Gwenhwyseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
{{Cymraeg}} |
{{Cymraeg}} |
||
[[Tafodieithoedd y Gymraeg|Tafodiaith Gymraeg]] [[Gwent]] a [[Morgannwg]] yw '''y Wenhwyseg'''. Daw'r enw o'r term ar hen drigolion yr ardal, ''y Gwennwys''. Roedd yn cael ei siarad o [[Abertawe]] yn y gorllewin i [[Trefynwy|Drefynwy]] yn y dwyrain. Mae'r dafodiaith hon |
[[Tafodieithoedd y Gymraeg|Tafodiaith Gymraeg]] [[Gwent]] a [[Morgannwg]] yw '''y Wenhwyseg'''. Daw'r enw o'r term ar hen drigolion yr ardal, ''y Gwennwys''. Roedd yn cael ei siarad o [[Abertawe]] yn y gorllewin i [[Trefynwy|Drefynwy]] yn y dwyrain. Mae'r dafodiaith hon wedi colli tir yn sylweddol hyd at ddifancoll oherwydd twf yr iaith [[Saesneg]] yn yr ardal a bod y Cymry wedi troi cefn arni ac yn fwy ddiweddar am fod iaith [[Cymraeg]] safonol y De yn cael ei sylfaenu ar y [[Dyfedeg|Ddyfedeg]] yn ysgolion Cymraeg y De. |
||
Mae sawl nodwedd yn dangos y gwahaniaeth rhwng Gwenhwyseg fel y'i siaredid yng nghanol a dwyrain Morgannwg a Chymraeg safonol: defnydd o eiriau lleol, yr ''æ'' fain, caledu'r [[cytsain]] (b,d,g) o dan rai amgylchiadau penodol, prinder ''ch'' ar ddechrau gair ac ymwrthod a'r ffonem ''h'' oni ddynodir pwyslais, sylweddoli ''ae'' ac ''au'' gan ''a'' yn y sillaf olaf a bod y 'frawddeg annormal' yn norm yn rhai o is-dafodieithoedd y Wenhwyseg. |
Mae sawl nodwedd yn dangos y gwahaniaeth rhwng Gwenhwyseg fel y'i siaredid yng nghanol a dwyrain Morgannwg a Chymraeg safonol: defnydd o eiriau lleol, yr ''æ'' fain, caledu'r [[cytsain]] (b,d,g) o dan rai amgylchiadau penodol, prinder ''ch'' ar ddechrau gair ac ymwrthod a'r ffonem ''h'' oni ddynodir pwyslais, sylweddoli ''ae'' ac ''au'' gan ''a'' yn y sillaf olaf a bod y 'frawddeg annormal' yn norm yn rhai o is-dafodieithoedd y Wenhwyseg. |
Fersiwn yn ôl 18:04, 23 Ionawr 2014
Cymraeg | ||||||||||
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar | ||||||||||
y Gymraeg
| ||||||||||
Tafodiaith Gymraeg Gwent a Morgannwg yw y Wenhwyseg. Daw'r enw o'r term ar hen drigolion yr ardal, y Gwennwys. Roedd yn cael ei siarad o Abertawe yn y gorllewin i Drefynwy yn y dwyrain. Mae'r dafodiaith hon wedi colli tir yn sylweddol hyd at ddifancoll oherwydd twf yr iaith Saesneg yn yr ardal a bod y Cymry wedi troi cefn arni ac yn fwy ddiweddar am fod iaith Cymraeg safonol y De yn cael ei sylfaenu ar y Ddyfedeg yn ysgolion Cymraeg y De.
Mae sawl nodwedd yn dangos y gwahaniaeth rhwng Gwenhwyseg fel y'i siaredid yng nghanol a dwyrain Morgannwg a Chymraeg safonol: defnydd o eiriau lleol, yr æ fain, caledu'r cytsain (b,d,g) o dan rai amgylchiadau penodol, prinder ch ar ddechrau gair ac ymwrthod a'r ffonem h oni ddynodir pwyslais, sylweddoli ae ac au gan a yn y sillaf olaf a bod y 'frawddeg annormal' yn norm yn rhai o is-dafodieithoedd y Wenhwyseg.
Geiriau a ffurfiau lleol
Fel pob rhan arall o Gymru, ceir sawl gair lleol sy'n cael ei ddefnyddio bob dydd.
Gair Gwenhwyseg | Gair Safonol | Gair y De | Gair y Gogledd | Datblygiad |
---|---|---|---|---|
Bopa | Modryb | - | - | - |
Nawr | - | Nawr | Rwan | Yn yr awr > Yn awr > Nawr |
Wlîa | Siarad | - | - | Chwedleua > Wedleua > Wlîa |
Gwenhwyseg yw'r unig dafodiaith Gymraeg i gadw'r ffurf hynafol -ws terfynol yn y Trydydd Person Modd Gorffennol (mae pob tafodiaith arall yn defnyddio -odd yn yr un lle). Ceir enghreifftiau o'r ffurf yma yn Y Gododdin, e.e. "Gwyr a aeth Gatraeth gan wawr, Dygymyrrws eu hoed eu hanianawr" yn lle "...Dygymyrrodd..." ac ati.
