau masnachol, a'r parth cyhoeddus.