Alffa (llythyren): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
B Wedi symud Alpha (llythyren) i Alffa (llythyren) |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 13:37, 9 Mehefin 2007
Alffa (priflythyren A neu ; llythyren fach α neu ) yw'r llythyren gyntaf yn yr wyddor Roeg. Yn y system rhifolion Groegaidd, mae ganddi werth o 1.
Symbolaeth
O ran ei symbolaeth Gristnogol, fel llythyren gyntaf yr wyddor mae Alffa yn cynrychioli Dechreuad y byd a chychwyn y Greadigaeth. Gyda Omega mae'n ffurfio'r monogram sanctaidd 'Α-Ω' sy'n cynrychioli'r Mab, ail berson Y Drindod, gan fod Duw yn dweud 'Myfi yw'r Alffa a'r Omega' yn y llyfr Beiblaidd Datguddiad Ioan (Dat. 1:8). Mae'r arwydd Alffa-Omega i'w gweld yn aml mewn eiconograffeg Gristnogol, e.e. mewn eiconau Groeg a Rwsiaidd.