Yr æ fain
- Prif: Yr A Fain
Un o nodweddion y Wenhwyseg yn nwyrain a chanol Morgannwg a chyn belled ã Dyffryn Afan yw'r newidiad yn y llafariad a hir i'r ddeusain æʌ:
"ə tæʌd ar mæʌb ar əsbrɪd glæʌn'" yn lle "y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân".
Newidir y ddeusain 'ae' yn yr un ffordd:
'Cymraeg' - 'kəmræʌg' 'traed' - 'træʌd' 'cae' - 'kæʌ'
Deusain yw hon sydd yn amrywio rhyw ychydig dros diriogaeth y Wenhwyseg (llafariad bur æ yw hi mewn rhai ardaloedd). Ni ddigwydd y nodwedd hon mewn geiriau unsill ag [a] fer fel 'mam' a 'naw' fel sydd yn digwydd yn rhai o dafodieithoedd Maldwyn.
Gair Gwenhwyseg | Gair Safonol |
---|---|
Cæth | Cath |
Cymræg | Cymraeg |
Mæb | Mab |
Tæd | Tad |
Caledu'r cytseiniaid: b d g > p t c
Mae calediad y cytseiniaid b/ d / g yn nodwedd amlwg o'r Wenhwyseg ond nid yr un geiriau a galedir ym mhob tafodiaith. Gellir bod yn nodwedd gryfach mewn un ardal nag un arall er bod yr un amodau cyd-destunol priodol yn bodoli.
Gair Gwenhwyseg | Gair Safonol |
---|---|
Catar | Cadair |
Catw | Cadw |
Patall | Padell |
gwpod | gwybod |
dicon | digon |
Colli ch a h
Yn y Wenhwyseg, mae pobl yn anfodlon iawn i ddefnyddio'r sŵn ch neu h, ac felly mae sawl gair yn colli'r sŵn hwnnw, e.e. chwarae > hwarae > hwara > wara (fel "wara teg") ac hwn, hwwna, hon, honna, hyn a hynny.
Defnyddio a yn lle e olaf
Mae'n gyffredinol o lafar y De i golli'r cytseiniol i ar ddechrau sillaf derfynol, ac hefyd yn y De-ddwyrain y e olaf i troi i a. Yr un peth yn digwydd i synau tebyg fel ai ac au.
Gair Gwenhwyseg | Gair Safonol | Datblygiad |
---|---|---|
Bedda | Beddau | - |
Camsynad | Camsynied | - |
Catar | Cadair | - |
Sgitsha | Esgidiau | Esgidiau > sgitsha |
Defnyddio w yn lle o o
Gair Gwenhwyseg | Gair Safonol |
---|---|
Hewl | Heol |
Defnyddio geiriau benthyg o Saesneg
Gair Gwenhwyseg | Gair Safonol | Gair Saesneg |
---|---|---|
dandjeris | peryglus | dangerous |
sgrego | - | to scrag (to strangle) |
sgrimpo | bod yn grintachlyd | to scrimp |
shimpil | twp | simple minded |
Enwau llefydd lleol
Am y rhesymau a nodir uchod, mae'r Wenhwyseg yn newid yr ynganiad yn achos rhai enwau llefydd lleol. Yn aml, mae ynganiad y dafodiaith Saesneg leol yn agosach at y Wenhwyseg nag at yr ynganiad Cymraeg safonol.
Gair Gwenhwyseg | Gair Safonol | Datblygiad |
---|---|---|
Bedda | Beddau | y ddeusain au yn cael ei hynganu fel a |
Braman | Aberaman | Aberaman > Beraman > Braman |
Brocwr | Aberogwr | Aberogwr > Aberocwr > Berocwr > Brocwr |
Ocwr | Ogwr | - |
Abardæʌr | Aberdar | - |
Dylanwad ar dafodiaith Saesneg yr ardal
Mae'r Wenhwyseg wedi cael effaith ar y Saesneg sy'n cael ei siarad yn yr ardal hefyd, gyda siaradwyr Saesneg yn defnyddio geiriau a chystrawen Cymraeg (gweler Wenglish), e.e. What is on her? (Beth sydd arni?); You can count on 'er wen there's taro.[1]
Mae nodweddion y Wenhwyseg i'w clywed yn y tafodieithoedd Saesneg lleol hefyd, yn enwedig yn ardal Caerdydd a'r Cymoedd. Yng Nghaerdydd, defnyddir ae yn lle a yn gyffredinol iawn, fel yn yr ymadrodd "Cærdiff Ærms Pærk" ('Cardiff Arms Park'). Fel arfer, dydy pobl y Cymoedd ddim yn defnyddio'r llythyren h, felly yngenir y geiriau Saesneg "Years", "Ears" ac "Hears" yr un fath, h.y. fel ïrs.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
Dolen allanol
- Gwefan Cymru-Catalonia: Y Wenhwyseg
- Language Obsolescence and Revitalization: Linguistic Change in Two Sociolinguistically Contrasting Welsh Communities gan Mari C. Jones
- (Wedi torri) Gwefan Cymru-Catalonia: Y Wenhwyseg