Bwlch y Gorddinen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
* (Saesneg) [http://www.publications.parliament.uk/pa/ld199495/ldhansrd/vo950209/text/50209-27.htm Dogfen am y carcharorion rhyfel] |
* (Saesneg) [http://www.publications.parliament.uk/pa/ld199495/ldhansrd/vo950209/text/50209-27.htm Dogfen am y carcharorion rhyfel] |
||
[[Categori:Bylchau |
[[Categori:Bylchau Conwy|Gorddinen]] |
||
[[Categori:Daearyddiaeth Conwy]] |
|||
[[Categori:Dolwyddelan]] |
[[Categori:Dolwyddelan]] |
||
[[Categori:Eryri]] |
[[Categori:Eryri]] |
Fersiwn yn ôl 22:34, 10 Ionawr 2014
Y mae Bwlch y Gorddinan, a adnabyddir yn ogystal fel Y Crimea (Saesneg: The Crimea Pass), yn fwlch mynyddig yng ngogledd Cymru, ar lôn yr A470 rhwng Blaenau Ffestiniog i'r de a Dolwyddelan i'r gogledd. Mae pen y bwlch yn gorwedd yn sir Conwy ond mae'n disgyn i sir Gwynedd ar yr ochr arall, i'r de. Gorwedd y bwlch ar sawdl rhwng Moel Penamnen a Moel Farlwyd i'r dwyrain a Moel Ddyrnogydd i'r gorllewin.
Yn ei fan uchaf mae'r bwlch yn gorwedd 385m (1,262 troedfedd) uwch lefel y môr, ac mae'r ffordd drosto yn cael ei chau gan eira yn y gaeaf weithiau. Ar un adeg bu tafarn ar ben y bwlch. Mae'r tir yn agored ar ochr Dyffryn Lledr, ond mae'r ffordd yn disgyn yn serth i'r de i lawr i'r Blaenau trwy domenni llechi gwastraff trawiadol Chwarel Llechwedd. Mae'r daith i'r de dros y Bwlch yn adlewyrchu oes aur y diwydiant llechi ym Mlaenau Ffestiniog, gyda degau o chwareli, yn cynnwys Gloddfa Ganol, Tal y Waenydd a'r Llechwedd yn creithio'r Moelwynion.
Er bod Bwlch y Gorddinan yn enw hen, gelwir y bwlch (Y) Crimea neu Pas Crimea ar lafar. Mae'r enw hwnnw yn dyddio o gyfnod Rhyfel Crimea, a ymladdwyd tua'r amser yr agorwyd y ffordd fodern dros y bwlch, yn 1854. Yn ôl traddodiad, codwyd nifer o'r waliau cerrig ger y bwlch gan garcharorion rhyfel o Rwsia a gawsant eu dal ym mrwydrau Inkerman a Balaclava.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Dogfen am y carcharorion rhyfel