Gwenhwyseg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 100: Llinell 100:
!Gair Gwenhwyseg!!Gair Safonol!!Datblygiad
!Gair Gwenhwyseg!!Gair Safonol!!Datblygiad
|-
|-
|Bedda||Beddau||'''au''' wedi cael ei cynaniad fel '''a'''
|Bedda||Beddau||'''au''' y ddeusain yn cael ei hynganu fel '''a'''
|-
|-
|Braman||Aberaman||Aberaman > Beraman > Braman
|Braman||Aberaman||Aberaman > Beraman > Braman

Fersiwn yn ôl 12:30, 23 Ionawr 2014

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Tafodiaith Gymraeg Gwent a Morgannwg yw y Wenhwyseg. Daw'r enw o'r term ar hen drigolion yr ardal, y Gwennwys. Roedd yn cael ei siarad o Abertawe yn y gorllewin i Drefynwy yn y dwyrain. Mae'r dafodiaith hon yn dechrau dod yn brinnach gyda thwf yr iaith Saesneg yn yr ardal a gyda iaith Cymraeg safonol y De yn cael ei sylfaenu ar y Ddyfedeg oherwydd bod pobl yn meddwl ei bod yn fwy cywir gyda llai o eiriau benthyg o Saesneg.

Mae sawl nodwedd yn dangos y gwahaniaeth rhwng Gwenhwyseg a Chymraeg safonol: defnyddio geiriau lleol, sef yr a fain, caledu'r cytsain yng nghanol geiriau, colli ch a h, defnyddio a yn lle ai neu au a defnyddio mwy o eiriau benthyg o Saesneg. Mae llawer o fyrfoddau llafar yn cael eu defnyddio yn lleol am enwau llefydd lleol hefyd.

Geiriau a ffurfiau lleol

Fel pob rhan arall o Gymru, ceir sawl gair lleol sy'n cael ei ddefnyddio bob dydd.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Gair y De Gair y Gogledd Datblygiad
Bopa Modryb - - -
Nawr - Nawr Rwan Yn yr awr > Yn awr > Nawr
Wlîa Siarad - - Chwedleua > Wedleua > Wlîa

Gwenhwyseg yw'r unig dafodiaith Gymraeg i gadw'r ffurf hynafol -ws terfynol yn y Trydydd Person Modd Gorffennol (mae pob tafodiaith arall yn defnyddio -odd yn yr un lle). Ceir enghreifftiau o'r ffurf yma yn Y Gododdin, e.e. "Gwyr a aeth Gatraeth gan wawr, Dygymyrrws eu hoed eu hanianawr" yn lle "...Dygymyrrodd..." ac ati.

Yr a fain

Prif: Yr A Fain

Un o nodweddion y Wenhwyseg yw'r newidiad yn y llafariad a hir i'r ddeusain æʌ e.e. "y 'Tæʌd' a'r Mæʌb' a'r Ysbryd 'Glæʌn'" yn lle "y Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân". Newidir y ddeusain 'ae' yn yr un ffordd, e.e. 'Cymraeg' - 'Cymræʌg', 'traed' - 'træʌd', 'cae' - 'cæʌ'. Deusain yw hon sydd yn amrywio rhyw ychydig dros diriogaeth y Wenhwyseg (llafariad bur æ yw hi mewn rhai ardaloedd) ac nid yr un sain yw hi ag a geir mewn geiriau megis 'pen', 'pren', 'pert' ayb. Ni ddigwydd y nodwedd hon mewn geiriau unsill ag [a] fyr fel 'mam' a 'naw' fel sydd yn digwydd yn rhai o dafodieithoedd Maldwyn.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol
Cæth Cath
Cymræg Cymraeg
Mæb Mab
Tæd Tad

Caledu'r cytsain yng nghanol geiriau

Yn y Gymraeg safonol, mae'r treiglad meddal yn meddalau'r cytsain yng nghanol gair. Ond yn y Wenhwyseg ceir sŵn mwy caled yng nghanol llawer o eiriau.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol
Catar Cadair
Catw Cadw
Patall Padell
gwpod gwybod
dicon digon

Colli ch a h

Yn y Wenhwyseg, mae pobl yn anfodlon iawn i ddefnyddio'r sŵn ch neu h, ac felly mae sawl gair yn colli'r sŵn hwnnw, e.e. chwarae > hwarae > hwara > wara (fel "wara teg") ac hwn, hwwna, hon, honna, hyn a hynny.

Defnyddio a yn lle e olaf

Mae'n gyffredinol o lafar y De i golli'r cytseiniol i ar ddechrau sillaf derfynol, ac hefyd yn y De-ddwyrain y e olaf i troi i a. Yr un peth yn digwydd i synau tebyg fel ai ac au.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Datblygiad
Bedda Beddau -
Camsynad Camsynied -
Catar Cadair -
Sgitsha Esgidiau Esgidiau > sgitsha

Defnyddio w yn lle o o

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol
Hewl Heol

Oherwydd absenoldeb y sain o yn y Wenhwyseg, roedd dynion hŷn yr ardal yn stryglo i ddweud geiriau Saesneg fel "Edward Woodwood" gan ei ynganu'n fwy fel "Edwd Wdwd".

Defnyddio geiriau benthyg o Saesneg

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Gair Saesneg
dandjeris peryglus dangerous
sgrego - to scrag (to strangle)
sgrimpo bod yn grintachlyd to scrimp
shimpil twp simple minded

Enwau llefydd lleol

Am y rhesymau a nodir uchod, mae'r Wenhwyseg yn newid yr ynganiad yn achos rhai enwau llefydd lleol. Yn aml, mae'r ynganiad tafodiaith Saesneg leol yn agosach i'r Wenhwyseg na'r ynganiad Cymraeg safonol.

Gair Gwenhwyseg Gair Safonol Datblygiad
Bedda Beddau au y ddeusain yn cael ei hynganu fel a
Braman Aberaman Aberaman > Beraman > Braman
Brocwr Aberogwr Aberogwr > Aberocwr > Berocwr > Brocwr
Ocwr Ogwr -
Abardæʌr Aberdar -

Dylanwad ar dafodiaith Saesneg yr ardal

Mae'r Wenhwyseg wedi cael effaith ar y Saesneg sy'n cael ei siarad yn yr ardal hefyd, gyda siaradwyr Saesneg yn defnyddio geiriau a chystrawen Cymraeg (gweler Wenglish), e.e. What is on her? (Beth sydd arni?); You can count on 'er wen there's taro.[1]

Ceir nodweddion yr ynganiad Gwenhwyseg yn y dafodiaith Saesneg leol hefyd, yn enwedig yn ardal Caerdydd a'r Cymoedd. Yng Nghaerdydd, defnyddir ae yn lle a yn gyffredinol iawn, fel yn yr ymadrodd "Cærdiff Ærms Pærk" ('Cardiff Arms Park'). Fel arfer, dydy pobl y Cymoedd ddim yn defnyddio'r llythyren h, felly yngenir y geiriau Saesneg "Years", "Ears" ac "Hears" yr un fath, h.y. fel ïrs.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol