[[Delwedd:Tunisia jendouba gov.jpg|200px|bawd|Lleoliad talaith Jendouba yn TunisiaNhiwnisia]]
Mae '''Jendouba''' ([[Arabeg]]: ولاية جندوبة) yn [[taleithiau TunisiaTiwnisia|dalaith]] yn [[TunisiaTiwnisia|Nhiwnisia]]. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad, ar y ffin ag [[Algeria]] gyda rhimyn o arfordir (25 km) ar lan [[Môr y Canoldir]] yn y gogledd. Mae pen gogleddol dyffryn [[afon Medjerda]] yn gorwedd yn y dalaith, sy'n codi yn y gogledd a'r dwyrain i fynyddoedd y [[Kroumirie]]. [[Jendouba]] yw canolfan weinyddol y dalaith a'i dinas fwyaf o bell ffordd. Mae gan y dalaith arwynebedd o 3,102 km² a phoblogaeth o 417,000 (cyfrifiad 2004).
[[Delwedd:Cefn gwlad Jendouba.JPG|250px|bawd|chwith|Cefn gwlad Jendouba yn y gwanwyn]]
Bu'r dalaith yn rhan o [[Affrica (talaith Rufeinig)|dalaith Rufeinig Affrica]] a dan reolaeth brenhinoedd [[Numidia]] o bryd i'w gilydd, a cheir sawl safle archaeolegol yno. Y pwysicaf o'r rhain yw dinas Rufeinig [[Bulla Regia]], yn agos i ddinas Jendouba, a [[Chemtou]] a [[Thubernica]] yn y gogledd.
Mae rheilffordd yn cysylltu'r dalaith â [[TunisTiwnis|Thiwnis]] i'r dwyrain ac ag Algeria i'r gorllewin. Ar wahân i Jendouba ei hun, yr unig drefi eraill o bwys yw [[Ghardimao]], y dref olaf cyn Algeria, a [[Bou Salem]]. Llai poblog ond o bwys fel canolfannau lleol yw brynfa uchel [[Aïn Draham]] a thref glan môr [[Tabarka]]. Yn y bryniau coediog ceir nifer o bentrefi fel Souk Djemaa. Fel yn achos gweddill y rhan yma o'r wlad, mae talaith Jendouba yn gallu bod yn oer yn y gaeaf gyda siawns o eira ar y bryniau.
== Dinasoedd a threfi ==
* [[Tabarka]]
{{Taleithiau TunisiaTiwnisia}}
[[Categori:Talaith Jendouba| ]]
[[Categori:Taleithiau TunisiaTiwnisia]]
|