Llyfr Aneirin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wicidestun
Llinell 24: Llinell 24:
*[http://www.cyberscotia.com/books/e-texts/llyfr-aneirin/bibliography.html Llyfryddiaeth gynhwysfawr ar wefan Cyberscotia]
*[http://www.cyberscotia.com/books/e-texts/llyfr-aneirin/bibliography.html Llyfryddiaeth gynhwysfawr ar wefan Cyberscotia]


{{wicitestun|Llyfr Aneirin}}
{{comin|Category:Book of Aneirin|Llyfr Aneirin}}
{{comin|Category:Book of Aneirin|Llyfr Aneirin}}



Fersiwn yn ôl 15:43, 8 Ionawr 2014

Llyfr Aneirin

Llyfr Aneirin yw un o'r llawysgrifau cynharaf un yn y Gymraeg. Cafodd ei llunio tua'r flwyddyn 1265, a dim ond Llyfr Du Caerfyrddin sydd fymryn yn gynharach o blith y llawysgrifau Cymraeg (ceir rhai llawysgrifau Cymreig a ysgrifenwyd yn Lladin sy'n gynharach na'r ddau lyfr hyn). Mae'n cynnwys testun Y Gododdin gan Aneirin a sawl cerdd arall sy'n perthyn i'r 6ed ganrif efallai, er yr anghytunir am hynny.

Llawysgrif femrwn 6¾ x 5 modfedd yw hi, gyda chyfamswm o 42 tudalen ffolio, 38 ohonynt yn dwyn llawysgrifen. Ceir dwy law ynddi, bron yn gyfoes, ac mae o leiaf tri o dudalennau ffolio yn eisiau ar y diwedd. Rhwymwyd y cyfan mewn lledr croen llo du rywbryd yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol.[1]

Yn ôl y nodiadau ymyl y ddalen a geir ynddi, bu'r llawysgrif ym meddiant y beirdd Dafydd Nanmor (fl. 1450-80) o Wynedd a Gwilym Tew (fl. 1460-80) o Forgannwg ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Trosglwyddwyd y llawysgrif ryw fodd neu'i gilydd i lyfrgell Hengwrt, Meirionnydd, lle cafodd ei gweld gan yr hynafiaethydd Edward Lhuyd yn yr 17eg ganrif. Oddi yno aeth i'r De, yn gyntaf i Aberdâr ac yna i feddiant yr hanesydd Theophilus Jones ac wedyn i Carnhuanawc. Daeth i feddiant y casglwr llawysgrifau brwd Syr Thomas Philipps a chafodd ei rhoi i Lyfrgell Dinas Caerdydd lle y'i diogelir hyd heddiw fel Llawysgrif Caerdydd 2.81 (Caerdydd 1 dan yr hen drefn).

Rhoddir cyfran helaeth o'r llyfr bychan hwn i'r Gododdin, ac am y rheswm yna mae'n cael ei ystyried yn un o drysorau pennaf llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r testunau eraill a geir ynddi, rhai ohonynt yn gymysg â thestun y Gododdin ei hun, yn cynnwys yr hwiangerdd unigryw Pais Dinogad; marwnad i arwr a syrthiodd ym Mwrydr Strathcarron; penillion gwirebol Gorchan Addefon a Gorchan Maeldderw a briodolir i'r bardd Taliesin a ganai yn yr Hen Ogledd yn yr un ganrif ag Aneirin.

Cyfeiriadau

  1. Disgrifiad John Gwenogvryn Evans, dyfynwyd gan Ifor Williams yn Canu Aneirin, tud. xii.

Llyfryddiaeth

  • J. Gwenogvryn Evans (gol.), Facsimile & Text of the Book of Aneirin (Pwllheli, 1898)
  • Daniel Huws, Llyfr Aneirin: A Facsimile / Llyfr Aneirin: Ffacsimile (Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1989)
  • Daniel Huws, Llyfrau Cymraeg 1250-1400 (Aberystwyth, 1992). Darlith Syr John Williams.
  • Morfydd E. Owen, 'Hwn yw e Gododin. Aneirin ae cant.', yn Rachel Bromwich a R. Brinley Jones (gol.), Astudiaethau ar yr Hengerdd (Caerdydd, 1978)
  • Brynley F. Roberts (gol.) Early Welsh Poetry: Studies in the Book of Aneirin (Aberystwyth, 1988)
  • Ifor Williams, Canu Aneirin (Gwasg Prifysgol Cymru, 1938; ail arg. 1961)

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: