Rhupunt hir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Llinell 20: Llinell 20:
*[[Y pedwar mesur ar hugain]]
*[[Y pedwar mesur ar hugain]]


[[Categori:Cerdd Dafod]]
{{eginyn llenyddiaeth}}

[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]]
[[Categori:Mesurau caeth]]
[[Categori:Mesurau caeth]]
[[Categori:Termau llenyddol]]
[[Categori:Termau llenyddol]]

Fersiwn yn ôl 00:22, 23 Tachwedd 2013

Y pedwar mesur ar hugain
Sion Cent
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr.
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Un o'r pedwar mesur ar hugain ydyw'r rhupunt hir, sef un o'r mesurau caeth. Mae iddo bedair rhan, pob un yn bedair sillaf yr un. Mae un llinell, felly, yn 16 sillaf. Y patrwm odlau yma ydy a, b, a, b.

Mae diwedd chwarter cyntaf pob llinell yn odli gyda diwedd yr ail chwarter a'r trydydd chwarter; ac mae hwnnw yn creu cynghanedd (croes neu traws) gyda'r rhan olaf (y pedwerydd chwarter).

Dyma bennill o waith Tudur Aled:

Pybyr nerthwr pob dierthwr,
Pab, aberthwr, pawb a borthed;
Pob llawenydd hyd Faelienydd,
Pob awenydd, pawb a aned.

Gall pob traean ddiweddu'n acennog neu'n ddiacen ond fel arfer mae'r ddau draenau cyntaf o bob llinell yn ddiacen gyda'r odl yn odl ddwbwl, fel yn yr enghraifft uchod. Arferid hefyd cynganeddu'r ddwy ran gyntaf pan oeddent yn diweddu'n acennog.

O edrych ar bob cwpled fel un llinell, gwelir eu bônt hefyd yn ffurfio math o gynghanedd sain, sef y gynghanedd sain deirodl.

Gweler hefyd