Cwmni Recordiau Sain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 52: Llinell 52:
[[Categori:Economi Gwynedd]]
[[Categori:Economi Gwynedd]]
[[Categori:Labeli Recordio]]
[[Categori:Labeli Recordio]]
[[Categori:Llandwrog]]
[[Categori:Sefydliadau 1969]]
[[Categori:Sefydliadau 1969]]

Fersiwn yn ôl 00:04, 14 Ionawr 2014

Cwmni Recordiau Sain
Rhiant gwmni Cwmni Recordiau Sain yw rhiant gwmni label Sain, Rasal, Crai a Slic.
Sefydlwyd 1969
Sylfaenydd Dafydd Iwan, Huw Jones, a Brian Morgan Edwards
Math o gerddoriaeth Clasurol, corawl, gwerin/byd, poblogaidd, gwlad, plant
Gwlad Cymru
Gwefan swyddogol www.sain.wales.com

Cwmni recordio a sefydlwyd yn 1969 gan Dafydd Iwan, Huw Jones, a Brian Morgan Edwards yng Nghaerdydd yw Cwmni Recordiau Sain.

Dyddiau cynnar

Y sengl cyntaf i'r cwmni ryddhau oedd Dŵr gan Huw Jones yn Hydref 1969, cân am foddi Cwm Tryweryn.

Symudwyd swyddfa'r cwmni o Gaerdydd i Landwrog, ger Caernarfon, yn 1970 er mwyn i'r cwmni fod yn nes i'r gynulleidfa Gymraeg ac fel rhan o'r mudiad i ddechrau busnesau yn y Gymru Gymraeg wledig. Roedd y ddau gyfarwyddwr gweithredol, Huw Jones a Dafydd Iwan, hefyd yn awyddus i godi eu plant mewn ardal Gymraeg, a sefydlodd y naill yn Llandwrog a'r llall yn y Waunfawr.

Yn 1973 symudodd y cwmni i Stad Ddiwydiannol Pen-y-groes, a dechrau cyflogi staff ychwanegol. Recordiau sengl ac EP oedd yr unig gynnyrch hyd yn hyn, ond yn awr dechreuwyd cynhyrchu recordiau hir. O ran y deunydd, roedd y pwyslais o hyd ar ganu'r ifanc, canu pop, canu gwerin a phrotest.

Yn 1975 agorwyd stiwdio gyntaf SAIN ar fferm Gwernafalau ger Llandwrog, ac ymunodd Hefin Elis â'r staff fel cynhyrchydd.

1975 - 1979 oedd "cyfnod aur" Stiwdio Gwernafalau, gyda dros 100 o recordiau hir yn dod o'r stiwdio 8-trac. Erbyn hyn, yr oedd nifer o grwpiau roc a gwerin wedi dechrau yng Nghymru, a bandiau fel Edward H. Dafis wedi rhoi i ieuenctid Cymru eu "diwylliant roc" eu hunain. Artistiaid amlwg y cyfnod hwn ar label SAIN oedd Hergest a Delwyn Siôn, Geraint Jarman, Heather Jones, Meic Stevens, Tecwyn Ifan, Mynediad am Ddim ac Emyr Huws Jones, Endaf Emlyn, Injaroc, Brân, Shwn, Eliffant, Ac Eraill a Sidan.

Roedd Dafydd Iwan yn parhau i ddenu tyrfaoedd gyda'i ganeuon personol gwleidyddol, a SAIN yn parhau i fod â chysylltiad amlwg â'r deffroad cenedlaethol a diwylliannol-ieithyddol a ddechreuodd yng Nghymru yn y 1960au. Roedd nifer o artistiaid SAIN yn canu am bynciau gwleidyddol a chenedlaethol Cymreig, ac hefyd yn flaenllaw yn y mudiad cenedlaethol gwleidyddol. Enillodd Plaid Cymru ei seddau cyntaf yn San Steffan yn 1966 (Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin) a 1974.

Trebor Edwards a Hogia'r Wyddfa oedd y ddau enw mwyaf poblogaidd yn y canu "canol-y-ffordd", yn ogystal â grwpiau eraill fel Hogia Llandegai a Tony ac Aloma. Gwerthiant recordiau'r artistiaid hyn, a recordiau corau meibion, oedd asgwrn cefn y cwmni.

Yr wythdegau

Agorwyd Stiwdio SAIN, gydag offer 24-trac ar ei safle bresennol yn 1980. Ar y pryd, yr oedd hi gyda'r mwyaf modern o'i bath yn Ewrop, ac yr oedd gan y cwmni hefyd Stiwdio Deithiol 8-trac. Symudwyd y swyddfeydd o Ben-y-groes i'r un safle â'r Stiwdio yn 1982. Erbyn hyn yr oedd 15 o bobl yn gweithio'n amser-llawn i'r cwmni.

Aeth Huw Jones i fyd y teledu yn fuan ar ôl sefydlu'r stiwdio newydd, a bu'n gyfrifol am sefydlu cwmni adnoddau Barcud a chwmni cynhyrchu Tir Glas ar gyfer sianel deledu newydd S4C. Yn fuan wedyn, wedi 10 mlynedd gynhyrchiol, aeth Hefin Elis yntau i fyd y teledu , er iddo barhau i gynhyrchu recordiau i SAIN.

Cymerwyd lle Hefin Elis fel cynhyrchydd staff gan Gareth Hughes Jones, ac yna gan Emyr Rees. Cynhyrchwyr eraill a fu'n gyfrifol am rai o recordiau SAIN yw Tudur Morgan, Les Morrison, Simon Tassano, Donal Lunny, Euros Rhys, Steffan Rees, Gareth Glyn, Geraint Cynan, Myfyr Isaac, Annette Bryn Parri, a'r diweddar Gareth Mitford Williams.

Yn 1987, agorwyd Stiwdio 2 yng Nghanolfan SAIN, sydd bellach â'r gallu i olygu'n ddigidol, a chynhyrchu Cryno-Ddisgiau. Mae llawer o waith aml-gyfryngol yn digwydd yno bellach, wrth i SAIN ddatblygu cysylltiadau â'r byd teledu, ffilm a fideo.

Y cwmni ar werth

Yn Rhagfyr 2012 cyhoeddwyd fod y cwmni ar werth. Maent am sicrhau y cedwir y cwmni yn weithredol fel ag y mae, ac am osgoi gwerthu i rywun fyddai ond a diddordeb yn yr ôl-gatalog a'r hawlfreintiau.[1]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol