Gwenhwyseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 21: Llinell 21:
== Yr ''a'' fain ==
== Yr ''a'' fain ==
{{Main|Yr A Fain}}
{{Main|Yr A Fain}}
Un o nodweddion y Wenhwyseg yw'r newidiad yn y [[llafariad]] '''[[a]]''' hir i'r [[deusain|ddeusain]] '''æʌ''' e.e. "y 'Tæʌd' a'r Mæʌb' a'r Ysbryd 'Glæʌn'" yn lle "y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân". Newidir y ddeusain 'ae' yn yr un ffordd, e.e. 'Cymraeg' - 'Cymræʌg', 'traed' - 'træʌd', 'cae' - 'cæʌ'. Deusain yw hon sydd yn amrywio rhyw ychydig dros diriogaeth y Wenhwyseg (llafariad bur æ yw hi mewn rhai ardaloedd) ac nid yr un sain yw hi ag a geir mewn geiriau megis 'pen', 'pren', 'pert' ayb. Ni ddigwydd y nodwedd hon mewn geiriau unsill ag [a] fyr fel 'mam' a 'naw' fel sydd yn digwydd yn rhai o dafodieithoedd [[Maldwyn]].
Un o nodweddion y Wenhwyseg yn nwyrain a chanol Morgannwg a chyn belled ã Dyffryn Afan yw'r newidiad yn y [[llafariad]] '''[[a]]''' hir i'r [[deusain|ddeusain]] '''æʌ''' e.e. "y 'Tæʌd' a'r Mæʌb' a'r Ysbryd 'Glæʌn'" yn lle "y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân". Newidir y ddeusain 'ae' yn yr un ffordd, e.e. 'Cymraeg' - 'Cymræʌg', 'traed' - 'træʌd', 'cae' - 'cæʌ'. Deusain yw hon sydd yn amrywio rhyw ychydig dros diriogaeth y Wenhwyseg (llafariad bur æ yw hi mewn rhai ardaloedd) ac nid yr un sain yw hi ag a geir mewn geiriau megis 'pen', 'pren', 'pert' ayb. Ni ddigwydd y nodwedd hon mewn geiriau unsill ag [a] fyr fel 'mam' a 'naw' fel sydd yn digwydd yn rhai o dafodieithoedd [[Maldwyn]].


{| border="1" class = "wikitable"
{| border="1" class = "wikitable"

Fersiwn yn ôl 12:46, 23 Ionawr 2014

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Tafodiaith Gymraeg Gwent a Morgannwg yw y Wenhwyseg. Daw'r enw o'r term ar hen drigolion yr ardal, y Gwennwys. Roedd yn cael ei siarad o Abertawe yn y gorllewin i Drefynwy yn y dwyrain. Mae'r dafodiaith hon yn dechrau dod yn brinnach gyda thwf yr iaith Saesneg yn yr ardal a gyda iaith Cymraeg safonol y De yn cael ei sylfaenu ar y Ddyfedeg oherwydd bod pobl yn meddwl ei bod yn fwy cywir gyda llai o eiriau benthyg o Saesneg.

Mae sawl nodwedd yn dangos y gwahaniaeth rhwng Gwenhwyseg a Chymraeg safonol: defnyddio geiriau lleol, sef yr a fain, caledu'r cytsain yng nghanol geiriau, colli ch a h, defnyddio a yn lle ai neu au a defnyddio mwy o eiriau benthyg o Saesneg. Mae llawer o fyrfoddau llafar yn cael eu defnyddio yn lleol am enwau llefydd lleol hefyd.

Geiriau a ffurfiau lleol

Fel pob rhan arall o Gymru, ceir sawl gair lleol sy'n cael ei ddefnyddio bob dydd.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Gair y De Gair y Gogledd Datblygiad
Bopa Modryb - - -
Nawr - Nawr Rwan Yn yr awr > Yn awr > Nawr
Wlîa Siarad - - Chwedleua > Wedleua > Wlîa

Gwenhwyseg yw'r unig dafodiaith Gymraeg i gadw'r ffurf hynafol -ws terfynol yn y Trydydd Person Modd Gorffennol (mae pob tafodiaith arall yn defnyddio -odd yn yr un lle). Ceir enghreifftiau o'r ffurf yma yn Y Gododdin, e.e. "Gwyr a aeth Gatraeth gan wawr, Dygymyrrws eu hoed eu hanianawr" yn lle "...Dygymyrrodd..." ac ati.

