Llangelynnin, Conwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 11: Llinell 11:


[[Categori:Adeiladau rhestredig Graddfa I Conwy]]
[[Categori:Adeiladau rhestredig Graddfa I Conwy]]
[[Categori:Daearyddiaeth Conwy]]
[[Categori:Dyffryn Conwy]]
[[Categori:Dyffryn Conwy]]
[[Categori:Eglwysi Conwy]]
[[Categori:Eglwysi Conwy]]
[[Categori:Hanes Conwy]]
[[Categori:Hanes Conwy]]
[[Categori:Henryd]]
[[Categori:Plwyfi Cymru]]
[[Categori:Plwyfi Cymru]]

Fersiwn yn ôl 18:09, 8 Ionawr 2014

Hen eglwys Sant Celynnin

Cyn-blwyf yn sir Conwy yw Llangelynnin, hefyd weithiau Llangelynnin. Ceir ychydig o ffermydd a thai gwasgaredig yma, ond yr adeilad mwyaf nodedig yw hen eglwys Llangelynnin.

Saif yr eglwys mewn safle anghysbell, 947 troedfedd uwch lefel y môr, uwchben Dyffryn Conwy, ychydig i'r de-orllewin o Henryd. Cysegrir hi i Sant Celynnin, oedd yn byw yn y 6ed ganrif. Credir y gall rhannau o'r eglwys bresennol ddyddio o'r 12fed ganrif, ac mae rhannau healaeth ohoni o'r 14eg ganrif. Adeiladwyd rhan ychwanegol, "Capel y Meibion", yn y 15fed ganrif.

Defnyddid yr hen eglwys yn gyson hyd 1840, pan adeiladwyd eglwys newydd yn is i lawr, gerllaw y Groes Inn ar y ffordd B5106. Mae'r eglwys newydd wedi cau bellach, ond mae ambell i wasanaeth yn cael ei gynnal yn yr hen egllwys yn yr haf. Yn y fynwent mae ffynnon, a elwir yn Ffynnon Gelynnin. Ceir hefyd weddillion stabl gerllaw. Ceir nifer o olion o gyfnod cynharach yn yr ardal hefyd, a hen draciau yn arwain i gyfeiriad Bwlch y Ddeufaen.

Llyfryddiaeth

  • H. Harold Hughes & Herbert L. North The old churches of Snowdonia (Bangor, Jarvis & Foster, 1924)