Yr a fain

Prif: Yr A Fain

Un o nodweddion y Wenhwyseg yn nwyrain a chanol Morgannwg a chyn belled ã Dyffryn Afan yw'r newidiad yn y llafariad a hir i'r ddeusain æʌ e.e. "y 'Tæʌd' a'r Mæʌb' a'r Ysbryd 'Glæʌn'" yn lle "y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân". Newidir y ddeusain 'ae' yn yr un ffordd, e.e. 'Cymraeg' - 'Cymræʌg', 'traed' - 'træʌd', 'cae' - 'cæʌ'. Deusain yw hon sydd yn amrywio rhyw ychydig dros diriogaeth y Wenhwyseg (llafariad bur æ yw hi mewn rhai ardaloedd) ac nid yr un sain yw hi ag a geir mewn geiriau megis 'pen', 'pren', 'pert' ayb. Ni ddigwydd y nodwedd hon mewn geiriau unsill ag [a] fyr fel 'mam' a 'naw' fel sydd yn digwydd yn rhai o dafodieithoedd Maldwyn.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol
Cæth Cath
Cymræg Cymraeg
Mæb Mab
Tæd Tad

Caledu'r cytsain yng nghanol geiriau

Yn y Gymraeg safonol, mae'r treiglad meddal yn meddalau'r cytsain yng nghanol gair. Ond yn y Wenhwyseg ceir sŵn mwy caled yng nghanol llawer o eiriau.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol
Catar Cadair
Catw Cadw
Patall Padell
gwpod gwybod
dicon digon

Colli ch a h

Yn y Wenhwyseg, mae pobl yn anfodlon iawn i ddefnyddio'r sŵn ch neu h, ac felly mae sawl gair yn colli'r sŵn hwnnw, e.e. chwarae > hwarae > hwara > wara (fel "wara teg") ac hwn, hwwna, hon, honna, hyn a hynny.

Defnyddio a yn lle e olaf

Mae'n gyffredinol o lafar y De i golli'r cytseiniol i ar ddechrau sillaf derfynol, ac hefyd yn y De-ddwyrain y e olaf i troi i a. Yr un peth yn digwydd i synau tebyg fel ai ac au.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Datblygiad
Bedda Beddau -
Camsynad Camsynied -
Catar Cadair -
Sgitsha Esgidiau Esgidiau > sgitsha

Defnyddio w yn lle o o

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol
Hewl Heol

Oherwydd absenoldeb y sain o yn y Wenhwyseg, roedd dynion hŷn yr ardal yn stryglo i ddweud geiriau Saesneg fel "Edward Woodwood" gan ei ynganu'n fwy fel "Edwd Wdwd".

Defnyddio geiriau benthyg o Saesneg

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Gair Saesneg
dandjeris peryglus dangerous
sgrego - to scrag (to strangle)
sgrimpo bod yn grintachlyd to scrimp
shimpil twp simple minded

Enwau llefydd lleol

Am y rhesymau a nodir uchod, mae'r Wenhwyseg yn newid yr ynganiad yn achos rhai enwau llefydd lleol. Yn aml, mae ynganiad y dafodiaith Saesneg leol yn agosach at y Wenhwyseg nag at yr ynganiad Cymraeg safonol.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Datblygiad
Bedda Beddau y ddeusain au yn cael ei hynganu fel a
Braman Aberaman Aberaman > Beraman > Braman
Brocwr Aberogwr Aberogwr > Aberocwr > Berocwr > Brocwr
Ocwr Ogwr -
Abardæʌr Aberdar -

Dylanwad ar dafodiaith Saesneg yr ardal

Mae'r Wenhwyseg wedi cael effaith ar y Saesneg sy'n cael ei siarad yn yr ardal hefyd, gyda siaradwyr Saesneg yn defnyddio geiriau a chystrawen Cymraeg (gweler Wenglish), e.e. What is on her? (Beth sydd arni?); You can count on 'er wen there's taro.[1]

Mae nodweddion y Wenhwyseg i'w clywed yn y tafodieithoedd Saesneg lleol hefyd, yn enwedig yn ardal Caerdydd a'r Cymoedd. Yng Nghaerdydd, defnyddir ae yn lle a yn gyffredinol iawn, fel yn yr ymadrodd "Cærdiff Ærms Pærk" ('Cardiff Arms Park'). Fel arfer, dydy pobl y Cymoedd ddim yn defnyddio'r llythyren h, felly yngenir y geiriau Saesneg "Years", "Ears" ac "Hears" yr un fath, h.y. fel ïrs.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol